Part of the debate – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 20 Mai 2020.
Roeddwn yn falch iawn o glywed y Prif Weinidog yn cyfeirio unwaith eto yn ei ddatganiad at blant a phobl ifanc. Mae effaith y pandemig hwn ar blant a phobl ifanc yn aruthrol, ac rwy'n credu y bydd para'n hir iawn.
Rwy'n croesawu'n fawr iawn y cyhoeddiad ddydd Llun am y £3.75 miliwn o arian ychwanegol ar gyfer iechyd meddwl plant, ac yn enwedig y gydnabyddiaeth gan y Gweinidog addysg nad yw cwnsela traddodiadol ar gyfer plant iau yn ddull priodol o reidrwydd, ac y bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda darparwyr i ddarparu gwasanaethau yn unol â'r diwygiadau sydd eisoes ar y gweill.
A gaf fi ofyn a yw'r Prif Weinidog yn cytuno, wrth wario'r arian hwnnw, ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn adeiladu ar y diwygiadau i'r dull ysgol gyfan a'r diwygiadau ehangach i'r system gyfan a nodir yn adroddiad 'Cadernid Meddwl' y pwyllgor? Ac a fyddai'r Prif Weinidog yn cytuno y bydd ein hargymhellion 'Cadernid Meddwl' ar draws y Llywodraeth yn bwysicach nag erioed o'r blaen wrth inni gefnu ar y pandemig hwn? Diolch.