2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 13 Mai 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:12, 13 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, soniasoch yn eich datganiad am bobl nad ydyn nhw'n teimlo'n arbennig o ddiogel gartref drwy'r amser, ac mae fy nghwestiwn i'n cael ei gymell gan fy mhryderon amdanyn nhw a nifer gynyddol o etholwyr sy'n cysylltu â mi ynglŷn â'u hiechyd meddwl, a chwestiynau sy'n codi o ganllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch aros gartref. Dim ond i fod yn eglur, nid yw hyn yn ymwneud â gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr ond canllawiau Llywodraeth Cymru ei hun, a adlewyrchwyd, a dweud y gwir, yn eich sylwadau dryslyd a wnaed ychydig ddyddiau yn ôl.

Pan fyddwch chi'n ei chyhoeddi ddydd Gwener, a fydd y dystiolaeth wyddonol yr ydych chi'n dibynnu arni'n llwyr yn tynnu sylw penodol at y dystiolaeth sy'n ategu'r ffaith bod cynulliad o ddau o bobl o wahanol aelwydydd yn ddiogel, neu ei bod yn ddiogel i ddau o bobl o wahanol aelwydydd ddigwydd gweld ei gilydd mewn llyfrgell, ond nid i ddau o bobl o wahanol aelwydydd, lle na fu unrhyw symptomau ers wythnosau, fynd am dro gyda'i gilydd yn fwriadol gan gadw pellter cymdeithasol, yn hytrach na'r cyfarfod ar hap y cyfeiriasoch ato'n gynharach?

Ac a fydd hefyd yn tynnu sylw at y dystiolaeth sy'n dweud ei bod hi'n ddiogel i yrru a chyfarfod gydag unrhyw un mewn canolfan arddio, yn amodol ar gadw pellter cymdeithasol, ond nad yw'n ddiogel gyrru—cewch gerdded neu feicio, ond nid gyrru—i'ch llyn neu'ch traeth agosaf i fynd i bysgota ar eich pen eich hun? Neu a allwch chi gadarnhau mai ystyr 'lleol' mewn gwirionedd yw 'agosaf' o dan yr amgylchiadau hynny?