Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 20 Mai 2020.
David, rydych yn llygad eich lle: mae'n rhaid i ni feddwl yn arbennig am yr effaith ar ymchwil. Gwyddom fod ffioedd gan fyfyrwyr rhyngwladol yn aml wedi mynd yn bell i ddarparu cymorth ar gyfer gweithgareddau ymchwil yn ein prifysgolion.
Yn gynharach heddiw, roeddwn yn falch iawn o gyhoeddi dros £1 filiwn i roi cefnogaeth bellach i raglen Sêr Cymru sy'n cefnogi ymchwil mewn ymateb uniongyrchol i argyfwng COVID-19. Fel y dywedais yn fy ateb i Helen Mary, rydym yn parhau i gael trafodaethau gyda CCAUC, ond rwy'n siŵr y byddai David yn cydnabod bod maint y cymorth ariannol sydd ei angen i fynd i'r afael â'r diffygion posibl yn sgil gostyngiad posibl yn nifer y myfyrwyr tramor yn mynd y tu hwnt i'r hyn sydd ar gael yng nghyllidebau'r Llywodraethau datganoledig, a dyna pam rwy'n falch iawn o weithio ochr yn ochr â Gweinidogion o Lywodraethau'r Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr ar y tasglu ymchwil ac arloesi. Mae fy neges iddynt yn glir iawn: bydd prifysgolion yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â'u capasiti ymchwil, nid yn yr hydref, pan ddaw'r sefyllfa recriwtio myfyrwyr yn gliriach; rhaid inni allu gwneud hynny yn awr. Mae mecanweithiau wedi'u sefydlu inni allu gwneud prifysgolion yn atebol am arian ymchwil, ymchwil o ansawdd da, a wariant ac rydym yn parhau i geisio gweithio gyda'n gilydd i allu ymateb yn gadarnhaol mewn modd amserol a mynd i'r afael â'r penderfyniadau hyn y bydd sefydliadau'n eu gwneud dros yr ychydig fisoedd nesaf.