2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 13 Mai 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:25, 13 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Llywydd, ymddiheuriadau fy mod i wedi ei chael hi'n anodd clywed ychydig o'r hyn yr oedd yr Aelod yn ei ddweud, ond rwy'n credu mai byrdwn ei ddadl yw ein bod ni'n 'ffôl', rwy'n credu oedd y gair a ddefnyddiodd, i ganolbwyntio ar y gwerth R ac y dylem ni fod yn feiddgar. Wel, gadewch i mi ddweud wrtho beth fyddai bod yn feiddgar yn ei olygu: rydym ni'n credu mai 0.8 yw'r gwerth R yng Nghymru ar hyn o bryd, a hyd yn oed ar 0.8 mae'n rhaid i ni ragweld y bydd 800 o ddinasyddion ychwanegol yng Nghymru yn marw oherwydd y feirws dros y tri mis nesaf. Pe byddai'r rhif R yn codi i 1.1—felly mae hynny'n nifer fach iawn o ddegfed rhan o un—pe byddai'n cynyddu i 1.1, byddai nifer y marwolaethau dros y cyfnod hwnnw o dri mis yn 7,200. Felly pris bod yn feiddgar yw marwolaeth 6,500 o bobl yng Nghymru.

Rwy'n gweld nad yw'r Aelod yn cytuno, ond nid fi sy'n dweud hyn. Rwyf i'n rhoi iddo'r ffigurau gorau posibl y mae ein epidemiolegwyr a'n meddygon iechyd cyhoeddus yn eu cynnig. Ac mae hwn yn ffigur y cytunir arno ar draws y Deyrnas Unedig. Ar 0.8, gallai 800 o bobl, yn anffodus dros ben, farw dros y tri mis nesaf. Ar 1.1—dim ond y cynnydd bach iawn hwnnw—mae'n 7,200. Mae'n hawdd eistedd yn y fan yma a bod yn feiddgar. Nid wyf i'n barod i fod yn feiddgar pan fyddai'n rhaid i 6,500 o'n cyd-ddinasyddion ddwyn baich y beiddgarwch hwnnw.