4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 13 Mai 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:50, 13 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf i dynnu sylw'r Aelodau at y fframwaith gweithredu newydd a gyhoeddais i gynorthwyo sefydliadau'r GIG i ganolbwyntio a chynllunio yn chwarter 1. Disgrifiodd y fframwaith bedair lefel o niwed: niwed gan COVID-19 yn uniongyrchol ei hun; niwed yn sgil llethu'r GIG a'r system gofal cymdeithasol; niwed yn sgil lleihad mewn gweithgarwch nad yw'n gysylltiedig â COVID; a niwed yn sgil camau gweithredu cymdeithasol ehangach a allai ddeillio o'r cyfyngiadau symud.

Nawr, rwyf eisiau sôn mwy am y niwed a achosir gan leihad mewn gweithgarwch nad yw'n gysylltiedig â COVID. Mae llawer o bobl yn dal i fyw â chyflyrau difrifol ac mae angen diagnosis, triniaeth a gofal parhaus arnynt. Mae angen inni sicrhau bod gan y bobl hyn y ffydd y gallan nhw gael eu trin yn ddiogel. Mae angen iddyn nhw wybod y byddant yn parhau i gael yr un gofal ac arbenigedd ar gyfer triniaeth frys, a'i bod hi'n ddiogel dod i mewn ar gyfer triniaethau a chael diagnosis. Yn y pen draw, fodd bynnag, mae hyn yn ymwneud â thrafodaethau rhwng cleifion a'r clinigwyr a fydd yn eu trin, gyda sgyrsiau gonest ynghylch a oes materion penodol i'w hystyried. Ac, wedi gwneud hyn i gyd, gall y claf ddewis dilyn, wrth gwrs, neu beidio â dilyn y cyngor a roddir. Y gwir amdani yw bod yn rhaid taro'r cydbwysedd rhwng gofalu am bobl â COVID arnyn nhw a'r rhai nad oes COVID arnyn nhw gyda'r gofal mwyaf. Ond mae'r neges yn glir: mae'r GIG yno i chi ac mae'n parhau i gynnig gwasanaeth.

Rwyf eisiau cydnabod yn benodol y niwed a achosir gan leihad mewn gweithgarwch nad yw'n ymwneud â COVID i'r bobl hynny y mae arnyn nhw angen cymorth gan ein gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y pandemig. Yn ystod y cyfnod digyffelyb hwn, rhaid inni sicrhau ein bod yn trin y gwasanaethau iechyd corfforol a meddyliol yn gyfartal. Gwn fod y cyfnod o gyfyngiadau symud yn anodd i lawer o bobl, ond i rai pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl gall fod yn arbennig o heriol. I rai, bydd wedi achosi i'w cyflwr ddirywio ar adeg pan fônt wedi'u gwahanu oddi wrth eu rhwydweithiau cymorth arferol— teulu, ffrindiau ac o bosib, gwaith hefyd—a phan nad yw hi'n bosib defnyddio gwasanaethau nad ydynt yn rhai brys yn ôl yr arfer. Mewn ymateb, rydym ni wedi gweithio gyda'n partneriaid i gyflwyno amrywiaeth o fesurau i gefnogi'r rhai y gallai fod angen cymorth a sicrwydd arnyn nhw. Mae hynny'n cynnwys gwybodaeth ar-lein wedi'i theilwra a chymorth ar y ffôn.

Mae offeryn monitro iechyd meddwl yn ystod y cyfnod COVID-19 wedi cael ei ddatblygu yn y gwasanaeth er mwyn sicrhau ein bod yn cael sicrwydd yn y Llywodraeth bod gwasanaethau iechyd meddwl yn gweithredu'n ddiogel ac yn ymateb yn briodol. Mae'n ofynnol i fyrddau iechyd gyflwyno gwybodaeth fonitro bob wythnos, a chaiff hyn ei hystyried gan ein grŵp digwyddiadau iechyd meddwl. Mae'r wybodaeth yn rhoi darlun byw o gapasiti gwasanaethau iechyd meddwl i'n galluogi i weld lle mae angen cymorth, cyngor neu arweiniad ychwanegol. Er y bydd modelau gwasanaeth wedi addasu yn ystod y pandemig, mae byrddau iechyd a phartneriaid wedi dweud eu bod wedi parhau i ddiwallu anghenion iechyd meddwl yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd sefydliadau'r GIG yn cyflwyno eu cynlluniau chwarter 1 yr wythnos nesaf, gan amlinellu sut y gallant ymgymryd â gweithgarwch nad yw'n ymwneud â COVID-19. Er mwyn cefnogi'r gwaith hwnnw, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r GIG ehangach i ddatblygu cyngor sy'n seiliedig ar dair colofn gref: yr angen i ddeall lefel bresennol yr haint a chyfraddau trosglwyddo'r coronafeirws yng Nghymru; egwyddorion sy'n seiliedig ar dystiolaeth wyddonol ac sy'n mynd i'r afael â'r effeithiau cymdeithasol ac economaidd ehangach; a'r angen i brofi, olrhain a diogelu. Mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod yn gynharach heddiw wedi cyhoeddi ein strategaeth 'Profi Olrhain Diogelu'. Mae'n amlinellu, dros saith tudalen a hanner, sut y byddwn yn cydweithio'n agos ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i gyflawni un o'r ymyriadau mwyaf o ran iechyd y cyhoedd mewn cenhedlaeth.

Drwy weithio gyda'n gilydd, byddwn yn gwella gwyliadwriaeth iechyd yn y gymuned, yn cynnal systemau olrhain cyswllt effeithiol ac eang, ac yn cynorthwyo pobl i ynysu eu hunain lle bo angen. I gefnogi'r gweithgarwch hwn, bydd angen rhaglen brofi ar raddfa wahanol. Rydym wedi ehangu'n sylweddol ein gallu i brofi yng Nghymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf, gyda labordai bellach yn gallu prosesu dros 5,000 o brofion y dydd, a chyda chanolfannau profi ar agor o amgylch y wlad erbyn hyn. Byddwn yn parhau i gynyddu'r gallu hwn yng Nghymru dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, o fewn yr ystod o 10,000 o brofion y dydd. Bydd hynny'n ein galluogi i brofi mwy o bobl sy'n aros mewn ysbytai a lleoliadau gofal, ynghyd â gweithwyr mewn lleoliadau eraill sy'n weithwyr hanfodol.

I gefnogi ein hymgyrch i brofi cyfraddau sylweddol o'r boblogaeth, byddwn yn defnyddio'r rhaglen brofi sydd ar waith ledled y DU. Nawr, mae NWIS, sef Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a NHSx—sef yr uned ar y cyd sy'n dod â thimau o'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Llywodraeth y DU a GIG Lloegr a NHS Improvement i helpu i ddarparu gwasanaethau trawsnewid a gofal digidol yn Lloegr; nhw sy'n gyfrifol am ddatblygiad yr ap y mae pobl wedi clywed amdano ar Ynys Wyth. Gan weithio gyda Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, maen nhw'n datblygu datrysiad data fel y caiff canlyniadau profion eu hadrodd yn ôl yn electronig i Gymru bob awr, a bellach mae hynny'n golygu y gallwn ni gymryd ein cyfran o'r boblogaeth o raglen brofi'r Deyrnas Unedig. Mae'n hanfodol ein bod yn gallu integreiddio'r cofnod prawf hwn yn uniongyrchol i systemau cofnodion clinigol Cymru. Bydd cymryd rhan yn rhaglen y DU yn cynyddu nifer y profion sydd ar gael yn sylweddol ac yn caniatáu i bobl gael profion wedi eu danfon i'w cartref er mwyn iddyn nhw brofi eu hunain.

At ei gilydd, gallem ofyn am gynifer â 20,000 o brofion y dydd i gefnogi diagnosis a thriniaeth, gwyliadwriaeth iechyd y boblogaeth, olrhain cyswllt a pharhad busnesau. Bydd hynny, wrth gwrs, yn galluogi gweithwyr allweddol i ddychwelyd i'r gwaith yn gynt ac yn fwy diogel. Bydd hefyd, wrth gwrs, yn dibynnu ar hynt, nid yn unig y coronafeirws ond ar y broses o godi'r cyfyngiadau symud yn raddol a gweithgarwch pellach i aelodau'r cyhoedd. Ond mae'r nifer hwn yn dibynnu'n fawr ar ledaeniad y clefyd, cyffredinolrwydd y symptomau a'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ynglŷn â sut orau y gellir defnyddio'r profion i atal heintiau pellach. Byddwn yn parhau i adolygu'r dystiolaeth honno ac addasu ein hamcangyfrifon o angen yn unol â hynny. Mae cyfuno ein capasiti ein hunain yma yng Nghymru ag un y DU yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i brofi yn ôl yr angen.

Rhaid inni ddysgu byw gyda'r feirws sy'n cylchredeg yn ein cymunedau am fisoedd lawer i ddod. Mae mabwysiadu'r dull hwn yn ffordd i bobl gael gwybod yn gyflym bod y feirws arnyn nhw fel y gallan nhw, yn eu tro, gyfyngu ar eu cysylltiad ag eraill. Bydd hyn yn ein helpu i atal heintiau ac olrhain y feirws wrth i gyfyngiadau symud gael eu lliniaru.

Yn olaf, pobl Cymru yw ein partneriaid pwysicaf. Dim ond drwy eu parodrwydd i wneud y peth iawn—rhoi gwybod am eu symptomau, dweud â phwy y maen nhw wedi dod i gysylltiad a chymryd sylw o'r cyngor pan ddywedir wrthyn nhw i hunanynysu—y gallwn ni dorri'r gadwyn drosglwyddo. Hoffwn ddiolch i'r cyhoedd am barhau i gefnogi trefniadau'r cyfyngiadau symud. Mae ymateb y rhai o fewn y GIG, gofal cymdeithasol, plismona ac, yn wir, y cyhoedd yn gyffredinol wedi tawelu fy meddwl. Maen nhw'n cefnogi'r agwedd bwyllog a realistig yr ydym ni'n ei chymryd, ac mae wedi cael croeso eang.

Dydw i ddim yn amau am eiliad, fodd bynnag, nad yw hi'n anodd parhau â'r cyfyngiadau sydd wedi cael eu gosod. Fodd bynnag, cadw'r mesurau eithriadol hyn yn eu lle, ynghyd â'r gefnogaeth gyhoeddus eang sydd iddynt, yw'r ffactor pwysicaf o hyd o ran amddiffyn y GIG a chadw ein teulu, ein ffrindiau a'n hanwyliaid yn ddiogel. Yn fwy na hynny, mae'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf o ran cadw pobl yn ddiogel na fyddwn ni fyth efallai yn eu hadnabod ac na chawn ni fyth efallai mo'r cyfle i'w hadnabod.

Diolch. Rwy'n hapus i gymryd cwestiynau ar y datganiad, Llywydd.