Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 20 Mai 2020.
Mae’r ddadl hon yn achosi penbleth athronyddol—sut y gallwn ddatgloi drws heb yr allwedd? Does bosibl nad yr allwedd i ddatgloi ein cymdeithas a chefnu ar y cyfyngiadau symud yw cael system olrhain cysylltiadau ar waith, sicrhau bod gennym stociau digonol o gyfarpar diogelu personol a chael y mesurau dibynadwy gorau i gefnogi a rhoi hyder i'r cyhoedd. Yn anffodus, mewn gormod o ffyrdd, mae’r allwedd yn dal ar goll yma, ac mae'r drws ar gau'n sownd.
Rwy'n croesawu papur Llywodraeth Cymru, ond credaf fod angen i’r Llywodraeth wneud mwy i gydnabod yr anghyfiawnderau cymdeithasol a amlygwyd gan y cyfyngiadau symud. Nid yw'r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yr un fath i bawb. I bobl sy'n gallu gweithio gartref a chanddynt erddi, mae'r amser hwn wedi bod yn drafferthus, ond roedd modd ymdopi. Ond i bobl sy'n methu gweithio gartref, mae’r cyfyngiadau symud wedi golygu eu bod yn agored i beryglon heb amddiffyniadau digonol. I bobl hŷn sy'n byw ar eu pen eu hunain, maent wedi golygu unigrwydd llym, ac i deuluoedd ifanc sy'n byw mewn fflatiau heb ofod allanol, mae'r cyfyngiadau wedi golygu dringo'r waliau ddydd ar ôl dydd. Mae angen i unrhyw lwybr allan o’r cyfyngiadau symud flaenoriaethu cymorth i’r bobl sydd wedi’i chael hi anoddaf yn ystod yr argyfwng hwn. Rhaid inni ddangos tosturi a rhoi cymorth pendant i'r bobl sydd ei angen, ac ar yr un pryd, mae angen inni fod yn llym â’r lleiafrif hunanol sy'n anwybyddu'r rheolau’n fwriadol—y bobl sy'n mynnu gyrru i Ben y Fan a Sir Benfro. Er mwyn i unrhyw reol weithio, mae'n rhaid cael ataliad, ac mae'n rhaid i'r Prif Weinidog ddangos arweiniad yma a chynyddu'r dirwyon.
Er mwyn ein rhoi ar y trywydd iawn, mae angen cydweithrediad Llywodraeth y DU i egluro pryd y mae rheolau’n berthnasol i Loegr yn unig. Mae angen dull o ddileu'r feirws, fel yn Seland Newydd, yn hytrach na chynnal lefelau trosglwyddo peryglus, ac mae angen hyblygrwydd arnom fel y gall ardaloedd ailgyflwyno cyfyngiadau symud os gwelir cynnydd yn nifer yr achosion. Ni all coch droi'n ambr heb gael gwared ar y perygl o ddamwain car yn gyntaf.
Lywydd, mae’n rhaid i ni fynd i'r afael hefyd â'r niwed cudd sydd wedi'i waethygu gan yr argyfwng hwn—pobl mewn perthynas gamdriniol, pobl â dyledion cynyddol, hyd yn oed y rheini â chyflyrau meddygol heblaw am COVID sydd wedi gwaethygu yn ystod yr argyfwng. Mae’n rhaid i'n llwybr allan o’r cyfyngiadau symud roi blaenoriaeth iddynt hwy mewn unrhyw ystyriaethau—y niwed a'r trallod anuniongyrchol a wynebir mewn cartrefi ym mhob stryd ledled Cymru.
Rydym wedi dysgu llawer am COVID-19 yn ystod yr wythnosau diwethaf. Un o'r pethau mwyaf syfrdanol yw ei fod yn cael ei waethygu gan dlodi. Mae’n rhaid i’n llwybr allan o’r cyfyngiadau symud fynd i'r afael â'r tlodi hwn a pheidio â'i anwybyddu, neu fel arall byddai cystal â dweud bod rhai bywydau yn fwy dibwys nag eraill. Mae'n rhaid inni flaenoriaethu llesiant. Gallai ailagor gweithleoedd heb lacio cyfyngiadau ar rai elfennau o fywyd cymdeithasol ar yr un pryd edrych fel blaenoriaethu'r economi dros lesiant pobl, a gallai rhuthro i ailagor ysgolion heb hwyluso gallu plant i weld eu neiniau a'u teidiau edrych fel blaenoriaethu tablau cynghrair dros hawl i fywyd teuluol. Gyda chydsyniad y bobl yn unig y gall cyfyngiadau symud weithio. Er mwyn eu llacio, mae angen yr allwedd a geir wrth dracio ac olrhain, a chynllun sy'n rhoi llesiant yn gyntaf.
Felly, i gloi, Lywydd, byddwn yn dweud bod y Gweinidog iechyd wedi cyfaddef ddoe y bydd angen cynnal ymchwiliad i'r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi rheoli rhai elfennau o'r argyfwng hwn. Rwy'n gobeithio y bydd cwmpas yr ymchwiliad hwnnw’n ehangach nag edrych ar gyfarpar diogelu personol a phrofi yn unig. Dylai ystyried y diffygion strwythurol mewn cymdeithas sy'n ganlyniad i benderfyniadau polisi hirdymor ac sydd wedi arwain at bobl ar ben anghywir y sbectrwm anghydraddoldeb yn talu pris anghymesur, gyda'u bywydau yn aml, am dlodi nad yw’n fai arnynt hwy.