Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 13 Mai 2020.
Gweinidog, yn ddiweddar, daeth yr Athro Cameron Hepburn o Brifysgol Rhydychen â thîm o arbenigwyr byd-enwog at ei gilydd, gan gynnwys yr enillydd gwobr Nobel yr Athro Joseph Stiglitz, a'r economegydd hinsawdd adnabyddus yr Arglwydd Nicholas Stern, i edrych ar y pecynnau posibl ar gyfer adfer yr economi yn fyd-eang. Nawr, roedd eu dadansoddiad yn dangos y posibilrwydd o asio'r economi a'r amgylchedd mewn modd grymus iawn, a gwnaethant fanteisio ar dystiolaeth a ddangosodd y gall prosiectau gwyrdd ym maes ynni adnewyddadwy a seilwaith ynni glân llafurddwys greu dwywaith cymaint o swyddi fesul doler a fuddsoddir o gymharu â buddsoddiadau tanwydd ffosil, a chyflwyno adenillion tymor byr uwch fesul doler a chynyddu arbedion cost hirdymor o'u cymharu â chynlluniau cyllidol traddodiadol.
Felly, Gweinidog, a gaf i ofyn ichi, pa drafodaethau ydych chi'n eu cael gyda Gweinidogion eraill Llywodraeth Cymru a'r Prif Weinidog i ddefnyddio ein pwerau ariannol i fanteisio ar y cyfleoedd hyn i sicrhau adferiad gwell a chryfach yng Nghymru: hybu cyflogaeth; creu manteision nawr ac yn y tymor hwy ar gyfer twf economaidd ac ar gyfer yr amgylchedd; helpu i leihau allyriadau carbon; a mynd i'r afael â'r hinsawdd a'r argyfyngau bioamrywiaeth a wynebwn ni?