Part of the debate – Senedd Cymru am 5:09 pm ar 13 Mai 2020.
Felly, mae'r hyn y mae Huw Irranca-Davies yn ei ddisgrifio yn debyg iawn i'r meddylfryd a oedd yn sail i gyhoeddi ein cyllideb gan Lywodraeth Cymru, cyllideb y buom yn pleidleisio arni yn ôl ym mis Mawrth, sy'n ymddangos fel amser maith yn ôl erbyn hyn, ond dim ond wythnosau yw hi. Ac, fel rhan o'r gyllideb honno, gwnaethom y gwaith hwnnw gyda'r Llywodraeth yn ei chyfanrwydd gan nodi meysydd penodol lle'r oeddem ni eisiau gweld mwy o fuddsoddi a newid a gwella ar raddfa gynyddol, ac roedd bioamrywiaeth a datgarboneiddio yn rhannau hanfodol o hynny. Felly, roedd yna becyn, os cofiaf yn iawn, o £140 miliwn wedi'i anelu at ddatgarboneiddio a bioamrywiaeth, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, pan fyddwn yn dechrau edrych tuag at yr adferiad, ein bod yn ystyried yn bendant sut y gall ein buddsoddiad cyfalaf yn arbennig gefnogi'r mathau hynny o fentrau a buddsoddiadau.
Rwy'n gwybod fod pob rhan o Lywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth ddwys ar hyn o bryd i sut y gallwn ni gynnwys rhai o'r pethau mwy cadarnhaol yr ydym ni wedi'u gweld o ganlyniad i'r coronafeirws, felly, er enghraifft, pobl yn ystyried mwy o deithio llesol—wyddoch chi, pa gymhellion a sut y gallwn ni ddarbwyllo awdurdodau lleol i wneud newidiadau i ganol eu trefi ac ati, fel y bydd hi'n llawer haws, pan fydd cymdeithas yn dechrau adfer, i barhau â'r teithio llesol a phethau eraill. Felly, mae Lee Waters wedi rhoi ychydig o her i awdurdodau lleol yn y maes penodol hwnnw. Ac, unwaith eto, llygredd aer—beth arall allwn ni ei wneud a ninnau nawr wedi dechrau dod i arfer â gweithio o gartref ac wedi profi ei fod yn bosibl? A ydym yn newid y ffordd yr ydym yn gweithio mewn modd llawer mwy sylfaenol? Felly, rwy'n credu bod cwestiynau mawr i ni wrth i ni ddod allan o'r argyfwng, ac ni fydd pethau yr un fath fyth eto, ond gallwn yn sicr geisio sicrhau bod pethau'n well.