Part of the debate – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 13 Mai 2020.
Cyn i mi alw ar Huw Irranca-Davies, a gaf i wneud yn siŵr bod yr Aelodau yn rhoi eu meicroffonau yn agos at eu cegau pan eu bod nhw'n siarad? Dim ond newydd sylwi wyf i efallai nad oedd hynny'n wir am feicroffon Neil Hamilton y tro yna, ond roedd hi fwy neu lai yn bosibl clywed. Felly, dim ond i atgoffa yr holl Aelodau, a—phwy ddywedais i? Ie, Huw Irranca-Davies.