Part of the debate – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 20 Mai 2020.
Wel, Lywydd, bydd dadl ar y cynllun yn ddiweddarach y prynhawn yma pan fydd y pwyntiau hyn yn cael eu hailadrodd eto, heb amheuaeth. Rwy'n gwrthod awgrym yr Aelod nad oes arweinyddiaeth ar y mater hwn yn llwyr; croesawyd y cynllun yn eang iawn yng Nghymru a thu hwnt i Gymru yn wir, fel datganiad clir o'r cyfeiriad teithio y mae Llywodraeth Cymru wedi'i bennu ar gyfer pobl ein gwlad.
Mewn perthynas ag amserlenni, gadewch imi ddweud, fel y dywedais o'r blaen pan ofynnwyd i mi, mae dadl go iawn i'w chael ynglŷn ag a yw amserlenni’n ffordd ddefnyddiol o nodi'r cyfeiriad yn y dyfodol. Yn y pen draw, daethom i'r casgliad fod hynny'n tynnu sylw oddi ar y ffocws ar y materion sy'n haeddu ein sylw mewn gwirionedd. Rydym yn gwneud yr un peth â llawer o wledydd eraill ledled y byd, o Seland Newydd i Ogledd Iwerddon. Nid yw amserlenni'n rhoi unrhyw sicrwydd, fel y bydd Mr Davies yn gwybod yn iawn. Edrychwch ar sut y mae amserlen 1 Mehefin ar gyfer agor ysgolion yn Lloegr yn disgyn yn ddarnau yn nwylo Llywodraeth Lloegr; sut y bu’n rhaid i Stryd Downing ddweud neithiwr mai dyhead oedd 1 Mehefin, nid dyddiad pendant, nid amserlen wedi’r cyfan. Felly, nid wyf yn siŵr fod amserlenni yn ateb i bopeth.
Bydd dyraniadau ariannol yn cael eu pennu’n fanwl yn y gyllideb atodol a fydd ar gael i’r Aelodau yr wythnos nesaf, ac eisoes y prynhawn yma, Lywydd, rwyf wedi nodi'r gyfres fwyaf hael o gymorth i fusnesau yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, ac mae’r manylion hynny ar gael i fusnesau yng Nghymru ac wedi cael croeso mawr ganddynt.