Part of the debate – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 20 Mai 2020.
Ond mae angen i'r sgwrs ddechrau gyda Llywodraeth y DU yn awr ynglŷn â'r dyfodol, ynglŷn â sut y bydd bywyd economaidd yn gweithredu ar ôl i'r cynllun cadw swyddi a'r cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig ddod i ben. Yng Nghymru, nid yw ein blaenoriaeth wedi newid. Iechyd cyhoeddus a rheoli'r pandemig yw ein blaenoriaeth o hyd. Dyna pam y cyhoeddais nodyn atgoffa pwysig ar 14 Mai i unrhyw un a oedd yn ystyried teithio i Gymru: arhoswch gartref os gwelwch yn dda. Bydd croeso â breichiau agored i ymwelwyr â Chymru pan fyddwn wedi cefnu ar yr argyfwng hwn, ond am nawr, rhaid inni drechu'r feirws drwy aros gartref.
Nawr, rhan bwysig o'n gwaith yw cynorthwyo busnesau drwy'r pandemig hwn, a'n pecyn cymorth ni yw'r mwyaf hael i fusnesau yn unrhyw le yn y DU, ac mae'n cynnwys cynllun benthyciadau £100 miliwn i helpu mwy na 1,000 o fusnesau drwy Fanc Datblygu Cymru; cynllun grantiau cronfa cadernid economaidd gwerth £400 miliwn sydd wedi denu mwy na 9,500 o geisiadau cam 1, gyda dros 6,000 o gynigion eisoes wedi'u gwneud hyd yma, gwerth mwy na £100 miliwn; a hefyd, wrth gwrs, y cymorth grant ar sail ardrethi annomestig i fusnesau bach a busnesau sy'n gweithredu yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, sydd wedi dyfarnu 51,100 o grantiau gwerth mwy na £626 miliwn hyd yma. Mae'n becyn cyfan o £1.7 biliwn, sy'n werth 2.7 y cant o'r cynnyrch domestig gros.
Ar 27 Ebrill, caewyd y gronfa cadernid economaidd am gyfnod er mwyn rhoi cyfle inni ystyried ble gallai cymorth pellach gael yr effaith fwyaf, nid yn unig i helpu'r busnesau nad ydym wedi eu cyrraedd eisoes, ond hefyd i ystyried pa gymorth y bydd pob busnes ei angen drwy'r cyfnod achub sy'n mynd rhagddo, yn ogystal ag i mewn i'r camau ailgychwyn ac adfer, wrth i gyfyngiadau gael eu llacio yn unol â fframwaith dydd Gwener diwethaf. Mae'r gwaith yn mynd rhagddo'n dda ac rydym wrthi'n cwblhau manylion cam nesaf y gronfa cadernid economaidd. Rwy'n disgwyl ailagor gwiriwr cymhwysedd y gronfa cadernid economaidd i geisiadau newydd erbyn canol mis Mehefin, gan ganiatáu amser i gwmnïau baratoi eu ceisiadau. Yn dilyn hynny, rwy'n disgwyl agor i geisiadau llawn yn ddiweddarach yn y mis. Bydd hyn yn galluogi busnesau i wneud cais am gyfran o'r £100 miliwn sy'n weddill o'r £300 miliwn sydd eisoes wedi'i gymeradwyo a'i ddyrannu i gefnogi microfusnesau, mentrau bach a chanolig a busnesau mawr.
Nawr, o ran cymhwysedd, bydd cam 2 o'r gronfa yn gweithredu yn yr un ffordd â cham 1, ond gyda diweddariad i'r cynllun micro. Bydd hyn yn galluogi cwmnïau cyfyngedig nad ydynt wedi'u cofrestru at ddibenion TAW i gael mynediad at y gronfa, rhywbeth y mae cynifer o fusnesau bach wedi bod yn galw amdano. Yn ogystal â hynny, rydym hefyd yn gweithio gyda'n partneriaid llywodraeth leol i ddatblygu cynigion cymorth pellach i'r rhai nas cyrhaeddwyd eto—er enghraifft, busnesau newydd. Rydym hefyd wedi ychwanegu at gronfa cymorth dewisol y Llywodraeth, sy'n cefnogi pobl sydd wedi cael eu cyflogi'n ddiweddar ond nad ydynt yn gymwys ar gyfer y cynllun cadw swyddi, yn ogystal â'r hunangyflogedig.
Wrth gwrs, Lywydd, byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y materion hyn. Yn y cyfamser, mae gan Lywodraeth y DU rôl hollbwysig yn ehangu ei chefnogaeth i fusnesau strategol sy'n dal i'w chael hi'n anodd dod o hyd i gymorth priodol. Yn benodol, rwyf wedi gofyn i Lywodraeth y DU edrych eto ar ba gymorth y gall ei ddarparu i ddiogelu busnesau sy'n allweddol i'n diogelwch economaidd cenedlaethol, megis Tata Steel ac Airbus.
Yn gynharach heddiw, Lywydd, amlinellodd y Gweinidog Addysg gynllun cydnerthu ar gyfer y sector ôl-16 yn sgil COVID-19 er mwyn rhoi fframwaith clir i ddarparwyr addysg ar gyfer cynllunio a darparu ein hymateb o ran cyflogadwyedd a sgiliau. Mae cymorth cyflogadwyedd yn hanfodol mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd ac yn ymateb i hynny'n gyflym. Flwyddyn ar ôl ei lansio'n swyddogol, mae gwasanaeth Cymru'n Gweithio wedi cefnogi dros 31,500 o oedolion yn uniongyrchol, a dros 6,000 o bobl ifanc sy'n chwilio am gymorth cyflogadwyedd. Addaswyd y gwasanaeth hwnnw mewn ymateb i'r pandemig ac mae wedi ymestyn ei ddarpariaeth sgwrsio ar y we, negeseuon testun a chyfleusterau gwasanaeth galwadau i ddiwallu anghenion defnyddwyr yn y ffordd orau.
Ond nid dyma'r unig newid a wnaethom. Ar gyfer prentisiaid, rydym wedi datblygu modiwlau dysgu ar-lein i sicrhau eu bod yn gallu parhau i gamu ymlaen drwy eu dysgu. Ar gyfer ein dysgwyr drwy hyfforddeiaethau, rydym wedi datblygu pecynnau dysgu digidol ac wedi cynnal eu lwfansau hyfforddiant. Ac i'r rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur, mae ein rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol wedi addasu eu darpariaeth er mwyn parhau i ddarparu allgymorth yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig ac agored i niwed ar gyfer pobl ifanc ac oedolion. I'r rhai sy'n nes at y farchnad lafur, darparir cymorth trwy ReAct, Twf Swyddi Cymru a'r rhaglen sgiliau cyflogadwyedd. Ac i'r rhai sydd mewn gwaith, mae Cronfa Ddysgu Undebau Cymru, gyda chefnogaeth Cyngres Undebau Llafur Cymru, yn darparu atebion sgiliau uniongyrchol a chefnogaeth i weithwyr yn ystod ac ar ôl yr argyfwng coronafeirws.
Nawr, mae'n rhaid dweud, Lywydd, na fyddai dim o hyn yn bosibl heb gefnogaeth ein partneriaid cymdeithasol. Ac ar 14 Mai, gyda'r Prif Weinidog, cyfarfûm ag aelodau o gyngor y bartneriaeth gymdeithasol y gwrthbleidiau i drafod yr heriau sy'n ein hwynebu ni i gyd dros y misoedd nesaf, i drafod sut y byddwn yn codi'r cyfyngiadau'n ddiogel, i drafod sut y gallwn fanteisio ar, a symud tuag at economi sy'n cynnwys teithio llai, ond gweithio'n ddoethach.
Yr wythnos diwethaf hefyd, cyfarfûm ag undebau trafnidiaeth, grwpiau teithwyr, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus, cynrychiolwyr rhanddeiliaid, a Trafnidiaeth Cymru i drafod y canllawiau rydym yn eu datblygu i helpu i baratoi ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y normal newydd. Yn y tymor byr, rydym yn ystyried ffyrdd o reoli'r galw am drafnidiaeth gyhoeddus a dal ati i gadw pellter cymdeithasol. Ymhlith y mesurau a drafodasom, roedd blaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus i weithwyr allweddol, annog mwy o archebu ymlaen llaw a chynllunio teithio'n well, darwahanu patrymau sifftiau yn y sector cyhoeddus, ac annog y sector preifat i wneud yr un peth. Byddwn yn cyhoeddi'r canllawiau hyn yn ystod yr wythnosau nesaf, yn barod ar gyfer unrhyw lacio ar y cyfyngiadau symud a allai ddigwydd drwy'r adolygiad 21 diwrnod nesaf o'r rheoliadau.
Nawr, Lywydd, yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl wrth gwrs, ac rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod ansicr a dirdynnol iawn i fusnesau a chyflogeion. Dyna pam ein bod wedi cynnwys gwybodaeth am iechyd meddwl a lles fel rhan o'n pecyn cyngor ar wefan Busnes Cymru er mwyn helpu arweinwyr busnes i ofalu amdanynt eu hunain a'u staff. Mae'r rhain yn cynnwys rhaglen Amser i Newid Cymru ac ymgyrch Iechyd Cyhoeddus Cymru,'Sut wyt ti?'. Mae iechyd meddwl yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i mi, a hoffwn annog pob busnes a chyflogai i ddefnyddio'r adnoddau amhrisiadwy hyn.
Lywydd, hoffwn orffen drwy ddiolch eto i'r Aelodau ar draws y Siambr hon am y cyngor, y syniadau, a'r awgrymiadau y maent wedi'u darparu yn ystod y misoedd diwethaf. Fe ddown drwy'r argyfwng hwn, ac fe wnawn ailadeiladu'n well yn ein heconomi, yn ein cymunedau ac yn ein gwasanaethau cyhoeddus, a byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i wneud hynny. Ac rwy'n falch iawn o allu cymryd cwestiynau yn awr.