Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 13 Mai 2020.
Bydd diweithdra yng Nghymru yn sicr yn codi'n gyflym, er gwaethaf y mesurau sydd wedi'u rhoi ar waith gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Y rhai mwyaf difreintiedig—y rhai sydd ar gyflog isel, mewn cyflogaeth ansicr, a phobl ag iechyd gwael—fydd y rhai mwyaf tebygol o wynebu'r risg. Bydd pobl ifanc sy'n ymuno â'r farchnad lafur yn wynebu cyfnod arbennig o anodd, ac mae'r dystiolaeth o gyfnodau blaenorol o ddirwasgiad yn dangos y gallai hyn arwain at effeithiau negyddol parhaol ar eu hincwm, iechyd, lles a hyd yn oed disgwyliad oes.
Er mwyn ariannu'r camau gweithredu a gymerwyd gennym, rydym ni wedi cael cynnydd yn ein cyllideb ar ffurf symiau canlyniadol o wariant gan Lywodraeth y DU ar fesurau yn Lloegr. Hyd yn hyn, rydym yn disgwyl dros £2.1 biliwn sydd ymhell dros 10 y cant o'n cyllideb arfaethedig.
Er mwyn amddiffyn y GIG ac achub bywydau, bu angen i ni wneud penderfyniadau anodd i ariannu gweithgareddau sy'n ein paratoi am y gwaethaf yn y gobaith na fydd eu hangen yn llawn. Rydym ni hefyd wedi cymryd camau pendant i ryddhau, drwy ailflaenoriaethu ac addasu at ddibenion gwahanol, mwy na £0.5 biliwn o'n cyllideb ein hunain a chyllid Ewropeaidd i gefnogi economi Cymru a sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus wedi'u harfogi i ymdopi â'r pandemig coronafeirws.
O'r gronfa wrth gefn hon i ymateb i'r coronafeirws, rydym ni eisoes wedi rhoi dros £300 miliwn i'r GIG i gefnogi blaenoriaethau gan gynnwys cyflenwi cyfarpar diogelu personol, darpariaeth ysbyty maes, buddsoddi mewn profi ac olrhain, a recriwtio i'r GIG.
Rydym ni hefyd yn cymryd camau pendant i amddiffyn y bobl fwyaf difreintiedig mewn cymdeithas. Rydym ni wedi darparu £11 miliwn ychwanegol o gymorth ar unwaith ar gyfer y rhai sy'n wynebu caledi o ganlyniad i'r pandemig, £15 miliwn i sefydlu parseli bwyd wythnosol i'r rhai a warchodir, a £24 miliwn ar gyfer cronfa ymateb Covid-19 y trydydd sector, yn targedu'r pwysau y mae elusennau a'r trydydd sector yn eu hwynebu. Rydym ni hefyd wedi cyhoeddi cymorth ychwanegol o hyd at £6.3 miliwn ar gyfer hosbisau yng Nghymru.
Ynghyd â'r camau gweithredu hyn, rydym ni hefyd yn rhoi £500 yn ychwanegol i bawb sy'n gweithio ar y rheng flaen mewn gofal cymdeithasol, gan gydnabod nad yw cyfradd y farchnad ar gyfer y swydd yn adlewyrchu pwysigrwydd enfawr y gwaith a wnânt mewn unrhyw ffordd.
Rydym ni wedi gweithredu i ddiogelu'r gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a ddarperir gan ein hawdurdodau lleol drwy gronfa galedi awdurdodau lleol o £110 miliwn, ac mae hyn yn cynnwys £40 miliwn i gael bwyd i deuluoedd sydd â'r hawl i gael prydau ysgol am ddim tra bo ysgolion wedi cau, £40 miliwn i gefnogi'r costau ychwanegol y mae gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn eu hwynebu nawr, yn ychwanegol at y taliad o £500 yr wyf newydd gyfeirio ato, a £10 miliwn i helpu cynghorau i weithredu ar unwaith i amddiffyn y digartref a'r rhai sy'n cysgu allan.
Rydym ni hefyd wedi defnyddio pecyn digyffelyb o fesurau i gefnogi'r economi ac amddiffyn swyddi. Rydym ni'n buddsoddi £1.7 biliwn yn ogystal â mesurau hanfodol a lansiwyd gan Lywodraeth y DU, fel y cynllun cadw swyddi. Mae ein cefnogaeth yn cynnwys mwy na £1 biliwn y mae Llywodraeth Leol yn ei ddosbarthu ar ein rhan drwy ryddhad ardrethi busnes a grantiau cysylltiedig i fusnesau yn y sectorau lletygarwch, hamdden a thwristiaeth.
Rydym ni hefyd wedi sefydlu cronfa cadernid economaidd o £500 miliwn i gynnig cymorth hanfodol i fusnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol, yn ychwanegol at yr hyn sydd ar gael yn Lloegr. O'r £500 miliwn, mae cronfa benthyciadau Banc Datblygu Cymru o £100 miliwn eisoes wedi cymeradwyo dros 1,300 o fenthyciadau, gyda chyfanswm o dros £100 miliwn, sy'n diogelu 15,000 o swyddi.
Mae'r gronfa grant £400 miliwn sy'n weddill yn cynnig cymorth yn arbennig i'r cwmnïau bach a chanolig eu maint sy'n hanfodol i economi Cymru, ochr yn ochr â'n helusennau a'n mentrau cymdeithasol. Gwelodd y broses ymgeisio ar gyfer y gronfa hon y swm anhygoel o 9,500 o hawliadau yn cael eu cyflwyno mewn ychydig mwy nag wythnos. Heddiw mae £70 miliwn o gymorth o'r gronfa hon eisoes wedi'i gynnig i fwy na 5,000 o fusnesau, elusennau a mentrau cymdeithasol ac mae'n dechrau mynd i gyfrifon banc ledled Cymru. O ganlyniad i'r camau a gymerwyd gennym ni, gall busnesau Cymru, elusennau a mentrau cymdeithasol fanteisio ar y cymorth busnes mwyaf hael yn y DU gyfan.
Pwysodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a minnau ar Lywodraeth y DU i ymestyn y cynllun cadw swyddi, ac rwy'n croesawu'r cyhoeddiad a wnaethpwyd gan y Canghellor ddoe. Dim ond Llywodraeth y DU sydd â'r gallu ariannol i weithredu'r cynlluniau mawr y mae eu hangen arnom ni i amddiffyn pobl a busnesau rhag eithafion gwaethaf yr argyfwng.
Fel sy'n wir am wledydd datganoledig eraill, mae hyn yn golygu y byddai'r cyllid mawr a gaiff ei ddefnyddio gennym ni fel Llywodraeth Cymru yn cael ei danseilio'n ddifrifol pe bai'r cynllun cadw swyddi'n cael ei wanhau neu ei derfynu ar yr adeg anghywir. Ni wnaeth Trysorlys y DU ymgynghori â'r gwledydd datganoledig ar y penderfyniad diweddaraf, ond gall y Canghellor wella ar hyn a gweithio nawr i ymgysylltu â ni cyn i benderfyniadau mawr gael eu gwneud yn yr wythnosau nesaf.
Byddaf yn cyhoeddi cyllideb atodol ar 27 Mai, yn rhoi mwy o eglurder ynglŷn â'r newidiadau i'n cyllideb ers mis Mawrth, a fydd yn canolbwyntio ar roi mwy o fanylion am y camau yr ydym ni wedi'u cymryd i ymateb i'r coronafeirws.
Wrth i'n sylw ni symud oddi wrth effeithiau uniongyrchol yr argyfwng hwn i adferiad, mae llawer o ansicrwydd o'n blaenau. Efallai y bydd angen inni ddod o hyd i fwy o gyllid i ymdrin â'r argyfwng uniongyrchol a chyllido ymdrechion i ailgychwyn ac adfer, ac rydym ni hefyd yn wynebu'r risg o newidiadau pellach i'n cyllideb gan Lywodraeth y DU yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Byddaf hefyd yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o hyblygrwydd ariannol i'n helpu i ymdopi yn y cyfnod hwn na welwyd ei debyg o'r blaen. Yn benodol, rwy'n ceisio cael mwy o fynediad i gronfa wrth gefn Cymru eleni, llacio ein terfynau benthyca, a mwy o gyfle i newid rhwng cyllidebau refeniw a chyfalaf. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid annibynnol hefyd wedi dadlau'n ddiweddar dros wneud newidiadau o'r fath i helpu Cymru i ymateb i'r argyfwng.
I gloi, bob dydd, rydym yn wynebu dewisiadau anodd ynglŷn â defnyddio ein hadnoddau prin a chyfyngedig. Er y bydd yr amgylchiadau hyn yn parhau i ofyn am benderfyniadau anodd ychwanegol, byddwn yn parhau i wneud y dewisiadau cywir, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau, ac ar ein gwerthoedd. Diolch yn fawr iawn.