5. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Y goblygiadau cyllidol i Gymru yn sgil effaith COVID-19 a'r ymateb iddo

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 13 Mai 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 4:27, 13 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Mae'n amlwg bod y rhain yn ddyddiau tywyll i'r economi gan ei bod yn anochel bod y cyfyngiadau symud yn achosi'r gostyngiad mewn twf economaidd a chynnyrch domestig gros a amlinellwyd gennych chi. Felly, mae'r rhan y mae Llywodraeth Cymru yn ei chwarae o ran cefnogi busnesau a pharatoi ar gyfer y dyfodol ar yr adeg hon, yn wir, yn hanfodol.

O gofio hyn, byddwch yn ymwybodol y bu pryder mawr, yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf, ynghylch y cyhoeddiad gan Debenhams y bydd yn rhaid cau pob un o'i bump siop yng Nghymru, gan gynnwys y siopau blaenllaw yng Nghasnewydd a Chaerdydd, os na fydd Llywodraeth Cymru yn gwrthdroi ei phenderfyniad i roi uchafswm ar ryddhad ardrethi busnes. Rwy'n credu bod hwn yn arwydd clir o rybudd. Os na fydd y siopau hyn yn ailagor ar ôl y pandemig, bydd effeithiau sylweddol i'r economi o ganlyniad. Mae llawer o'm hetholwyr yn dibynnu ar siop Casnewydd—darperir swyddi yno, mae cwsmeriaid yn mynd yno. Nawr, rwy'n deall eich bod yn cwrdd â Debenhams, neu efallai eich bod eisoes wedi cael trafodaethau gyda nhw a'u penaethiaid. Tybed a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am unrhyw drafodaethau, ac a wnewch chi wrando arnyn nhw ac adolygu eich penderfyniad i eithrio siopau sydd â gwerth ardrethol dros £500,000 rhag gallu cael gafael ar gymorth? Gwn eich bod wedi dweud yn y gorffennol bod y polisi hwnnw yn caniatáu i chi gefnogi busnesau eraill, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod busnesau mwy yn cael eu cefnogi hefyd.

Yn ail, a gaf i ofyn i chi—rydych chi wedi sôn am y gyllideb atodol rydych chi'n bwriadu ei chyflwyno—sut ydych chi'n ail-flaenoriaethu gwariant Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd? A allwch chi ddweud ychydig mwy am eich cyllideb atodol? Mae fy mhlaid wedi galw am gyllideb frys lawn fwy tryloyw, lle bydd mwy o gyfle i graffu ar benderfyniadau gwariant Llywodraeth Cymru ar yr adeg hon.

Ac yn olaf a gaf i ofyn i chi am y goblygiadau o ran polisi treth? Rydych chi wedi dweud o'r blaen nad ydych chi'n rhagweld newidiadau i gyfraddau treth cyn etholiadau nesaf y Senedd. Ai dyna yw polisi'r Llywodraeth o hyd, yn enwedig os oes newidiadau ar lefel treth y DU yn ddiweddarach eleni? Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod y cyhoedd a'n hetholwyr yn cael eglurder ar benderfyniadau cyllidebol ar yr adeg hon.