5. Dadl: COVID-19 — Llacio'r Cyfyngiadau ar ein Cymdeithas a'n Heconomi: Dal i Drafod

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 20 Mai 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 4:06, 20 Mai 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o allu cyfrannu at y ddadl hon. Mae hwn yn sicr yn gyfnod digynsail. Mae'n amlwg yn hanfodol sicrhau’r cydbwysedd cywir yn awr rhwng ymdrin yn effeithiol â'r pandemig presennol gan sbarduno’r economi cyn gynted â phosibl a diogelu swyddi a bywoliaeth pobl. Gyda hynny mewn golwg, a gaf fi gefnogi’r galwadau a wnaed eisoes am ymagwedd pedair gwlad tuag at y pandemig hwn cyn belled ag sy'n bosibl? Rwy'n dod o etholaeth ar y ffin, fel nifer o ACau eraill, ac nid yw'r feirws yn adnabod ffiniau, felly mae'n bwysig, fel y cydnabuwyd gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar, fod gennym ddull trawsffiniol o weithredu—dull mor integredig â phosibl.

Gwyddom y bydd cyllideb atodol yn y dyfodol agos, a bydd y gyllideb hon yn hynod bwysig wrth bennu'r blaenoriaethau perthnasol ar gyfer gwariant a darparu tryloywder. Mae’n rhaid i'r dyraniadau ariannol hynny fod yn ddigonol i ddiwallu anghenion busnesau a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus drwy'r cyfnod hwn o ansicrwydd mawr. Tybed a all y Prif Weinidog, wrth gloi, roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni o'i drafodaethau gydag awdurdodau lleol ar yr adeg hon. Mae Lynne Neagle newydd grybwyll rôl bwysig awdurdodau lleol mewn llawer o'r meysydd hyn. Gwyddom fod cyllidebau cynghorau yn dynn ar y gorau, ac mae'r pandemig presennol wedi rhoi pwysau enfawr arnynt. Wrth inni edrych yn awr tuag at fwy o brofi yn y gymuned, bydd y baich hwnnw'n cynyddu, felly mae angen iddynt wybod beth yw eu sefyllfa.

A gaf fi siarad ychydig am brifysgolion? Oherwydd yn amlwg, bydd prifysgolion yn allweddol o ran darparu arbenigedd ar gyfer cyflogaeth a swyddi yn y dyfodol, ac i'n tynnu allan o'r pandemig hwn yn y tymor hwy. Maent mewn sefyllfa ariannol ddifrifol o anodd. Mae rhagolwg y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn peri pryder, felly ni allwn fforddio gwneud dyraniadau cyllidebol nad ydynt yn cadw llygad ar ein sector prifysgolion nac yn edrych tuag at dwf economaidd yn y dyfodol.

A soniodd y Prif Weinidog am fecanweithiau sydd ar waith ar gyfer monitro ar y cychwyn. Byddwn yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru ddarparu mwy o eglurder ynglŷn â beth fydd y mecanweithiau monitro hynny dros yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

Nawr, rydym wedi gweld nifer o ddatganiadau cyffredinol yn ddiweddar, fel yr honiad y bydd £11 miliwn ar gael i'r rheini sy'n wynebu caledi o ganlyniad i'r pandemig. Ynddynt eu hunain, mae nifer o'r datganiadau hynny'n dweud pethau da, ond wrth gwrs, fel bob amser, mae'n bwysig ein bod yn gweld camau ar lawr gwlad a'n bod yn gweld cymhellion ar waith sy'n symud pethau ymlaen go iawn. Mae angen inni weld cefnogaeth benodol i'n diwydiant twristiaeth, sydd wedi cael ei effeithio’n aruthrol. Yn ôl ei natur, mae'r diwydiant twristiaeth yn dymhorol, felly hyd yn oed os bydd y cyfyngiadau symud yn llacio dros yr wythnosau a'r misoedd i ddod, mae'r tymor sy'n darparu’r refeniw wedi'i golli i bob pwrpas, ac ni fydd gan y diwydiant yr adnoddau ariannol arferol i’w buddsoddi dros gyfnod y gaeaf. Felly hoffwn weld mwy o eglurder yn y fframwaith sy’n cael ei gyflwyno gan y Llywodraeth ynglŷn â sut y cefnogir y diwydiant twristiaeth. Yn fy etholaeth i, mae camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn rhan fawr o'r economi twristiaeth—nid yn unig y gamlas, ond hefyd y busnesau ar ei hyd yr effeithir arnynt. Ac mae nifer fawr o bobl sy'n defnyddio'r gamlas honno’n dod o dramor, felly rwy’n dychmygu na fyddant yn dod yn ôl yn heidiau yn y dyfodol agos. Felly, credaf y bydd angen mwy o eglurder ariannol ar hynny.

Dywedodd y Gweinidog Cyllid yr wythnos diwethaf ei bod yn ceisio mwy o hyblygrwydd cyllidol o ran trosglwyddiadau rhwng cyllidebau cyfalaf a refeniw a benthyca hefyd—mae hynny i gyd yn ddealladwy, ond gyda hynny, mae’n rhaid cael mwy o atebolrwydd a thryloywder. Ac fel y dywedais wrth y Gweinidog Cyllid, mae disgwyl i’r diffyg presennol yng nghyllideb y DU fod dros £300 biliwn, bron i ddwywaith cymaint â ble roeddem ar anterth yr argyfwng ariannol dros 10 mlynedd yn ôl, felly mae'n rhaid bod terfyn i'r math o hyblygrwydd y gellir ei ddisgwyl. Felly golyga hynny ei bod yn bwysicach fyth fod yr adnoddau presennol yn cael eu defnyddio'n ddoeth.

Mae datganoli cyllidol o ran trethi, fel y dreth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi, yn golygu bod refeniw Llywodraeth Cymru yn mynd i gael ergyd enfawr gyda chwymp mewn refeniw. Nawr, gwn fod y cytundeb fframwaith cyllidol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi'i gynllunio i gefnogi Llywodraeth Cymru ar adegau anodd fel hyn, a hoffwn glywed ychydig gan y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru ynglŷn ag i ba raddau y bydd y fframwaith hwnnw’n cefnogi economi Cymru.

O ran ysgogi rhannau o'r economi, mae Llywodraeth y DU wedi cymryd camau i ysgogi’r farchnad dai—yn amlwg, rhan enfawr a phwysig o economi Cymru, fel gweddill y DU. Mae gwerthwyr tai yn edrych am gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, felly hoffwn weld argymhellion yn fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi'r diwydiant tai cyn gynted â phosibl.

Rwyf wedi derbyn llawer—i gloi, Lywydd—o ymholiadau gan etholwyr sy'n ddryslyd ynglŷn â'r cyfyngiadau symud a chanllawiau gwahanol rhwng Cymru a Lloegr. Fel y dywedais yn gynharach, credaf fod angen dull pedair gwlad arnom cyn belled ag sy'n bosibl, ond lle bydd gwahaniaethau'n bodoli, credaf fod angen inni weld ymgyrch i ddarparu mwy o eglurder i'r cyhoedd ynghylch yr hyn a ganiateir yma. Felly, tybed a allai fframwaith Llywodraeth Cymru roi llawer mwy o bwyslais ar egluro i'r cyhoedd lle rydym arni ar hyn o bryd a'r mesurau sy'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod pob un ohonom yn dod allan o argyfwng y pandemig hwn mor gyflym ac mor ddiogel â phosibl.