– Senedd Cymru am 3:24 pm ar 20 Mai 2020.
Symudwn ymlaen yn awr at gynnig i atal y Rheolau Sefydlog a galwaf ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig hwnnw—Mark Drakeford.
Cynnig NNDM7325 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheolau Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i ddadl ar NNDM7326 gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 20 Mai 2020.
Yn ffurfiol, Ddirprwy Lywydd.
Yn ffurfiol. Diolch. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr. Felly, fel y nodwyd ar yr agenda, cynhelir y bleidlais heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11. Felly, symudwn ymlaen yn syth i bleidlais. Gall pob grŵp gwleidyddol enwebu un aelod o'r grŵp i gynrychioli'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau yn y grŵp. Yn achos grŵp gwleidyddol sydd â rôl Weithredol, bydd yr enwebai hwnnw'n cynrychioli'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau yn y grŵp hwnnw, yn ogystal ag unrhyw aelodau eraill o'r Llywodraeth. Bydd Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio drostynt eu hunain.
Rwy'n cynnal pleidlais yn awr drwy alw ar y cynrychiolwyr. Galwaf am bleidlais ar y cynnig i ohirio'r Rheolau Sefydlog, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Joyce Watson, sut ydych chi'n bwrw'r 30 pleidlais?
O blaid.
O blaid. Diolch. Ar ran grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw'r 11 pleidlais?
O blaid.
Mae'n ddrwg gennyf?
O blaid. Cefnogi.
O blaid. Diolch. Cefnogi. Diolch. Ar ran Plaid Cymru, Siân Gwenllian, sut ydych chi'n bwrw eich naw pleidlais?
O blaid. Diolch. Ar ran Plaid Brexit, Mark Reckless, sut ydych chi'n bwrw eich pedair pleidlais?
O blaid.
O blaid. Diolch. Gareth Bennett, sut ydych chi'n bwrw eich pleidlais?
Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd. Ymatal.
Rydych chi'n ymatal.
Ydw.
Diolch. Neil Hamilton, sut ydych chi'n bwrw eich pleidlais?
O blaid.
O blaid. Diolch. Neil McEvoy, sut ydych chi'n bwrw eich pleidlais?
Ar ran y Welsh National Party, o blaid.
O blaid. Diolch. Felly, canlyniad y bleidlais yw—ac mae'n galw am fwyafrif o ddwy ran o dair i basio—o blaid 56, un yn ymatal, a neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig i atal y Rheolau Sefydlog.
Joyce Watson ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)
Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: O blaid (11)
Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: O blaid (9)
Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: O blaid (4)
Gareth Bennett – Annibynnol: Ymatal
Neil Hamilton – Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: O blaid
Neil McEvoy – Annibynnol: O blaid
Rwy'n bwriadu cymryd seibiant technegol yn awr cyn inni symud at y ddadl nesaf, ac felly byddwn yn torri am 10 munud yn awr.