Part of the debate – Senedd Cymru am 3:20 pm ar 20 Mai 2020.
A gaf fi ddiolch i Neil McEvoy am ei gwestiwn? Mae hwn yn gwestiwn sydd wedi'i godi gan eraill hefyd, yn enwedig yng nghyswllt rhai o'r canolfannau chwarae meddal sy'n bodoli ac sy'n boblogaidd iawn. Mae'r gronfa cadernid economaidd yn gymwys ar gyfer canolfannau chwarae a bydd ail rownd y gronfa yn agored iddynt hwythau hefyd wrth gwrs.