– Senedd Cymru am 2:32 pm ar 20 Mai 2020.
Yr eitem nesaf felly yw'r datganiad gan y Gweinidog Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd ar yr ymateb i coronafeirws. Ac fe fydd y Dirprwy Lywydd yn cymryd y gadair ar gyfer yr eitem yma. Y Gweinidog, Ken Skates.
Diolch, Lywydd. Ddydd Gwener diwethaf, gosododd y Prif Weinidog y fframwaith a fydd yn arwain Cymru allan o'r pandemig coronafeirws. Mae'r ddogfen a gyhoeddwyd gennym yn nodi sut a phryd y bydd penderfyniadau ar lacio'r cyfyngiadau yn cael eu gwneud yn ein heconomi, yn ein cymunedau ac yn ein gwasanaethau cyhoeddus dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Ac fel Gweinidogion, rydym yn cefnogi'r gwaith hwnnw. Fy nhasg i yw sicrhau, pan fydd yr amser yn iawn, fod ein busnesau, ein rhwydwaith trafnidiaeth a'n system sgiliau yn barod nid yn unig i addasu a newid i'r byd ar ôl y coronafeirws ond yn hollbwysig, ein bod yn barod ac yn abl i ailadeiladu'n well er mwyn y genhedlaeth hon a'r cenedlaethau i ddod.
Un o brif elfennau'r gwaith hwn yw sicrhau nad ydym yn cael gwared ar sylfaen economaidd allweddol y cyfyngiadau—y cymorth y mae Llywodraeth y DU wedi'i gyflwyno drwy'r cynllun cadw swyddi—yn rhy sydyn. Mae'r cynllun cadw swyddi wedi bod yn hanfodol i alluogi rhannau helaeth o'r economi i gael cyfnod o seibiant drwy gydol yr argyfwng hwn. Nid oedd gan yr un o'r Llywodraethau datganoledig yn gweithredu ar eu pen eu hunain rym ariannol i sicrhau incwm a bywoliaeth yn y ffordd y mae'r cynllun cadw swyddi wedi ei wneud. Ac felly mae'n hanfodol nad yw'r cynllun cadw swyddi yn cael ei ddileu neu ei leihau cyn bod busnesau wedi gallu ailgychwyn eu gweithrediadau'n iawn.
Dyma'r neges a roddais i a'r Gweinidog cyllid i Ganghellor y Trysorlys mewn llythyr ar y cyd yr wythnos diwethaf, ac rwy'n croesawu'r camau dilynol a gymerodd wedyn i ymestyn y cynllun tan fis Hydref. Er ei fod yn darparu cyfle pwysig i ni i gyd feddwl am y dyfodol, pwysaf ar Lywodraeth y DU i'n cynnwys ni yn y trafodaethau hynny mewn modd ystyrlon.
Mae pawb ohonom yn ymwybodol iawn fod rhai sectorau wedi cael eu taro'n galetach nag eraill—i rai ohonynt, dechreuodd y cyfyngiadau'n gynharach a byddant yn dod i ben yn llawer hwyrach. Wrth inni nesáu at dymor yr haf, rydym i gyd yn ymwybodol o'r effaith y mae'r coronafeirws yn ei chael ar y sector twristiaeth a lletygarwch. Un o'r pryderon mwy diweddar a grybwyllwyd wrthyf yw taliadau prydlon i fusnesau bach. Rwy'n annog pob sefydliad mawr, yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, i chwarae eu rhan i gefnogi'r busnesau llai hynny drwy wneud taliadau'n brydlon.
Ond mae angen i'r sgwrs ddechrau gyda Llywodraeth y DU yn awr ynglŷn â'r dyfodol, ynglŷn â sut y bydd bywyd economaidd yn gweithredu ar ôl i'r cynllun cadw swyddi a'r cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig ddod i ben. Yng Nghymru, nid yw ein blaenoriaeth wedi newid. Iechyd cyhoeddus a rheoli'r pandemig yw ein blaenoriaeth o hyd. Dyna pam y cyhoeddais nodyn atgoffa pwysig ar 14 Mai i unrhyw un a oedd yn ystyried teithio i Gymru: arhoswch gartref os gwelwch yn dda. Bydd croeso â breichiau agored i ymwelwyr â Chymru pan fyddwn wedi cefnu ar yr argyfwng hwn, ond am nawr, rhaid inni drechu'r feirws drwy aros gartref.
Nawr, rhan bwysig o'n gwaith yw cynorthwyo busnesau drwy'r pandemig hwn, a'n pecyn cymorth ni yw'r mwyaf hael i fusnesau yn unrhyw le yn y DU, ac mae'n cynnwys cynllun benthyciadau £100 miliwn i helpu mwy na 1,000 o fusnesau drwy Fanc Datblygu Cymru; cynllun grantiau cronfa cadernid economaidd gwerth £400 miliwn sydd wedi denu mwy na 9,500 o geisiadau cam 1, gyda dros 6,000 o gynigion eisoes wedi'u gwneud hyd yma, gwerth mwy na £100 miliwn; a hefyd, wrth gwrs, y cymorth grant ar sail ardrethi annomestig i fusnesau bach a busnesau sy'n gweithredu yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, sydd wedi dyfarnu 51,100 o grantiau gwerth mwy na £626 miliwn hyd yma. Mae'n becyn cyfan o £1.7 biliwn, sy'n werth 2.7 y cant o'r cynnyrch domestig gros.
Ar 27 Ebrill, caewyd y gronfa cadernid economaidd am gyfnod er mwyn rhoi cyfle inni ystyried ble gallai cymorth pellach gael yr effaith fwyaf, nid yn unig i helpu'r busnesau nad ydym wedi eu cyrraedd eisoes, ond hefyd i ystyried pa gymorth y bydd pob busnes ei angen drwy'r cyfnod achub sy'n mynd rhagddo, yn ogystal ag i mewn i'r camau ailgychwyn ac adfer, wrth i gyfyngiadau gael eu llacio yn unol â fframwaith dydd Gwener diwethaf. Mae'r gwaith yn mynd rhagddo'n dda ac rydym wrthi'n cwblhau manylion cam nesaf y gronfa cadernid economaidd. Rwy'n disgwyl ailagor gwiriwr cymhwysedd y gronfa cadernid economaidd i geisiadau newydd erbyn canol mis Mehefin, gan ganiatáu amser i gwmnïau baratoi eu ceisiadau. Yn dilyn hynny, rwy'n disgwyl agor i geisiadau llawn yn ddiweddarach yn y mis. Bydd hyn yn galluogi busnesau i wneud cais am gyfran o'r £100 miliwn sy'n weddill o'r £300 miliwn sydd eisoes wedi'i gymeradwyo a'i ddyrannu i gefnogi microfusnesau, mentrau bach a chanolig a busnesau mawr.
Nawr, o ran cymhwysedd, bydd cam 2 o'r gronfa yn gweithredu yn yr un ffordd â cham 1, ond gyda diweddariad i'r cynllun micro. Bydd hyn yn galluogi cwmnïau cyfyngedig nad ydynt wedi'u cofrestru at ddibenion TAW i gael mynediad at y gronfa, rhywbeth y mae cynifer o fusnesau bach wedi bod yn galw amdano. Yn ogystal â hynny, rydym hefyd yn gweithio gyda'n partneriaid llywodraeth leol i ddatblygu cynigion cymorth pellach i'r rhai nas cyrhaeddwyd eto—er enghraifft, busnesau newydd. Rydym hefyd wedi ychwanegu at gronfa cymorth dewisol y Llywodraeth, sy'n cefnogi pobl sydd wedi cael eu cyflogi'n ddiweddar ond nad ydynt yn gymwys ar gyfer y cynllun cadw swyddi, yn ogystal â'r hunangyflogedig.
Wrth gwrs, Lywydd, byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y materion hyn. Yn y cyfamser, mae gan Lywodraeth y DU rôl hollbwysig yn ehangu ei chefnogaeth i fusnesau strategol sy'n dal i'w chael hi'n anodd dod o hyd i gymorth priodol. Yn benodol, rwyf wedi gofyn i Lywodraeth y DU edrych eto ar ba gymorth y gall ei ddarparu i ddiogelu busnesau sy'n allweddol i'n diogelwch economaidd cenedlaethol, megis Tata Steel ac Airbus.
Yn gynharach heddiw, Lywydd, amlinellodd y Gweinidog Addysg gynllun cydnerthu ar gyfer y sector ôl-16 yn sgil COVID-19 er mwyn rhoi fframwaith clir i ddarparwyr addysg ar gyfer cynllunio a darparu ein hymateb o ran cyflogadwyedd a sgiliau. Mae cymorth cyflogadwyedd yn hanfodol mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd ac yn ymateb i hynny'n gyflym. Flwyddyn ar ôl ei lansio'n swyddogol, mae gwasanaeth Cymru'n Gweithio wedi cefnogi dros 31,500 o oedolion yn uniongyrchol, a dros 6,000 o bobl ifanc sy'n chwilio am gymorth cyflogadwyedd. Addaswyd y gwasanaeth hwnnw mewn ymateb i'r pandemig ac mae wedi ymestyn ei ddarpariaeth sgwrsio ar y we, negeseuon testun a chyfleusterau gwasanaeth galwadau i ddiwallu anghenion defnyddwyr yn y ffordd orau.
Ond nid dyma'r unig newid a wnaethom. Ar gyfer prentisiaid, rydym wedi datblygu modiwlau dysgu ar-lein i sicrhau eu bod yn gallu parhau i gamu ymlaen drwy eu dysgu. Ar gyfer ein dysgwyr drwy hyfforddeiaethau, rydym wedi datblygu pecynnau dysgu digidol ac wedi cynnal eu lwfansau hyfforddiant. Ac i'r rhai sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur, mae ein rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol wedi addasu eu darpariaeth er mwyn parhau i ddarparu allgymorth yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig ac agored i niwed ar gyfer pobl ifanc ac oedolion. I'r rhai sy'n nes at y farchnad lafur, darparir cymorth trwy ReAct, Twf Swyddi Cymru a'r rhaglen sgiliau cyflogadwyedd. Ac i'r rhai sydd mewn gwaith, mae Cronfa Ddysgu Undebau Cymru, gyda chefnogaeth Cyngres Undebau Llafur Cymru, yn darparu atebion sgiliau uniongyrchol a chefnogaeth i weithwyr yn ystod ac ar ôl yr argyfwng coronafeirws.
Nawr, mae'n rhaid dweud, Lywydd, na fyddai dim o hyn yn bosibl heb gefnogaeth ein partneriaid cymdeithasol. Ac ar 14 Mai, gyda'r Prif Weinidog, cyfarfûm ag aelodau o gyngor y bartneriaeth gymdeithasol y gwrthbleidiau i drafod yr heriau sy'n ein hwynebu ni i gyd dros y misoedd nesaf, i drafod sut y byddwn yn codi'r cyfyngiadau'n ddiogel, i drafod sut y gallwn fanteisio ar, a symud tuag at economi sy'n cynnwys teithio llai, ond gweithio'n ddoethach.
Yr wythnos diwethaf hefyd, cyfarfûm ag undebau trafnidiaeth, grwpiau teithwyr, gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus, cynrychiolwyr rhanddeiliaid, a Trafnidiaeth Cymru i drafod y canllawiau rydym yn eu datblygu i helpu i baratoi ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y normal newydd. Yn y tymor byr, rydym yn ystyried ffyrdd o reoli'r galw am drafnidiaeth gyhoeddus a dal ati i gadw pellter cymdeithasol. Ymhlith y mesurau a drafodasom, roedd blaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus i weithwyr allweddol, annog mwy o archebu ymlaen llaw a chynllunio teithio'n well, darwahanu patrymau sifftiau yn y sector cyhoeddus, ac annog y sector preifat i wneud yr un peth. Byddwn yn cyhoeddi'r canllawiau hyn yn ystod yr wythnosau nesaf, yn barod ar gyfer unrhyw lacio ar y cyfyngiadau symud a allai ddigwydd drwy'r adolygiad 21 diwrnod nesaf o'r rheoliadau.
Nawr, Lywydd, yr wythnos hon yw Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl wrth gwrs, ac rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod ansicr a dirdynnol iawn i fusnesau a chyflogeion. Dyna pam ein bod wedi cynnwys gwybodaeth am iechyd meddwl a lles fel rhan o'n pecyn cyngor ar wefan Busnes Cymru er mwyn helpu arweinwyr busnes i ofalu amdanynt eu hunain a'u staff. Mae'r rhain yn cynnwys rhaglen Amser i Newid Cymru ac ymgyrch Iechyd Cyhoeddus Cymru,'Sut wyt ti?'. Mae iechyd meddwl yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i mi, a hoffwn annog pob busnes a chyflogai i ddefnyddio'r adnoddau amhrisiadwy hyn.
Lywydd, hoffwn orffen drwy ddiolch eto i'r Aelodau ar draws y Siambr hon am y cyngor, y syniadau, a'r awgrymiadau y maent wedi'u darparu yn ystod y misoedd diwethaf. Fe ddown drwy'r argyfwng hwn, ac fe wnawn ailadeiladu'n well yn ein heconomi, yn ein cymunedau ac yn ein gwasanaethau cyhoeddus, a byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i wneud hynny. Ac rwy'n falch iawn o allu cymryd cwestiynau yn awr.
A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am y ffordd ddefnyddiol a chydweithredol y mae wedi gweithio gyda'r pleidiau ar draws y Senedd yn ystod y cyfnod anodd hwn? Beth bynnag fo'r gwahaniaethau rhyngom, rwy'n siŵr fod hwn yn gyfnod pan fo pawb ohonom am weld Llywodraeth Cymru yn llwyddo, ac yng nghyd-destun ein trafodaethau y prynhawn yma, rydym am weld a gallu cefnogi'r Gweinidog yn ei ddyheadau inni allu ailadeiladu'n well a chadw ein heconomi yn gryf.
Hoffwn ofyn ambell gwestiwn penodol, os caf. Ar y gronfa cadernid economaidd, gwn fod y Gweinidog wedi gobeithio gallu ailagor ychydig yn gynharach. Ac rwy'n meddwl tybed a all gofnodi'r esboniad y mae wedi'i roi ynglŷn â pham y bu'n bwysig sicrhau nad oes dyblygu yn y ddarpariaeth, fel y gall y busnesau sy'n dal i aros am gymorth ddeall yn well pam y mae'r oedi ychydig yn annisgwyl hwn wedi bod yn angenrheidiol, ac rwy'n derbyn ei fod yn angenrheidiol. A all gadarnhau bod y saib ychydig yn hwy—rwy'n falch iawn o glywed, gyda llaw, yr hyn y mae'n ei ddweud am gynnwys busnesau nad ydynt yn gallu talu TAW, ond a all gadarnhau y bydd y saib ychydig yn hwy yn ei alluogi i roi ystyriaeth bellach i rai o'r busnesau eraill sydd ar goll y byddai modd iddo eu cynnwys lle gallai fod ychydig yn anos rhoi tystiolaeth? Soniodd am fusnesau newydd, ond hoffwn dynnu ei sylw hefyd at fusnesau twristiaeth sy'n talu'r dreth gyngor, nid ardrethi busnes, na ellir eu cefnogi ar hyn o bryd, wrth gwrs.
Mae'n sôn am gynllun ffyrlo Llywodraeth y DU, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn hynod falch fod hwnnw yn ei le, ac yn falch iawn ei fod wedi cael ei ymestyn. Ond wrth gwrs, i rai o'r bobl sydd wedi cael eu dal yn y problemau gyda bod yn weithwyr newydd ac na ellir eu gosod ar ffyrlo oherwydd hynny, efallai nad yw ymestyn y cynllun yn newyddion da i'r unigolion hynny. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog y prynhawn yma a fydd yn parhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch sefyllfa gweithwyr newydd, gan ein bod bellach yn gwybod bod y cynllun wedi'i ymestyn? Ac a wnaiff barhau i fynegi'r pryderon rwyf fi ac eraill wedi'u dwyn i'w sylw ynghylch diffyg hyblygrwydd yn y cynllun? Wrth i'r cyfyngiadau ddechrau cael eu codi, efallai y bydd busnesau, er enghraifft, yn dymuno galluogi rhai aelodau o staff i ddychwelyd yn rhan-amser, ond efallai na fyddant yn gallu eu cyflogi'n amser llawn. Ac o ran ailgychwyn ein heconomi'n raddol, yn enwedig busnesau twristiaeth, rwy'n gobeithio y bydd yn cytuno â mi y byddai'r hyblygrwydd hwnnw yn y cynllun ffyrlo'n hanfodol, oherwydd fel arall efallai na fydd gan fusnesau unrhyw ddewis ond peidio ag agor o gwbl.
A allwch chi ddod â'ch cwestiwn i ben yn awr, oherwydd rydych chi ymhell dros yr amser?
Rwy'n ymddiheuro, Ddirprwy Lywydd, dim ond un cwestiwn olaf. Rwy'n falch iawn o weld yr hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud am y canllawiau ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus ddiogel. A all ddweud ychydig mwy am y cynnydd ar ganllawiau ehangach ar gyfer dychwelyd i'r gwaith yn ddiogel?
Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones nid yn unig am ei chwestiynau, ond hefyd am y syniadau y mae hi wedi gallu eu cynnig i mi yn ddiweddar? Rwy'n eu gwerthfawrogi'n fawr. Maent wedi helpu i lunio nid yn unig ail gam y gronfa cadernid economaidd, ond ymyriadau eraill hefyd. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn yn wir.
Rydym yn ceisio manteisio ar y pythefnos sydd i ddod i bwyso a mesur cynllun benthyciadau adfer Llywodraeth y DU, a hefyd i sicrhau y gallwn weithio'n agos iawn gyda phartneriaid awdurdodau lleol ar unrhyw fanylion cynllun caledi ar gyfer y busnesau sy'n weddill a allai ddisgyn drwy'r rhwyd. Mae'n bwysig hefyd ein bod ni'n sicrhau nad ydym yn anfwriadol neu'n anffodus, yn ddamweiniol, yn talu ddwywaith i fusnesau a allai geisio gwneud cais ar gyfer cam 1 y gronfa cadernid economaidd a cham 2 y gronfa cadernid economaidd. Drwy bennu canol Mehefin fel y dyddiad y byddwn yn agor y gwiriwr cymhwysedd, gallwn fod yn hyderus y byddwn wedi cwblhau'r holl daliadau i ymgeiswyr llwyddiannus yng ngham cyntaf y cynllun.
O ran rhai o'r busnesau hynny a gafodd sylw, mae'n bosibl y bydd rhai o'r sectorau hynny, y busnesau gwely a brecwast sy'n talu'r dreth gyngor, yn gymwys i gael arian y gronfa cadernid economaidd, cyhyd â'u bod wedi'u cofrestru ar gyfer TAW ac yn gyflogwyr, neu os nad ydynt, byddai angen iddynt fodloni dau o dri phwynt yn ein meini prawf—mae'r tri phwynt yn ymwneud â bod wedi'u cofrestru ar gyfer TAW, neu fod â throsiant o dros £50,000. Os na allant fodloni hynny, rydym yn edrych ar sut y gallai cronfa galedi arall fod o gymorth.
Ond pwrpas ein hymyriadau economaidd yw cefnogi busnesau sy'n cyflogi pobl, busnesau sy'n hyfyw, busnesau y mae'r perchnogion a'u gweithwyr yn dibynnu arnynt am eu bywoliaeth. Mae arnaf ofn nad oes gennym bŵer i allu cefnogi busnesau ffordd o fyw, ac felly rydym yn gorfod bod yn ddetholus o ran pa fusnesau rydym yn eu cefnogi. Dyna pam ei bod yn gwbl briodol ein bod yn gwneud y defnydd gorau o'n hadnoddau ariannol yn y busnesau a fyddai fel arall yn rhoi'r gorau i fasnachu ac yn methu.
Rwy'n cytuno'n llwyr â Helen Mary Jones ynglŷn â'r angen i sicrhau bod y cynllun ffyrlo yn fwy hyblyg yn ystod y misoedd i ddod, a dyna pam yr hoffem drafod sut y bydd y cynllun yn gweithredu o fis Awst i fis Hydref yn awr. Mae angen inni gymryd rhan mewn ffordd ystyrlon, a dyna a drafodwyd y bore yma gyda chymheiriaid o'r gweinyddiaethau datganoledig ac o BEIS. Byddaf yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i fod yn fwy hyblyg o ran y meini prawf ar gyfer gwneud cais ac yn benodol y cymhwysedd mewn perthynas â dyddiadau. Byddem yn dymuno gweld ceisiadau ffyrlo a estynnwyd i'r cyfnod rhwng 15 Mawrth a 1 Ebrill yn cynnwys gweithwyr tymhorol.
Rydym wedi sefydlu mwy o gyllid yn y gronfa cymorth dewisol i helpu pobl sydd wedi disgyn drwy'r bwlch hwn, a hynny ar sail dros dro. Os na wnaiff Llywodraeth y DU roi sylw i'r broblem benodol honno gyda'r dyddiadau, byddwn yn adolygu eto a oes angen unrhyw gymorth pellach drwy'r gronfa cymorth dewisol.
Credaf fod Helen Mary Jones yn codi'r pwynt pwysig ynglŷn â chanllawiau. Wrth inni godi'r cyfyngiadau, wrth inni lacio'r cyfyngiadau, rhaid inni sicrhau bod gan bobl hyder i ddefnyddio busnesau, a mynd i mewn i'r gweithle. Rydym wedi bod yn trafod gyda'n partneriaid cymdeithasol y canllawiau sydd nid yn unig yn berthnasol i drafnidiaeth gyhoeddus, ond hefyd i fusnesau ar sail sectoraidd, sy'n manteisio ar y gwaith a wnaed gan BEIS o ran gweithio'n fwy diogel, ond sydd hefyd yn ymgorffori, yn allweddol, y rheoliadau yma yng Nghymru mewn perthynas â'r rheol 2m. Edrychaf ymlaen at allu cyhoeddi'r canllawiau hynny yn yr wythnosau sydd i ddod, fel eu bod yn galluogi busnesau i ymgorffori unrhyw ffyrdd newydd o weithio cyn gynted ag y bo modd, er mwyn iddynt allu addasu i fod yn weithrediadau arferol yn gymharol ddidrafferth.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei atebion. O ran busnesau twristiaeth, credaf fy mod eisoes wedi sôn wrtho am yr angen penodol iddynt allu cael eu canllawiau dychwelyd i'r gwaith yn ddiogel cyn gynted â phosibl. Rwy'n credu eu bod i gyd yn ymwybodol iawn na fyddant ymhlith y busnesau cyntaf sy'n dychwelyd, ond maent hefyd yn ymwybodol iawn y bydd angen iddynt wneud newidiadau strwythurol posibl ar eu safleoedd cyn y gallant agor, ac y gallai fod angen iddynt ddarparu ailhyfforddiant i'w staff hefyd fel eu bod yn ymwybodol o'r canllawiau. Felly, tybed a all y Gweinidog roi rhyw syniad i ni pryd y gallai'r arweiniad busnes sector-benodol ar gyfer twristiaeth fod ar gael? Ac a all gadarnhau y bydd y canllawiau hynny'n cynnwys canllawiau penodol ar gyfer gwahanol sectorau ym maes lletygarwch a thwristiaeth—popeth o barciau carafanau i safleoedd gwersylla i gychod twristiaeth, er enghraifft, lle bydd problemau gwahanol yn codi ynghylch cadw pellter cymdeithasol ym mhob un o'r rheini?
Rwy'n ddiolchgar iddo am yr hyn a ddywedodd am y cynllun ffyrlo ac am barhau i wthio'r achos dros fusnesau newydd. Fel y gŵyr, credwn fod hyd at 22,000 o ddinasyddion Cymru wedi'u dal yn y sefyllfa hon. Ac er fy mod yn ddiolchgar am yr hyn sydd ganddo i'w ddweud am y gronfa cymorth dewisol, rwy'n siŵr y bydd yn cydnabod na ddylai honno ddod yn lle cynllun ffyrlo ac ni fyddai'n dymuno iddi gymryd lle cynllun ffyrlo priodol ar gyfer y bobl hynny.
Yn olaf, a gaf fi ddiolch iddo unwaith eto am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni a gofyn iddo gadarnhau y bydd yn gwneud datganiad i'r lle hwn cyn gynted ag y gall am yr union feini prawf ar gyfer cyfnod newydd y gronfa cadernid economaidd?
Gallaf eich sicrhau y byddaf yn cyhoeddi'r meini prawf cyn gynted ag y bo modd—meini prawf llawn—a byddaf yn gwneud datganiad i'r Aelodau. A gaf fi ddweud ein bod yn sefyll gyda'r sector twristiaeth yn awr? Nid yw erioed wedi bod drwy gyfnod mor ansicr ag y mae'n mynd drwyddo ar hyn o bryd, ac rydym am gefnogi'r sector ym mhob ffordd y gallwn, ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, sydd â phocedi llawer dyfnach wrth gwrs, a gallu i gefnogi'r sector gydag adnoddau ariannol.
O ran rhai o'r cwestiynau a ofynnodd Helen Mary Jones ynglŷn â'r canllawiau, bydd y canllawiau y byddwn yn eu cyhoeddi yn berthnasol i sectorau, ac mae'r canllawiau a gyhoeddwyd gan BEIS yn berthnasol i weithleoedd, a bydd yn amlinellu sut y gall newidiadau strwythurol, sut y bydd gwaith adeiladu ar safleoedd, yn digwydd mewn ffordd ddiogel. Rydym yn ceisio bod mor gynhwysfawr â phosibl, o ran y canllawiau sy'n cael eu drafftio, fel bod pob busnes yn gallu ystyried y rheoliadau sydd gennym ni yma yng Nghymru. Ond wrth gwrs, mae'r canllawiau sydd eisoes ar gael gan BEIS yn ymdrin mewn ffordd foddhaol at ei gilydd â threfniadau gweithio diogel. Yr hyn y byddwn yn ei gynhyrchu yw fersiwn well a fersiwn sydd ond yn berthnasol i Gymru.
Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad a'r ffordd adeiladol y buoch yn gweithio gyda llefarwyr yr wrthblaid? Fe soniwch eich bod yn annog Gweinidogion Llywodraeth y DU i'ch cynnwys mewn trafodaethau, a tybed a ydych chi hefyd wedi estyn gwahoddiad i Weinidogion Llywodraeth y DU fod yn rhan o'ch trafodaethau chi ar gam nesaf y gronfa cadernid economaidd.
Rwy'n arbennig o falch eich bod wedi rhoi dyddiad ar gyfer cam nesaf y gronfa cadernid economaidd, ond rwy'n siomedig braidd ei fod mor bell i ffwrdd. Rwyf wedi bod yn dweud wrth fusnesau a fu'n cysylltu â fy swyddfa, yn ddyddiol rai ohonynt, ei fod 'yn dod yn fuan.' Roedd hynny dair neu bedair wythnos yn ôl. Os nad yw'r gronfa nesaf ar gael ar gyfer canol mis Mehefin, mae hynny dair, bedair wythnos i ffwrdd eto, ac os na fydd ceisiadau'n agor tan ddiwedd mis Mehefin, rwy'n credu bod hynny'n amser hir i fusnesau aros. A oes unrhyw ffordd o gwbl y gallwch wneud hynny'n gynt, ac egluro'r rheswm pam dewis y dyddiad hwnnw efallai?
Rydych chi wedi dweud hefyd, ac efallai y gallwch chi egluro hyn, y bydd pobl yn gallu paratoi eu ceisiadau cyn i'r gronfa ddod i fodolaeth. Nid wyf yn deall sut y gallant wneud hynny os nad ydynt yn gwybod beth yw'r meini prawf cymhwysedd. Ac os nad yw'r gwiriwr ar gael tan ganol mis Mehefin, sut ar y ddaear y gallant wneud cais ymlaen llaw os yw hynny'n wir?
O ran TAW, rydych chi wedi dweud yn benodol mai ar gyfer cwmnïau cyfyngedig yn unig y mae hyn. Roedd hwn yn bryder mawr a godwyd gan fusnesau: os nad ydynt wedi'u cofrestru ar gyfer TAW, nid ydynt yn gymwys. Mae yna ychydig iawn o fusnesau cyfyngedig sydd heb eu cofrestru ar gyfer TAW. Mae hi bron yn sicr nad yw'r busnesau a oedd yn mynegi'r pryderon hyn wedi'u cofrestru ar gyfer TAW, ac fe fyddwch yn ymwybodol o'r bylchau. Os gallwch roi mwy o syniad i ni am y bylchau yn y cymorth i fusnesau a gaiff eu dileu'n raddol erbyn cam 2, ac rwy'n meddwl yn arbennig am fusnesau a ddechreuodd yn ôl ym mis Ebrill 2019 nad ydynt wedi gallu cael unrhyw arian o gwbl o hyd. Tybed a allech roi unrhyw obaith i'r busnesau hynny hefyd.
Weinidog.
Wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd. Ac i'r busnesau hynny, fel y dywedais yn gynharach, rydym yn edrych ar sefydlu bwrsariaeth galedi a fydd yn galw am gefnogaeth awdurdodau lleol y bydd gofyn iddynt weinyddu cronfa o'r fath. Mae'n galw am gryn dipyn o waith gweinyddol, a dyna pam y mae angen inni sicrhau bod systemau cadarn yn eu lle cyn inni ddechrau'r cynllun, sydd yn ei dro yn egluro'r amserlen rydym yn edrych arni.
Nawr, rwy'n awyddus i reoli disgwyliadau ac i addo llai a chyflawni mwy, a dyna pam y dywedais y bydd yr offeryn cymhwysedd ar agor erbyn canol mis Mehefin. Os gallwn gyflwyno hynny'n gynt mewn unrhyw ffordd, yna byddwn yn sicr o wneud hynny. Rwy'n cydnabod bod angen gweithredu ar frys. Rydym wedi bod yn gwneud hynny. Mae gennym y pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr a hael yn unrhyw le yn y DU. Rydym ni fel Llywodraeth yn awyddus i gadw ein henw da fel y Llywodraeth sy'n cynnig y pecyn cymorth gorau i fusnesau. Felly, fe wnawn bopeth yn ein gallu i gyflwyno cynllun cyn gynted â phosibl. Ond mae angen inni sicrhau hefyd ein bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n ystyried cynllun benthyciadau adfer Llywodraeth y DU, a'r rownd gyntaf o ddyfarniadau'r gronfa cadernid economaidd wrth gwrs.
Ond rwy'n derbyn yr hyn y mae Russell George yn ei ddweud yn llwyr, sef bod angen inni sicrhau ein bod yn rhoi hyder i fusnesau fod cymorth pellach yn mynd i fod ar gael, a'n bod ni'n mynd i gynnwys cynifer ag y bo modd o'r busnesau a syrthiodd drwy'r rhwyd y tro cyntaf, ac sydd wedi disgyn drwy'r rhwyd o ran cymorth Llywodraeth y DU, gan gynnwys y cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig a'r cynllun cadw swyddi.
Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n credu fy mod yn arbennig o awyddus i ddeall sut y gall busnesau wneud cais am y cynllun cyn bod y gwiriwr ar gael. Ni allant baratoi oni bai eu bod yn gwybod os ydynt yn gymwys ai peidio.
Tybed, hefyd, a wnewch chi roi sylw i'r rheswm pam eich bod mor amharod, mae'n debyg, i gyhoeddi amserlen uchelgeisiol gyda cherrig milltir clir ar gyfer ailagor economi Cymru fesul cam, a phryd y bydd hynny'n digwydd.
Hefyd, rwy'n poeni'n fawr am y diwydiant bysiau a choetsys, ac rwy'n meddwl tybed a allech gynnig unrhyw amlinelliad o'r gefnogaeth sy'n dod i'r sector penodol hwn.
Sylwaf hefyd fod y Ffederasiwn Busnesau Bach wedi gwneud awgrymiadau da iawn ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo busnesau i ailagor, a tybed sut y byddech yn ymateb i rai o'u hawgrymiadau, sef y dylai Llywodraeth Cymru: gyhoeddi cyngor ac arweiniad ar y rheol 2m; cyflwyno cronfa grantiau cadw pellter cymdeithasol a fyddai'n targedu'r busnesau sydd efallai'n ei chael hi'n anodd gwneud rhai o'r addasiadau hynny; cyflwyno cynllun cyfnod seibiant ar gyfer twristiaeth er mwyn sicrhau bod busnesau yn y sector yn gallu goroesi tan dymor 2021; ac yn olaf, sut y gall rhaglen trawsnewid trefi £19 miliwn Llywodraeth Cymru helpu trefi i addasu yn barod ar gyfer y cyfnod adfer.
Mae Russell George wedi gofyn nifer o gwestiynau pwysig iawn ac rwyf am geisio fy ngorau i'w hateb yn gryno. Yn gyntaf oll, bydd yr offeryn cymhwysedd ar gael cyn i'r cynllun agor, felly bydd unrhyw fusnes sy'n ystyried gwneud cais yn gallu gweld a fydd yn gymwys ai peidio. Bydd yr holl feini prawf ar gael ar-lein. Rwyf am ymdrechu i lansio'r gronfa honno cyn gynted ag y bo modd, ond rhaid inni wneud hynny gan wybod bod yr holl systemau ar waith a bod ein cydweithwyr llywodraeth leol yn cefnogi'n llawn unrhyw gynllun bwrsariaeth galedi a gyflwynwn.
Ac o ran amserlen ar gyfer ailagor rhai sectorau o'r economi, rwy'n credu ei bod yn bwysig i bawb ohonom ymdrechu i'r eithaf i geisio trechu'r pandemig a'r feirws yn awr. Gallai gosod amserlen artiffisial, neu un ddymunol hyd yn oed, beri i bobl fod ychydig yn llai gwyliadwrus ynglŷn â'r angen i drechu'r feirws. Os yw pobl yn gwybod na fydd busnesau'n ailddechrau fel arfer heb i'r feirws gael ei drechu, rwy'n credu y bydd yr ymdrech gymaint yn fwy, a dyna pam rwy'n awyddus i wneud yn siŵr ein bod ond yn canolbwyntio ar reoli'r feirws.
O ran y cymorth sy'n cael ei gynnig i'r sector bysiau, rydym wedi sefydlu cronfa galedi £29 miliwn ar gyfer darparwyr gwasanaethau bysiau. Nawr, ariannwyd y gronfa drwy swm canlyniadol gan Lywodraeth y DU, ond daw i ben ddiwedd mis Mehefin. Rydym wedi bod yn glir yn ein gohebiaeth a'n trafodaethau â'n cymheiriaid yn Llywodraeth y DU fod angen cyllid sicrwydd mwy hirdymor ar gyfer y sector bysiau i sicrhau nad yw darparwyr bysiau yn rhoi'r gorau iddi, nad ydynt yn lluchio'r allweddi. Felly, rwy'n obeithiol y bydd Llywodraeth y DU yn gwrando ar yr hyn rydym wedi galw amdano ac y byddwn yn gallu darparu pecyn cymorth llawer mwy hirdymor ar gyfer y sector bysiau.
Ond yn ogystal â hynny, mae'r gronfa cadernid economaidd wedi bod yn weithredol i fusnesau ar draws pob sector, ac rwy'n falch o ddweud ein bod wedi gallu cefnogi cwmnïau bysiau drwy'r gronfa benodol honno. Mae cynigion wedi'u gwneud i rai cyflogwyr mawr yn y diwydiant bysiau a'r diwydiant coetsys. Ac rwy'n croesawu'n fawr y papur a gynhyrchwyd gan y Ffederasiwn Busnesau Bach. Cyhoeddwyd y rheoliadau 2m gennym. Bydd y cyngor a'r canllawiau ar gyfer gweithredu'n ddiogel yn y gwaith i weithwyr a pherchnogion busnesau yn cael eu cyhoeddi. Bydd honno'n fersiwn estynedig o'r hyn sydd eisoes wedi'i ddarparu gan BEIS, gan ychwanegu rheoliadau Cymreig ar gadw pellter cymdeithasol. Ac rwyf eisoes wedi trafod yr angen i ystyried grant i helpu busnesau i addasu i'r hyn fydd yn normal newydd gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU. Rwy'n obeithiol y bydd Llywodraeth y DU yn gallu darparu adnoddau ariannol i allu rhoi grantiau i fusnesau, yn enwedig busnesau bach lle gallai'r costau fod yn llethol.
Mewn perthynas â'r diwydiant twristiaeth, rydym wedi gofyn i Lywodraeth y DU ystyried gwyliau TAW yn y sector twristiaeth. Rwy'n credu y gallai hyn fod yn fuddiol iawn, yn enwedig yn y cyfnod adfer, ond yn yr un modd, mae fy nghyfaill a fy nghyd-Aelod, Dafydd Elis-Thomas, wedi cael sawl trafodaeth ar y ffôn gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU a chyda'r cyrff masnach ynghylch cymorth mwy hirdymor i'r diwydiant i wneud yn union yr hyn rydych chi wedi'i awgrymu, Russell, sef sicrhau eu bod yn gallu cael cyfnod o seibiant trwy adegau gwaethaf yr argyfwng hwn.
Diolch. Mae gennym oddeutu 12 munud yn weddill ac rydym wedi cael dwy set o gwestiynau, felly rwy'n mynd i ofyn i chi fod yn gryno, Weinidog, ac mae'n ddrwg gennyf am hynny, a bydd angen bod yn gryno yn y gyfres nesaf o gwestiynau hefyd. Jenny Rathbone. Jenny Rathbone? Na. O'r gorau. Huw Irranca-Davies.
Nid wyf yn siŵr fod Huw yn gallu eich clywed, Ddirprwy Lywydd. Mae angen agor ei feic.
Jenny?
Rwy'n credu fy mod drwodd yn awr.
Iawn. Huw Irranca-Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, y tu hwnt i COVID-19, rydym yn dal i wynebu argyfwng hinsawdd, mae gennym argyfwng bioamrywiaeth, mae gennym anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd dwfn, mae gennym gwmnïau nad ydynt mor foesegol ag eraill nad ydynt yn talu eu cyfran deg o drethi, ac yn y blaen. Felly, wrth ailadeiladu'n well, a gaf fi ofyn i chi ymhelaethu ar hyn a beth fyddai'n ei olygu ar gyfer math gwahanol o Gymru yn gymdeithasol ac yn economaidd yn y dyfodol? A fyddai'n cytuno bod cyfle o ddifrif yma inni allu ailadeiladu'n well yng Nghymru oherwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, oherwydd Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, oherwydd pleidlais ein Senedd ar newid hinsawdd, yn cydnabod yr argyfwng newid hinsawdd—swyddi sy'n nes at gartrefi, pobl a lleoedd sydd lawn mor bwysig â gweithgarwch busnes mawr? Sut y gwnawn ni hyn, Weinidog? Mae cyfle go iawn yma.
Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â Huw Irranca-Davies fod cyfle anhygoel i wneud fel y mae Andy Burnham wedi'i ddweud, i ailadeiladu'n well—ef sydd wedi bathu'r ymadrodd. Rwy'n credu bod hynny'n gwbl briodol i ddisgrifio rhai o'r ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithredu yn ddiweddar, gan gynnwys drwy'r contract economaidd, sut rydym wedi bod yn hyrwyddo busnesau cyfrifol, gan gynnwys peth o'r ddeddfwriaeth arloesol sydd gennym yma yng Nghymru, gan gynnwys y Ddeddf teithio llesol a Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Yn ystod y drafodaeth a gefais gyda'r Maer Burnham, llwyddais i dynnu sylw at rai o'r ffyrdd unigryw o weithio yng Nghymru a fydd yn ein galluogi i ailadeiladu'n well ac a fydd, os dilynir hynny gan Lywodraethau eraill, yn galluogi'r wlad gyfan i ailadeiladu'n well hefyd.
Rwy'n credu bod peth o'r gwaith cyffrous y gellir ei ddatblygu i sicrhau ein bod yn creu cymdeithas fwy gwyrdd a mwy teg ac economi fwy gwyrdd a mwy teg yn cynnwys y gwaith sydd wedi dechrau ar weithio'n glyfar, ac mae hyn yn cysylltu â chwestiwn Russell George na chefais gyfle i'w ateb ynglŷn â sut y gallem gefnogi canol trefi a strydoedd mawr. Ein barn ni yw na fydd patrymau ymddygiad byth yn dychwelyd i'r hyn oeddent ym mis Chwefror eleni, ac y bydd newid ymddygiad, ar ôl yr argyfwng hwn, yn arwain at fwy o weithio o bell. Mae angen inni groesawu hynny, a gallem gefnogi defnydd eang o weithio o bell pe baem yn buddsoddi mewn siopau gwag yng nghanol trefi ar y stryd fawr, gan gynnig cyfleoedd i bobl, nid o reidrwydd i weithio gartref, ond yn sicr i weithio'n agosach at eu cartrefi. Gallai hyn wneud economi Cymru'n fwy cyfartal hefyd. Byddai'n golygu na fyddai pobl o reidrwydd yn gorfod teithio degau ar ddegau o filltiroedd i drefi a dinasoedd mwy o faint ein gwlad i fynychu cyfarfodydd. Byddai'n galluogi canol trefi i deimlo'n fwy bywiog i ni allu buddsoddi yn rhywfaint o'r seilwaith a fyddai hefyd yn gwella canol trefi a strydoedd mawr, gan gynnwys palmentydd lletach, seilwaith teithio llesol.
Ac rwy'n meddwl hefyd, o ran peth o'r gwaith rydym yn ystyried ei wneud ar strategaeth drafnidiaeth Cymru, wrth i ni ailadeiladu'n well, byddwn yn buddsoddi, wrth gwrs, mewn mwy o ddarpariaeth teithio llesol, gan gynnwys atebion trafnidiaeth mwy gwyrdd. Ac o safbwynt rhai o'r gweithdrefnau cyflogaeth moesegol rydym yn awyddus i'w hyrwyddo, fe fydd Huw Irranca-Davies yn ymwybodol ein bod wedi cyhoeddi yn ddiweddar na fyddwn yn darparu cyllid cadernid economaidd i fusnesau sydd wedi'u cofrestru mewn hafanau treth. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn gwneud hyn; os nad ydych yn talu i mewn i'r system, pam y dylech allu mynd ag arian o'r system cyn y rhai sydd wedi talu eu cyfran deg? Rydym am i Gymru gael ei gweld fel gwlad deg a gwyrdd ac rwy'n hyderus y gallwn gael enw da o'r fath drwy'r gwaith sy'n cael ei wneud yn awr fel rhan o'r broses adfer.
David Rowlands.
David, mae angen agor eich meic.
David Rowlands.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma, a diolch iddo hefyd am ei ymdrechion glew yn ystod yr amser anodd iawn hwn? Hoffwn gydnabod yn ogystal ehangder yr ymyriadau gan Lywodraeth Cymru a'r modd effeithlon y cawsant eu gweithredu yn wir, yn enwedig drwy gyfrwng llywodraeth leol a Banc Datblygu Cymru. Ac rwy'n meddwl ein bod hefyd am gydnabod y rhan fawr y mae Busnes Cymru yn ei chwarae yn hyn drwy roi gwybodaeth mor dda i gwmnïau ar lawr gwlad.
Gan sôn am gwmnïau, Weinidog, mae pobl Cymru'n dibynnu ar lawer o gwmnïau i wneud eu bywydau gryn dipyn yn well yn ystod y cyfyngiadau symud, ond hoffwn dynnu eich sylw at gwmni nad yw'n gwneud hyn yn fy marn i, ac sy'n gwneud cam â'u cwsmeriaid yn ystod yr argyfwng hwn. Rwy'n cyfeirio yma at gwsmeriaid SSE, sef SWALEC yn flaenorol, y cwmni cyflenwi trydan. Mae'n debyg fod methiant mesurydd trydan wedi achosi i gwsmer golli ei gyflenwad trydan. Roeddent yn ei chael hi'n amhosibl hysbysu'r cwmni am y nam. Fe geisiais i gysylltu â'r cwmni wedyn gan ddefnyddio eu gwefan a nifer o rifau ffôn, gan gynnwys y rhif a roddwyd i Western Power yn benodol ar gyfer yr argyfwng coronafeirws, ond yr unig neges a gafwyd dro ar ôl tro oedd nad oedd y gwasanaeth ar gael. Ymddengys nad oes rhif argyfwng ar gael i gwsmeriaid SSE, nac unrhyw ffordd yn wir o gysylltu â hwy mewn argyfwng. Mae'r cwsmer hwn wedi bod heb drydan ers oddeutu 48 awr. Er nad yw hynny'n wir yn yr achos hwn, gallai fod wedi bod yn aelwyd lle mae cymhorthion iechyd yn ddibynnol ar gyflenwad trydan sy'n gweithio ac ni fyddai'r rhain wedi gweithio, wrth gwrs, gan beryglu bywydau o bosibl. A ydych chi'n teimlo bod methiant y cwmni yn dderbyniol yn y materion hyn?
Diolch i David Rowlands am ei gwestiwn a hefyd am ei sylwadau hael a charedig am staff y banc datblygu a Busnes Cymru. Maent yn sicr yn gwerthfawrogi sylwadau caredig fel y rhai a wnaethoch chi heddiw. Maent yn gweithio mewn amgylchiadau eithriadol o anodd, gan jyglo anawsterau gweithio gartref gyda gofynion niferus busnesau, ac felly mae'r sylwadau hael hynny'n gwneud cryn dipyn i hybu eu morâl.
Ar fater SSE, Ddirprwy Lywydd, rhaid imi ddatgan buddiant gan fy mod yn gwsmer i SSE, a bûm yn derbyn negeseuon testun rheolaidd drwy gydol yr argyfwng. Ond o ran lefel y gwasanaeth y mae David Rowlands wedi tynnu sylw ato a'r siom o fethu cysylltu â SSE, os nad yw'r cwmni wedi clywed yr hyn y mae David wedi'i ddweud y prynhawn yma erbyn diwedd yr wythnos hon, byddwn yn sicr yn mynd ar ôl y cwmni ac yn sicrhau eu bod yn ymateb i bryderon cwsmeriaid oherwydd, fel y dywed David, mae'n gwbl hanfodol fod pobl yn gallu cael mynediad at wasanaethau cymorth cyfleustodau mewn modd amserol ac mewn ffordd briodol yn ystod yr argyfwng.
Yn Lloegr, mae busnesau gwely a brecwast bach eisoes yn gymwys i gael grant busnes, ond mae Llywodraeth Cymru yn dal i eithrio'r busnesau hyn yng Nghymru. Bythefnos yn ôl, dywedodd y Gweinidog cyllid wrthyf eich bod yn edrych ymlaen at wneud cyhoeddiad, ond ni lwyddoch chi i wneud hynny heddiw. Sut ydych chi'n ymateb felly i fusnesau gwely a brecwast gofidus yng ngogledd Cymru sy'n gofyn i mi geisio cael atebion gennych yn awr, neu fel arall bydd yn rhaid iddynt benderfynu a ddylent roi'r gorau i fasnachu y mis hwn?
Bythefnos yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd elusennau bach yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn derbyn grant o £10,000 i fusnesau yn sgil COVID-19. Heddiw mae gwefan Busnes Cymru yn dal i ddweud,
'Bydd mwy o fanylion ynglŷn â sut i ymgeisio ar y wefan yn fuan.'
Beth yw eich ymateb felly i'r elusennau a'r busnesau cymdeithasol sy'n dweud wrthyf fod ganddynt filiau niferus i'w talu ac sy'n gobeithio y daw'r cymorth ariannol hwn yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach?
Wel, a gaf fi ddweud yn gyntaf fod cyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch busnesau gwely a brecwast bach sy'n talu'r dreth gyngor yn seiliedig ar £617 miliwn ychwanegol, ac nid wyf yn credu ein bod wedi gweld swm canlyniadol yn sgil hwnnw, ac felly, ni fyddai ceisio efelychu cynllun o'r fath yng Nghymru heb gyllid gan Lywodraeth y DU yn fforddiadwy. Efallai y gallai Mark Isherwood gyfleu ei siom i San Steffan ynghylch y diffyg adnoddau sydd wedi bod ar gael. Fodd bynnag, gallaf gadarnhau i weithredwyr busnesau gwely a brecwast, os ydynt wedi'u cofrestru ar gyfer TAW ac yn cyflogi pobl, eu bod yn gymwys i gael arian o'r gronfa cadernid economaidd, ac y byddant yn gymwys ar gyfer ail gam y gronfa cadernid economaidd. Fel y dywedais mewn ymateb i eraill ac fel yr amlinellais yn fy natganiad, rydym yn benderfynol o wneud yn siŵr ein bod yn manteisio ar yr ail gam o'r gronfa cadernid economaidd i sefydlu bwrsariaeth—bwrsariaeth galedi—i gynnwys unrhyw unigolion neu fusnesau sydd mewn perygl o fynd i'r wal o ganlyniad i'r coronafeirws. Ond fel y dywedais wrth gyfranwyr eraill, mae ein hadnoddau ariannol yn gyfyngedig, ac mae'n rhaid inni ddefnyddio'r arian hwnnw i gadw busnesau'n fyw lle mae'n unig incwm neu'n brif incwm i'r perchnogion ac i'w gweithwyr. Mae arnaf ofn na fyddwn yn gallu cefnogi pob busnes hamdden. Rhaid inni flaenoriaethu arian i'r busnesau sydd fwyaf o'i angen.
Mae busnesau cymdeithasol hefyd yn gymwys ar gyfer y gronfa cadernid economaidd ac yn wir, credaf fod dros 1.5 y cant o ddyfarniadau wedi'u gwneud i fusnesau cymdeithasol—sy'n uwch na chyfran y busnesau cymdeithasol fel cyfanswm o'r economi yn ei chyfanrwydd, gan ddangos ein hymrwymiad i'r sector penodol hwnnw.
Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad heddiw ac yn arbennig y sylw y bydd y gronfa cadernid economaidd yn cael ei hailagor ganol mis Mehefin, gan fod llawer o sefydliadau yn fy etholaeth wedi methu cael mynediad ati hyd yma, ond maent yn awyddus iddi ailagor. Mae croeso mawr iddi.
Cefais gyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol ar ddur ddydd Llun, ac rwy'n falch iawn eich bod wedi gwneud sylwadau ar ddur yn eich datganiad, ond roedd y cyflogwyr a'r undebau llafur fel ei gilydd yn mynegi pryder mawr fod Llywodraeth San Steffan fel pe baent yn rhoi'r argraff nad yw Cymru'n cyfrif. A allwch dawelu fy meddwl i a'r gweithwyr dur yn fy nghymuned y byddwch yn ymladd dros ddur yng Nghymru, ac y byddwch yn sicrhau—nid gofyn i'r Llywodraeth yn unig, ond y byddwch yn mynnu—fod Llywodraeth y DU yn diogelu'r diwydiant dur wrth inni ddod allan o'r adferiad, oherwydd byddwn yn wynebu heriau byd-eang a chystadleuaeth o Ewrop, lle mae cae chwarae gwastad Ewrop yn well i Ewropeaid mewn gwirionedd nag ydyw i ddiwydiant y DU?
Wel, a gaf fi ddiolch i Dai Rees am ei gwestiwn ac am y cyfle a roddodd i fy swyddogion fod yn rhan o'r trafodaethau bwrdd crwn ar ddur yn ddiweddar fel rhan o grŵp trawsbleidiol? Bob wythnos yn ein galwadau pedairochrog—Gweinidogion eraill o'r gweinyddiaethau datganoledig eraill a minnau—rydym yn codi'r angen i gefnogi'r sector dur yn y Deyrnas Unedig, gan gydnabod ei fod yn sector sy'n bwysig i'n diogelwch gwladol.
Mae trafodaethau ar y gweill rhwng Llywodraeth y DU a Tata ynglŷn â chymorth pellach posibl. Mater i Lywodraeth y DU a Tata yw natur a manylion y trafodaethau hyn, ond gallaf sicrhau Dai Rees heddiw, a'r miloedd o weithwyr a gyflogir gan Tata a busnesau dur eraill yng Nghymru a ledled y DU, fod Llywodraeth Cymru yn sefyll y tu ôl iddynt, y byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gynnig adnoddau priodol a digonol er mwyn goresgyn yr argyfwng presennol, a'n bod yn mynnu gweld newidiadau hirdymor yn cael eu gwneud, yn enwedig mewn perthynas â phrisiau ynni uchel a chyfnewidiol ar gyfer y sector, fel y gall ddod allan o'r argyfwng yn y cyflwr gorau posibl, er mwyn i'r miloedd o bobl a oedd yn ansicr ynglŷn â'u rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol cyn y coronafeirws yn llawer mwy sicr y byddant yn cael eu cyflogi yn y sector yn y blynyddoedd i ddod wrth inni gefnu ar y pandemig ofnadwy hwn.
Diolch ichi am eich datganiad, Weinidog. Rwy'n falch iawn eich bod wedi sôn am Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Y Swyddfa Eiddo Deallusol yw un o'r cyflogwyr mwyaf yng Nghasnewydd ac mae wedi bod yn arwain y ffordd ar iechyd meddwl a llesiant. Eu gweledigaeth yw bod yn sefydliad lle caiff problemau iechyd meddwl eu deall yn eang a lle caiff stigma yn eu cylch ei ddileu, a lle mae iechyd meddwl a llesiant yn cael eu hybu. Er enghraifft, maent wedi dechrau cwrs ymwybyddiaeth ofalgar rhithwir gyda Phrifysgol Bangor, menter newydd i gysylltu â staff sy'n newydd i'r swyddfa, sy'n byw ar eu pen eu hunain neu sy'n weithwyr gartref am y tro cyntaf, ac amser te rhithwir a sesiynau ffitrwydd drwy ioga desg neu weithgareddau grŵp o adref.
Mae COVID-19 yn debygol o newid y ffordd y mae bron bob gweithle yn gweithredu. Mae manteision a heriau ynghlwm wrth gadw pellter cymdeithasol a gweithio o bell. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda busnesau a gweithleoedd sector cyhoeddus ynglŷn â sut y gallant addasu er mwyn sicrhau nad yw'r ddyletswydd gofal am les eu gweithwyr yn cael ei hanghofio mewn unrhyw leoliad gwaith, ni waeth pa mor fawr neu fach ydyw, a sut y gall Llywodraeth Cymru helpu i hyrwyddo a rhannu'r arferion da er mwyn i bawb gael cyfle i elwa?
Wel, a gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Jayne Bryant am natur y cwestiwn? Nid yw iechyd meddwl y genedl yn dda ar hyn o bryd, a dweud y lleiaf. Nid wyf yn meddwl bod llawer o bobl wedi profi amser mor drawmatig ar wahân i brofedigaeth neu berthynas yn chwalu. Mae hwn yn fater pwysig i iechyd y genedl. Rydym yn defnyddio'r contract economaidd i annog ymddygiad busnes mwy cyfrifol.
Ar ddechrau'r coronafeirws roedd gennym gannoedd o gontractau economaidd ar waith. Bydd nifer y contractau economaidd y byddwn wedi'u sicrhau ar ôl i ni ddod allan o'r argyfwng wedi cynyddu mwy na 1,000 y cant. Fel rhan o'r contract hwnnw—dim ond pedwar pwynt sydd ynddo—rhaid i fusnesau ddangos sut y mae'n gwella iechyd meddwl eu gweithlu. Gan y busnesau sydd wedi ymrwymo i'r contract economaidd hyd yma, rydym wedi gweld creadigrwydd anhygoel, arloesedd a chyfrifoldeb dros wella iechyd meddwl eu gweithwyr. Rwy'n awyddus i barhau i gydweithio â sefydliadau fel Mind Cymru i hyrwyddo cynlluniau fel Amser i Newid er mwyn sicrhau, wrth inni gefnu ar y coronafeirws, fod llesiant ein gwlad yn ystyriaeth o leiaf yr un mor bwysig â chyfoeth ein gwlad, a bod iechyd meddwl pobl ledled Cymru'n gwella'n ddramatig ac yn gyflym wrth i ni gefnu ar y pandemig.
Weinidog, gofynnais i chi—. Wel, bûm yn ceisio cael atebion ers 6 Ebrill. Gofynasom am gyfarfod gyda chi ar 10 Mai—gofynasom am slot 15 munud unrhyw bryd yn ystod y 24 awr. Mae hyn yn ymwneud â chanolfannau chwarae, nad yw swyddogion yn eu cefnogi am ryw reswm—nid ydynt yn cael eu categoreiddio fel busnesau hamdden. Mae'r busnesau hyn yn mynd i fethu oni chânt gefnogaeth. Felly, y cwestiwn syml iawn yw: a wnewch chi sicrhau, os gwelwch yn dda, y bydd canolfannau chwarae, sy'n cyflawni swyddogaeth wirioneddol werthfawr yn ein cymunedau—a wnewch chi sicrhau bod canolfannau chwarae'n cael eu cefnogi, os gwelwch yn dda?
A gaf fi ddiolch i Neil McEvoy am ei gwestiwn? Mae hwn yn gwestiwn sydd wedi'i godi gan eraill hefyd, yn enwedig yng nghyswllt rhai o'r canolfannau chwarae meddal sy'n bodoli ac sy'n boblogaidd iawn. Mae'r gronfa cadernid economaidd yn gymwys ar gyfer canolfannau chwarae a bydd ail rownd y gronfa yn agored iddynt hwythau hefyd wrth gwrs.
Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi am gyfarfod â Nick Thomas-Symonds AS a minnau yn ddiweddar i drafod y 200 o swyddi sydd i'w colli yn Safran yng Nghwmbrân? Mae'r sefyllfa'n dal i beri pryder mawr i'r gweithlu yno. Mae Nick Thomas-Symonds AS a minnau yn ceisio cael cyfarfod arall gyda rheolwyr y cwmni, heb lwyddiant hyd yma. Tybed a fyddech yn cytuno, pan fydd cymunedau'n wynebu colli swyddi ar raddfa sylweddol, ei bod yn hollbwysig i arweinwyr cwmnïau ymgysylltu â chynrychiolwyr etholedig a'r undebau llafur y maent yn aelodau ohonynt, sef undeb Unite yn yr achos hwn. A gaf fi ofyn hefyd, pan fyddwn yn edrych ar gyllid i gwmnïau, wrth symud ymlaen, pan fo adnoddau mor brin, beth fyddwch chi'n ei wneud i sicrhau bod ymagwedd dda tuag at weithio mewn partneriaeth gymdeithasol a chydag undebau llafur yn cael ei ymgorffori yn y gofynion ar gyfer y cwmnïau hynny? Diolch.
A gaf fi ddiolch i Lynne Neagle am ei chwestiwn ac am y cyfle i drafod y sefyllfa yn Safran yng Nghwmbrân yn ddiweddar iawn, ynghyd â Nick? Rwy'n annog y cwmni i gyfarfod â chynrychiolwyr etholedig yn ddi-oed.
Mewn cyfnod o argyfwng, mae'n gwbl hanfodol fod cyflogwyr yn cyfathrebu'n glir gyda'u gweithlu a chydag Aelodau etholedig a chyda'r cymunedau lle maent yn gweithio er mwyn osgoi pryder diangen, a phanig yn wir, oherwydd dyna rwy'n ei deimlo yng Nghwmbrân ar hyn o bryd o ran rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol. Mae'n gwbl hanfodol fod ymgysylltu'n digwydd mewn ffordd ystyrlon a thryloyw, ac mae hynny'n cynnwys yr undebau llafur yn ogystal.
Fel rhan o'r broses o gyflwyno ein contract economaidd—rwyf eisoes wedi crybwyll bod iechyd meddwl yn rhan o'r meini prawf ar gyfer y contract economaidd—gallaf sicrhau Lynne fod elfennau eraill o'r contract yn ymwneud â gwaith teg. Ac wrth gwrs, fe wnaethom sefydlu'r Comisiwn Gwaith Teg i wneud argymhellion ar sut i wella safonau cyflogaeth yng Nghymru, ac yn ystod cyfnod nesaf y contract economaidd, byddwn yn sicrhau ein bod yn fwy ymestynnol yn yr hyn a ddisgwyliwn gan gyflogwyr o ran ymgysylltu ag undebau llafur a chyda'r gweithlu yn gyffredinol, a'u bod yn cymryd cyfrifoldeb llawn am weithwyr yn ystod cyfnodau o ddirywiad ariannol ac yn ystod argyfwng o'r math rydym yn ei brofi ar hyn o bryd.
Mae'r tri grŵp o fusnesau roeddwn am eich holi yn eu cylch yn cynnwys canolfannau chwarae i blant, mentrau cymdeithasol a'r busnesau bach nad ydynt wedi'u cofrestru ar gyfer TAW ac nad ydynt o reidrwydd yn talu ardrethi busnes, sy'n anadl einioes i economïau lleol ac sy'n cynnwys y bobl y mae angen inni fuddsoddi ynddynt er mwyn cynnal ein seilwaith cymdeithasol ac er mwyn sicrhau eu bod yn cael y cyfle gorau posibl i ymadfer ar ôl yr amharu rydym yn dyst iddo ar hyn o bryd. A allwch gadarnhau—a chredaf eich bod eisoes wedi gwneud hynny yn rhai o'ch atebion heddiw—y bydd y tri bwlch sy'n bodoli ar hyn o bryd yn cael eu llenwi pan fyddwch yn ailagor y gronfa cadernid economaidd?
Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch o allu cadarnhau y bydd pob un o'r tri yn cael cynnig cymorth, ar yr amod eu bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd wrth gwrs. Fel sectorau, byddant yn gymwys i wneud cais am arian.
Diolch yn fawr, Weinidog.