5. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Y goblygiadau cyllidol i Gymru yn sgil effaith COVID-19 a'r ymateb iddo

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 13 Mai 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 4:17, 13 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Ar 3 Mawrth pasiwyd cyllideb derfynol 2020-21 gan y Senedd, ac mae cymaint wedi digwydd yn y 10 wythnos ers hynny. Roeddem ni eisoes wedi wynebu amgylchiadau na welsom ni erioed mo'u tebyg wrth bennu ein cynlluniau ar gyfer cyllideb 2020-21 a hynny ar adeg o gyni parhaus yn y DU, ansicrwydd parhaus Brexit ac effeithiau dinistriol y llifogydd diweddar. Roedd cyllideb hwyr Llywodraeth y DU ar 11 Mawrth hefyd yn golygu newidiadau pellach i'n setliad. Bydd yr Aelodau'n cofio fy mod, o ganlyniad, wedi ymrwymo i wneud datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhagolygon ac unrhyw newidiadau eraill o ran cyllid ar gyfer Cymru. Rwy'n darparu'r manylion hynny heddiw, ond yn amlwg rydym ni nawr mewn sefyllfa wahanol iawn.

Rydym ni nawr yn ymateb i effeithiau datblygol a dinistriol pandemig y coronafeirws, sy'n gofyn am wario digyffelyb gan y Llywodraeth yn ddi-oed ac ar raddfa fawr a heb ei debyg ers y rhyfel. Felly, byddaf yn canolbwyntio heddiw ar yr ymdrechion eithriadol y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i ddefnyddio ein cyllideb yn y ffordd orau bosibl i ymateb i argyfwng y coronafeirws, ac i ddangos sut y mae'r penderfyniadau yr ydym wedi'u gwneud yn adlewyrchu ein gwerthoedd fel Llywodraeth.

Mae'r rhagolygon ar gyfer cyllid cyhoeddus yn llwm. Yn ôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, gallai diffyg ariannol y DU fod yn £273 biliwn eleni. Mae hynny bum gwaith yn uwch na'r disgwyl ddeufis yn unig yn ôl adeg cyllideb y DU, ac yn sylweddol uwch nag yr oedd ar anterth y benthyca yn ystod yr argyfwng ariannol ddegawd yn ôl. Bydd y cynnydd hwn yn deillio'n rhannol o wariant cyhoeddus uwch i ymdrin â'r argyfwng presennol, ond hefyd oherwydd llawer llai o dderbyniadau treth, yn sgil y gostyngiad mewn gweithgarwch economaidd. Bydd y cyfyngiadau symud yn effeithio ar refeniw treth datganoledig yn yr un modd â threthi eraill; gallwn ddisgwyl ergyd sylweddol. Fodd bynnag, mae'r fframwaith cyllidol yn diogelu ein cyllideb rhag ergydion economaidd ledled y DU. O ganlyniad, dylai effaith net llai o weithgarwch economaidd a derbyniadau treth ar ein cyllideb eleni fod yn fach, ond byddwn, wrth gwrs, yn cadw golwg fanwl ar y sefyllfa hon.

O ran y cyd-destun economaidd ehangach, mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a Banc Lloegr wedi cydnabod ei bod hi bron yn sicr y bydd yr epidemig, a'r mesurau angenrheidiol a roddir ar waith i geisio atal ei ledaeniad, yn arwain at leihau gweithgarwch economaidd yn syth i raddau digyffelyb o fewn cof.