4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 13 Mai 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:18, 13 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Fel y dywedais o'r blaen, ac mae'n debyg y bydd gennyf gyfle i ddweud hyn ar bob un achlysur pan ddof yma, pan fydd y dystiolaeth yn newid, os bydd y cyngor yn newid, mae'r Llywodraeth yn hapus i ailystyried ei safbwynt ar unrhyw un o'r meysydd gweithgaredd yr ydym yn ymgymryd â nhw. Mae hynny'n cynnwys y sylfaen dystiolaeth sy'n datblygu ar brofi pobl heb symptomau mewn cartrefi gofal. Fe gofiwch i ni newid ein polisi ar brofi yn y maes cartrefi gofal yn ei gyfanrwydd rai wythnosau yn ôl ar gyfer ardaloedd lle'r oedd achos wedi ei gadarnhau neu achos tybiedig lle'r oedd symptomau gan rywun, felly byddwn yn dysgu mwy o hynny am brofi pobl heb symptomau, yr achosion tebygol a hefyd y gwerth yn y ffordd yr ydym yn defnyddio ein hadnodd profi, a'r gwerth yr ydym yn disgwyl ei gael o hynny. Mae'n bwysig iawn deall sut yr ydym yn defnyddio hynny yn y ffordd orau i gadw cymaint o bobl yn ddiogel, yn iach ac yn fyw ag y bo modd. Felly, unwaith eto, os yw'r dystiolaeth yn newid, yna rwy'n fodlon newid pethau, ac yn sicr nid fy mwriad yw bod yn ystyfnig a gwrthod ildio ar unrhyw un o'r materion hyn, oherwydd mae'n rhaid i'r cyfan ymwneud â'r flaenoriaeth a'r diben mawr, sy'n ymwneud â chadw pobl yn fyw ac yn iach.

O ran rhyddhau cleifion o'r ysbyty, rydym ni wedi cyflwyno polisi lle y dylid profi cleifion yn yr ysbyty cyn eu rhyddhau i gartref gofal. Os yw Aelodau unrhyw grŵp yn ymwybodol o rywle lle credant nad yw hynny'n digwydd, neu fod ganddyn nhw achosion o bobl sydd wedi dod atyn nhw, dylen nhw drafod hynny gyda'r bwrdd iechyd i ddechrau, ond os nad oes yna ymateb priodol, yna ar bob cyfrif cysylltwch â'm swyddfa i, oherwydd byddwn eisiau gwybod os nad yw'r materion hynny'n cael sylw yn unol â'r penderfyniad gweinidogol ar hyn yr wyf eisoes wedi'i wneud a'i gyfleu.

Mae'r sylwadau am gwarantîn braidd yn anoddach oherwydd, unwaith eto, mae arnom ni angen sylfaen dystiolaeth ynghylch beth yw gwerth hynny. Bydd yr aelod ac eraill yn gwybod nad yw'r ymadrodd 'cwarantîn' yn ddefnyddiol, yn ôl pob tebyg, ond deallaf yr hyn y mae'r Aelod yn ceisio'i gyfleu. Ond os ydych chi'n mynd i gadw pobl yn rhywle, lle fydd hynny? A ydych yn dal i wneud yn siŵr bod pobl yn cael symud, oherwydd fe achosir niwed gwirioneddol pan gaiff pobl eu cadw mewn amgylchedd amhriodol, lle nad yw ysbyty bellach yn lle priodol i rywun, yn enwedig pobl hŷn, yna gellir achosi niwed gwirioneddol, nid yn unig heintiau a ddelir wrth gael gofal iechyd ond hefyd y broses o ddatgyflyru corfforol.

Pan fyddwn yn sôn am y niwed sy'n cael ei achosi, yr hyn nad ydym ni eisiau ei wneud yw anwybyddu'r niwed y gellir ei achosi mewn gwirionedd a'r niwed cymdeithasol ehangach a all gael ei achosi gan bobl yn datgyflyru'n gorfforol ac yn colli eu hannibyniaeth hefyd. Yr hyn nad wyf eisiau ei wneud yw llenwi pob un o'n hysbytai maes fel canolfannau lle caiff pobl eu cadw cyn mynd yn ôl i'r sector cartrefi gofal. Rydym ni wedi cael sgwrs genedlaethol drwyadl ynghylch sut yr ydym yn defnyddio'r gallu hwnnw. Yr hyn na fyddwn i eisiau ei weld yw cynnydd pellach o bosib yn y coronafeirws ym mis Medi, gyda'n hysbytai maes yn llawn o bobl bryd hynny a allai ac a ddylai fod mewn cartrefi gofal.

Mae angen inni ddeall y dystiolaeth, mae angen inni gael sgwrs gyda phob rhan o'n system, ac mae hynny'n cynnwys llywodraeth leol a phobl fel Fforwm Gofal Cymru, sy'n cynrychioli llawer o bobl yn y sector cartrefi gofal, er mwyn deall beth yw'r ateb cywir, sut yr ydym yn magu ffydd yn y system, sut yr ydym yn deall y gwahanol niwed y gellir ei achosi drwy wneud dewisiadau gwahanol. Felly, nid ymateb drws caeedig mohono, ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni feddwl ynghylch beth fydd natur y dystiolaeth honno, ac rwyf eisoes wedi gofyn i'r maes iechyd ac i lywodraeth leol ddod at ei gilydd i drafod, ac yna i gynnwys ein cydweithwyr yn Fforwm Gofal Cymru i ddeall beth fydd union natur hynny.