3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 20 Mai 2020.
Rwy'n ymddiheuro, Lywydd, roeddwn mor brysur yn canolbwyntio ar yr hyn a oedd yn digwydd ar y sgrin ac yn gwneud yn siŵr fy mod wedi agor y meic, fe anghofiais symud y meicroffon, mae'n ddrwg iawn gennyf.
Ac nid oeddwn yn gallu gweld y meicroffon yn iawn, am ei fod yn eich gwallt, felly—.
Gwallt 'aros gartref'. [Chwerthin.] Rwyf am ddechrau eto. Mae'n ddrwg gennyf.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y sector addysg uwch, yn dilyn adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru am effaith ariannol COVID-19 ar brifysgolion yng Nghymru? TQ429
Diolch i chi am y cwestiwn, Helen Mary Jones. Rwy'n falch iawn fod ein prifysgolion i gyd wedi camu i'r adwy yn y frwydr yn erbyn COVID-19, a bydd eu cyfraniad at ymchwil, arloesedd, sgiliau a chyflogaeth yn hanfodol i'n hadferiad economaidd fel cenedl. Rydym wedi cymryd camau i ddarparu cymorth ymarferol i'r sector, a byddwn yn parhau i wneud hynny.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hateb ac am y cadarnhad y mae'n ei roi, wrth gwrs, ei bod yn llawn ddeall pwysigrwydd y sector. Ond tybed a all hi ddweud ychydig mwy wrthym am natur y gefnogaeth a ddarparwyd. Mae Llywodraeth yr Alban, er enghraifft, fel y gwyddom, wedi darparu £75 miliwn o gyllid ymchwil i'w phrifysgolion. Nawr, yn amlwg, mae ei model ariannu prifysgolion yn wahanol i'n model ni, ac ni fyddwn o reidrwydd yn disgwyl i'n Gweinidog ymateb yn yr un ffordd yn union, ond mae wedi cydnabod y pwysigrwydd enfawr ei hun—mae 5 y cant o werth ychwanegol gros Cymru, 17,000 o swyddi uniongyrchol, 50,000 o swyddi yn yr economi ehangach yn dibynnu ar ein sefydliadau academaidd. Felly, a all ddweud ychydig mwy wrthym am yr ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud, ac yn bwriadu eu gwneud, i sicrhau cynaliadwyedd y prifysgolion yn fwy hirdymor? Oherwydd rwy'n siŵr y bydd yn cytuno bod adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru yn sobreiddiol—ond rwy'n siŵr nad oedd yn syndod iddi—a'i bod yn hanfodol ein bod yn diogelu'r sector allweddol hwn yn ein strwythur economaidd yn ogystal â'n strwythur academaidd yma yng Nghymru.
Yn wir, ac mae Helen Mary yn gywir i ddweud y bydd angen i brifysgolion fod yno i'n helpu i ddringo allan o'r argyfwng economaidd hwn. Fel rydym wedi'i ddweud o'r blaen, mae hwn yn argyfwng economaidd yn ogystal ag argyfwng iechyd cyhoeddus.
Rydym wedi cyhoeddi datganiad polisi sy'n amlinellu'r camau rydym yn eu cymryd i wrthsefyll pwysau ariannol. Rydym wedi darparu grant blynyddol dangosol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, sy'n gynnydd ar grant y llynedd. Rydym yn cyflwyno taliadau ffioedd dysgu y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr i sefydliadau yn gynt fel y bydd cyfran fwy na'r arfer o'r cyllid hwnnw ar gael iddynt yn yr hydref. Rydym wedi ceisio cyflwyno mesurau i gyfyngu ar dderbyniadau sy'n gweithio o blaid y sector yng Nghymru ac y gellir eu rheoleiddio gan CCAUC er mwyn darparu sefydlogrwydd mawr ei angen i'n sefydliadau. Ac rydym yn gweithio gyda Gweinidogion o bob rhan o'r Deyrnas Unedig ar y tasglu ymchwil ac arloesi i fynd i'r afael ag effaith COVID-19. Yn nes at adref efallai, rydym mewn cysylltiad parhaus â CCAUC a Prifysgolion Cymru er mwyn archwilio'r opsiynau ar gyfer unrhyw gymorth ariannol ychwanegol posibl y gallai Llywodraeth Cymru fod mewn sefyllfa i'w ddarparu i helpu i sefydlogi'r sector cyn y flwyddyn academaidd nesaf. Rydym eisiau gwneud hynny mewn ffordd sy'n wirioneddol feddylgar, nad yw'n dewis ffefrynnau, ac sy'n dryloyw ac yn sicrhau ein bod yn cynnal y seilwaith a fydd yn bwysig i'r wlad hon wrth symud ymlaen, fel y nododd Helen Mary'n gywir, o ran rhagoriaeth academaidd, ond hefyd o ran yr economi.
Weinidog, mae yna elfen arbennig o greulon yn perthyn i'r rhan hon o'r canlyniadau COVID-19, sef mai'r prifysgolion mwyaf llwyddiannus a seiliedig ar ymchwil yw'r rhai mwyaf agored i niwed am eu bod yn dibynnu cymaint ar batrymau economaidd rhyngwladol sy'n sail i lawer o'u hymchwil, a'u cyfleoedd allan yno gyda phartneriaid byd-eang. Ond maent hefyd yn denu llawer o fyfyrwyr tramor. Mae'r model hwnnw bellach wedi'i ddileu'n llwyr, am flwyddyn neu ddwy fan lleiaf, ac mae hynny wedi digwydd ar unwaith. Pa fesurau ymateb cyflym y bwriadwch eu mabwysiadu yn awr, neu rydych yn eu hystyried, ar gyfer cynnal ein prifysgolion gwych, Caerdydd, Abertawe, Bangor—y rhai sydd â'r capasiti ymchwil? Mae'n bwysig iawn ein bod yn edrych ar hyn ac yn symud yn gyflym.
David, rydych yn llygad eich lle: mae'n rhaid i ni feddwl yn arbennig am yr effaith ar ymchwil. Gwyddom fod ffioedd gan fyfyrwyr rhyngwladol yn aml wedi mynd yn bell i ddarparu cymorth ar gyfer gweithgareddau ymchwil yn ein prifysgolion.
Yn gynharach heddiw, roeddwn yn falch iawn o gyhoeddi dros £1 filiwn i roi cefnogaeth bellach i raglen Sêr Cymru sy'n cefnogi ymchwil mewn ymateb uniongyrchol i argyfwng COVID-19. Fel y dywedais yn fy ateb i Helen Mary, rydym yn parhau i gael trafodaethau gyda CCAUC, ond rwy'n siŵr y byddai David yn cydnabod bod maint y cymorth ariannol sydd ei angen i fynd i'r afael â'r diffygion posibl yn sgil gostyngiad posibl yn nifer y myfyrwyr tramor yn mynd y tu hwnt i'r hyn sydd ar gael yng nghyllidebau'r Llywodraethau datganoledig, a dyna pam rwy'n falch iawn o weithio ochr yn ochr â Gweinidogion o Lywodraethau'r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr ar y tasglu ymchwil ac arloesi. Mae fy neges iddynt yn glir iawn: bydd prifysgolion yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â'u capasiti ymchwil, nid yn yr hydref, pan ddaw'r sefyllfa recriwtio myfyrwyr yn gliriach; rhaid inni allu gwneud hynny yn awr. Mae mecanweithiau wedi'u sefydlu inni allu gwneud prifysgolion yn atebol am arian ymchwil, ymchwil o ansawdd da, a wariant ac rydym yn parhau i geisio gweithio gyda'n gilydd i allu ymateb yn gadarnhaol mewn modd amserol a mynd i'r afael â'r penderfyniadau hyn y bydd sefydliadau'n eu gwneud dros yr ychydig fisoedd nesaf.
Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn nesaf, felly, yw'r cwestiwn i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn i'w ofyn gan Delyth Jewell.