Part of the debate – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 20 Mai 2020.
Wel, Lywydd, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd angen ymchwiliad annibynnol ar y pwynt cywir yn y broses honno a chedwir y dogfennau a gedwir gan Lywodraeth Cymru yn ofalus ac rwy'n siŵr y byddant ar gael ar gyfer yr ymchwiliad hwnnw pan ddaw’r amser. Ni allaf ragweld pryd y bydd hynny, ond o ran yr egwyddor y mae Mr Price wedi'i hamlinellu—rwy'n hapus iawn i gadarnhau fy nghefnogaeth i'r egwyddor honno.