Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 20 Mai 2020.
Diolch i chi am y cwestiwn, Helen Mary Jones. Rwy'n falch iawn fod ein prifysgolion i gyd wedi camu i'r adwy yn y frwydr yn erbyn COVID-19, a bydd eu cyfraniad at ymchwil, arloesedd, sgiliau a chyflogaeth yn hanfodol i'n hadferiad economaidd fel cenedl. Rydym wedi cymryd camau i ddarparu cymorth ymarferol i'r sector, a byddwn yn parhau i wneud hynny.