2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 13 Mai 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:56, 13 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn gwbl anghywir yn meddwl nad yw'r gyfraith honno'n berthnasol yng Nghymru. Mae hi yn berthnasol yng Nghymru; mae'n parhau i fod yn berthnasol yng Nghymru.