Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 20 Mai 2020.
Hoffwn siarad am ddau o’r gwelliannau, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian—gwelliant 4 mewn perthynas â chefnogi’r comisiynwyr heddlu a throseddu a’r prif gwnstabliaid a’u dymuniad am ddirwyon uwch am dorri’r rheoliadau iechyd, a gwelliant 9, sy'n sôn am yr angen am incwm sylfaenol cyffredinol wrth inni symud allan o'r cyfyngiadau symud.
Hoffwn ddechrau drwy ganmol y dull o weithredu y mae Llywodraeth Cymru wedi'i fabwysiadu. Yn sicr, credaf mai dull mwy gofalus a mwy synhwyrol yw'r hyn a glywaf sy'n iawn ym marn fy etholwyr ledled canolbarth a gorllewin Cymru. Dyma hefyd a glywaf gan fy ffrindiau a chan ffrindiau fy merch. Nid ydym yn credu ei bod yn ddiogel—fel gwlad, nid ydym yn credu ei bod hi'n ddiogel inni godi'r cyfyngiadau symud yn rhy gyflym. Ac er fy mod yn clywed yr hyn a ddywed Nick Ramsay am ddull pedair gwlad, a gwn mai dyma mae’r Prif Weinidog a'i gyd-Aelodau’n ceisio'i gyflawni, os yw Llywodraeth y DU, gan weithredu fel Llywodraeth Lloegr, yn gwneud pethau'n anghywir, mae’r Prif Weinidog yn amlwg yn gywir i anghytuno yn fy marn i.
Hoffwn sôn am y sefyllfa yng nghanolbarth a gorllewin Cymru mewn perthynas ag ofnau pobl ynglŷn â thwristiaeth yn ailgychwyn. Ac mae angen i mi ddweud wrth y Prif Weinidog fod fy etholwyr ledled canolbarth a gorllewin Cymru yn ofnus. Mae llawer ohonynt yn ddigon ffodus i fyw mewn rhannau o Gymru lle mae'r gyfradd R wedi aros yn isel iawn, ac rydym yn awyddus dros ben i'w chadw felly. Maent hefyd yn gwybod eu bod yn ffodus iawn i fyw yn rhai o'r cymunedau harddaf a'r lleoedd harddaf ar yr ynysoedd hyn, ac rwy'n falch o'u cynrychioli. Ond nid dyma'r amser i bobl fod yn dod yma.
Nawr, mae mwyafrif helaeth ein hymwelwyr rheolaidd â Chymru, ac ymwelwyr a ddaw i gefn gwlad Cymru o drefi Cymru hefyd—oherwydd nid mater o Gymru a Lloegr yw hwn, ond mater o gadw'r cymunedau gwledig yn ddiogel—yn bod yn barchus; maent yn cadw draw ac edrychwn ymlaen at eu croesawu yn ôl. Ond mae ein gwasanaeth heddlu yn dweud yn wirioneddol glir wrthym fod lleiafrif bach o bobl yn anwybyddu’r rheoliadau hynny. Credaf y byddai pob un ohonom yn cytuno, ac rwy'n siŵr y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi yn hyn o beth, mai dull y gwasanaeth heddlu o addysgu a hysbysu yw'r un cywir, ac roedd y mwyafrif helaeth o bobl, y penwythnos diwethaf, a oedd mewn penbleth oherwydd y newidiadau i’r rheoliadau yn Lloegr, nad oeddent yn berthnasol yng Nghymru o ran gallu gyrru i fynd am dro, er enghraifft, yn fwy na pharod i droi rownd a mynd yn ôl.
Ond dywed yr heddlu wrthym fod yna leiafrif bach o bobl nad ydynt i'w gweld yn malio dim. Mae swyddogion yr heddlu yng ngogledd fy rhanbarth yn dweud wrthyf eu bod wedi gweld pobl yn troseddu fwy nag unwaith—pobl sydd wedi gyrru dro ar ôl tro, nid ar un penwythnos yn unig, ond ar un penwythnos ar ôl y llall, yn ôl i'r ardal, gan nad yw'r dirwyon yn eu rhwystro—nid ydynt yn ataliad. Nawr, gwn fod Llywodraeth Cymru yn ymfalchïo, yn hollol briodol, yn y ffaith ei bod yn gwrando ar bobl ar y rheng flaen, a phan ydym mewn sefyllfa lle mae'r comisiynwyr heddlu a throseddu—y pedwar ohonynt—a'r prif gwnstabliaid—y pedwar ohonynt—yn dweud wrthym, wrth ymdrin â'r lleiafrif bach ystyfnig hwnnw, fod eu dwylo ynghlwm gan nad yw'r cosbau sydd ar gael yn ddigon difrifol i fod yn ataliad, rwy'n gofyn o ddifrif i'r Prif Weinidog esbonio i mi pam nad yw’n gwrando arnynt, ac yn bwysicach, esbonio i fy etholwyr ac i swyddogion yr heddlu sy'n gorfod gweithredu'r polisïau hyn, pam nad yw i'w weld yn gwrando arnynt. Rwyf wedi clywed yr hyn y mae wedi'i ddweud; nid wyf yn deall ei resymeg.
Ond fe drof at faes lle rwy'n gobeithio y gallwn gytuno, sef y syniad o symud yn yr oes ôl-COVID tuag at incwm sylfaenol cyffredinol. Nawr, mae hwn yn syniad rwyf wedi dadlau o’i blaid ers peth amser, ac mae wedi cael ei weld ar brydiau fel syniad rhamantus a fyddai’n braf ar ryw adeg yn y dyfodol, ond wrth gwrs, gwelsom Lywodraeth Sbaen yn cyflwyno hyn. Mewn ymateb i’r argyfwng, mae'n rhaid inni ganmol ymdrechion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cefnogi bywoliaeth pobl, ond fel rydym newydd glywed yn y datganiad gan Weinidog yr economi, mae hynny wedi rhoi darlun cymhleth iawn i ni. Mae'n gwneud pobl yn ddryslyd ynglŷn â'r hyn y maent yn gymwys i'w gael a'r hyn nad ydynt yn gymwys i'w gael, ac mae wedi gadael rhai pobl heb gymorth, a hynny'n anfwriadol, rwy'n credu, a heb fod unrhyw fai ar ran y Llywodraeth.
Rydym yn sôn yn aml am ailadeiladu'n well, am fyw ein bywydau mewn ffordd wahanol, am ddysgu rhai pethau cadarnhaol, efallai, am yr hyn y mae pob un ohonom wedi gorfod byw drwyddo yn yr argyfwng hwn. Ac rydym ni, ym Mhlaid Cymru, yn credu mai nawr yw'r amser—ac rydym yn derbyn, gyda'r setliad cyllidol fel y mae, y byddai'n rhaid iddo fod ar lefel y DU, ond byddem yn dyheu yn y tymor hwy i Gymru allu gwneud hyn ein hunain—nawr yw'r amser i'n gwlad ddarparu incwm sylfaenol i bob dinesydd fel eu bod yn gwybod eu bod yn ddiogel.
Nawr, lle mae hyn wedi'i gyflwyno, nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl ei fod wedi atal pobl rhag bod eisiau gweithio, a lle mae wedi'i dreialu, mae wedi cael effaith i’r gwrthwyneb. Mae wedi galluogi pobl i weithio mewn gwahanol ffyrdd. Mae wedi eu galluogi i fentro—mentro’n entrepreneuraidd—mewn ffordd y byddent yn ofni ei wneud fel arall. Mae wedi eu galluogi, er enghraifft, i weithio yn y sector creadigol, lle mae eu cyfraniad yn enfawr ond lle mae'r cyflog yn isel. Mae wedi galluogi pobl i ddarparu gwell cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd teuluol, ac mae wedi galluogi pobl i ysgwyddo cyfrifoldebau dinesig fel gwneud gwaith cyhoeddus di-dâl fel cynghorydd cymunedol, er enghraifft.
Mae gwir angen inni feddwl yn wahanol bellach, a chredaf y byddai'r mwyafrif ohonom, er nad pob un ohonom yn y Siambr hon efallai, yn cydnabod bod y system fudd-daliadau bresennol yn annheg, yn ymrannol. Mae hefyd yn ddrud iawn i'w gweithredu, yn ddrud iawn i’w phlismona. Rwyf wedi colli cyfrif ar nifer y bobl nad ydynt erioed wedi dod ar draws y system fudd-daliadau ond sydd bellach yn gorfod gwneud hynny yn ystod yr wythnosau diwethaf ac sydd wedi dweud wrthyf, ‘Ni allaf fyw ar hyn', pan fyddant yn sôn am lefel y credyd cynhwysol. Ac eto, y gwir amdani, fel y gŵyr y Prif Weinidog, yw nad oes dewis gan lawer o'n dinasyddion ond gwneud hynny.
Yn y ddealltwriaeth well hon, lle mae mwy o bobl na fyddent erioed wedi disgwyl wynebu caledi economaidd yn ei chael hi’n anodd, lle mae pob un ohonom, yn gwbl briodol, yn canmol llawer o staff ar gyflogau isel iawn a allai hefyd gael eu cynorthwyo gan incwm sylfaenol cyffredinol, megis gofalwyr, rwy'n gobeithio efallai mai un o'r pethau da a ddeillia o'r amser tywyll hwn yw ymdeimlad cryfach o undod cymdeithasol a chyfle inni fyw ein bywydau mewn ffordd wahanol. Incwm cyffredinol i ddinasyddion ac sydd ar gael i bob un ohonom, a fyddai’n cael ei ad-dalu drwy'r system dreth gan y rheini ohonom nad oes arnom ei angen, fyddai'r arwydd gorau a chliriaf o'r undod cymdeithasol newydd hwnnw, a byddai'n rhoi pawb ar sylfaen gadarn i'w galluogi i fod yn rhan o'r broses o ailadeiladu'n well. Diolch yn fawr.