Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 13 Mai 2020.
Rwy'n ddiolchgar am y gyfres yna o gwestiynau, ac mae Nick Ramsay yn iawn, fe gefais gyfle i gyfarfod â chadeirydd Debenhams ddoe. Ond, i roi cefndir yr hyn oedd y tu ôl i benderfyniad Llywodraeth Cymru i gyfyngu rhyddhad ardrethi i'r busnesau hynny sydd â gwerth ardrethol o dan £500,000, gwnaethom hynny oherwydd ein bod ni'n awyddus iawn i sicrhau y gellid defnyddio'r cyllid hwnnw, a oedd yn rhyddhau £100 miliwn o gyllid, i gefnogi busnesau bach a chanolig ledled Cymru, sef asgwrn cefn ein heconomi. Felly, rydym ni'n gallu cefnogi, er enghraifft, 2,000 o fusnesau gyda grantiau o hyd at £50,000 o ganlyniad i'r penderfyniad hwnnw. Ond, fel y dywedais wrth gadeirydd Debenhams ddoe, mae Llywodraeth Cymru wir eisiau i Debenhams lwyddo. Mae'n wirioneddol bwysig o ran cefnogi rhai o'n strydoedd mawr yn arbennig, fel un o'r siopau angor hynny. Felly, rwyf wedi dweud y byddaf yn myfyrio ar y trafodaethau a gawsom ni ddoe. Dydw i ddim yn credu y byddai'n deg ar Debenhams pe bawn i'n rhoi gormod o fanylion y trafodaethau hynny, ond rwy'n sicr wedi addo ysgrifennu atyn nhw yn ystod yr ychydig ddyddiau nesaf, yn dilyn y trafodaethau hynny.
Dywedaf hefyd ar fater y gyllideb atodol, mai fy mwriad yw cyhoeddi hynny ddiwedd y mis hwn, ond byddaf yn sicr yn darparu mwy o fanylder. Fel y gŵyr Nick Ramsay, mae cyllidebau atodol fel arfer yn ymarferion eithaf technegol, sef manylu ar gyllid wrth iddo symud rhwng neu o fewn y prif grwpiau gwariant a'r cyllid a ddaw gan Lywodraeth y DU ac ati, ond mae maint y newid y tro hwn wedi bod yn rhyfeddol. Felly, dywedais ar y dechrau ein bod wedi cael dyraniad hyd yn hyn, neu'n disgwyl dyraniad o dros £2 biliwn sef tua 10 y cant o'n cyllideb. Felly, byddaf yn darparu mwy o fanylder gyda'r gyllideb atodol nag y byddem yn ei wneud fel arfer, gan ddisgrifio'n fanylach y dyraniadau yr ydym wedi'u gwneud, ond hefyd y meysydd hynny lle yr ydym wedi gorfod rhyddhau'r cyllid hwnnw lle na fydd gweithgarwch yn digwydd mwyach, oherwydd credaf ei bod hi'n bwysig rhoi'r math hwnnw o eglurder hefyd.
Gwnaethom y gwaith hwnnw drwy drafod gyda chydweithwyr ym mhob rhan o'r Llywodraeth fesul prif grŵp gwariant, gan edrych drwy bob llinell o'u cyllideb i weld beth y gellid ei ryddhau i ddechrau. Ond fe ddywedaf wrthych chi yr hyn yr wyf wedi'i ddweud wrth fy nghydweithwyr, sef mae'n debyg nad dyma'r tro cyntaf y bydd yn rhaid i ni wneud yr ymarfer hwnnw. Rwy'n credu y bydd yn rhaid i ni ei ailadrodd eto er mwyn archwilio pa gyllid ychwanegol y gellid ei ryddhau wrth ymateb i COVID ac ar gyfer adferiad.
Ac ar fater cyfraddau treth incwm Cymru, ein bwriad o hyd yw peidio â chodi cyfraddau treth incwm Cymru yn ystod y Cynulliad hwn, ac, wrth gwrs, fe wnaethom ni bleidleisio ar ein cyfraddau treth incwm yng Nghymru am y flwyddyn ariannol hon ychydig wythnosau yn ôl, ac nid yw'n fwriad newid hynny. Rwy'n credu bod pobl yn cael amser caled fel y mae hi ar hyn o bryd, felly dydw i ddim yn credu y byddem yn ystyried gofyn iddyn nhw gyfrannu mwy mewn cyfnod mor anodd.