Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 20 Mai 2020.
Diolch, Lywydd. Wel, mae'r Prif Weinidog, fel holl Lywodraethau'r Deyrnas Unedig, yn dweud y bydd ei bolisi'n seiliedig ar y wyddoniaeth, ond beth y mae 'gwyddoniaeth' yn ei olygu yn y cyd-destun hwn? Nid gwyddoniaeth feddygol. Rydym yn sôn am fodelu ystadegol, ac nid oes unrhyw un yn meddwl bod econometryddion a modelwyr economaidd yn wyddonwyr, felly pam y dylem feddwl bod gan fodelwyr ystadegol fwy o hygrededd ym maes meddyginiaeth? Wedi'r cyfan, mae strategaeth Llywodraeth y DU wedi'i seilio ar astudiaeth yr Athro Neil Ferguson o'r Coleg Imperial, dyn sy’n enwog am golli ei swydd am ei fod wedi arfer un o'r ffurfiau mwy eithafol ar agosrwydd cymdeithasol yn hytrach na chadw pellter cymdeithasol. Mae ei hanes blaenorol yn wael iawn mewn gwirionedd. Ef oedd yr un a ddywedodd y byddai Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol yn arwain at golli 150,000 o bobl a fyddai'n marw ar ôl ei ddal. Y nifer a gollwyd mewn gwirionedd oedd 200. Nid oes neb yn gwybod beth sy’n sail i waith modelu'r Athro Ferguson; nid yw wedi'i adolygu gan gymheiriaid. Felly, byddwn yn sicr yn argymell pwyll wrth drin hynny fel gwyddoniaeth.
Un arall yw'r Ganolfan ar gyfer Meddygaeth ar Sail Tystiolaeth ym Mhrifysgol Rhydychen, sydd wedi dweud, y tu hwnt i ddamcaniaethau cylchol am ffliw, nad ydym yn gwybod fawr ddim ynglŷn ag a yw clefydau pandemig yn dilyn patrymau penodol o gwbl a’i bod yn annoeth gwneud datganiadau pendant am ail donnau.
Wrth gwrs, nid yw gwledydd sydd wedi dechrau llacio'r cyfyngiadau symud, megis yr Almaen, wedi gweld ail don o’r fath, a hyd yn oed yn fwy diddorol—roeddwn yn falch fod Huw Irranca-Davies wedi crybwyll Sweden yn ei gyfraniad—nid yw Sweden wedi cael unrhyw gyfyngiadau symud wedi’u gorfodi gan y gyfraith o gwbl, a beth yw profiad Sweden? Mae’r gyfradd heintio yn Sweden yn 3,000 o achosion y filiwn. Yn y DU, mae'n 3,700 o achosion y filiwn. Mae ein cyfradd heintio ym Mhrydain, er gwaethaf ein cyfyngiadau llwyr ar symud a'r pris economaidd y bu'n rhaid inni ei dalu, yn fwy nag yn Sweden. O edrych ar gyfradd y marwolaethau hefyd, mae'n uwch yn y Deyrnas Unedig na'r hyn ydyw yn Sweden. Mae marwolaethau y filiwn yn Sweden yn 371, yn y Deyrnas Unedig, mae’n 521, bron i 50 y cant yn uwch nag yn Sweden. Mae'r heintiau yn y Deyrnas Unedig oddeutu 0.4 y cant o gyfanswm y boblogaeth. Yn Sweden, maent yn 0.3 y cant.
Felly, nid oes unrhyw dystiolaeth fod y cyfyngiadau symud wedi gwneud cymaint o wahaniaeth ag yr honnir. Wrth gwrs, mae'n anodd gwneud cymariaethau rhyngwladol gan fod y ffordd y caiff ystadegau eu casglu’n wahanol, ac mae nodweddion cymdeithasol a seicolegol gwahanol wledydd yn wahanol hefyd. Ond pan ystyriwch y costau economaidd a chymdeithasol enfawr rydym yn eu hysgwyddo yn sgil ymateb y Llywodraeth, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y Deyrnas Unedig, rwy'n credu o ddifrif y dylem gael gwell synnwyr o gymesuredd. Gofynnodd Mandy Jones gwestiynau pwysig iawn yn fy marn i, ac Adam Price hefyd yn ei araith yn gynharach. Beth y gobeithiwn ei gyflawni drwy hyn? Credaf fod Mandy Jones wedi gofyn cwestiwn perthnasol iawn: a ydym yn ceisio lefelu’r gromlin neu a ydym yn ceisio atal yr haint rhag lledaenu? Os mai'r ail opsiwn yw’r dewis, bydd y cyfyngiadau symud yn parhau am amser maith yn wir.
Rhagwelir y bydd economi Sweden yn lleihau oddeutu 2 y cant o ganlyniad i'w hymateb i'r argyfwng. Yn y Deyrnas Unedig, bydd y ffigur rywle rhwng 15 a 30 y cant—gostyngiad sydd cymaint ag unrhyw beth a ddioddefwyd gennym yn y 1930au yn ystod y dirwasgiad mawr, ac mae hynny'n mynd i gael effaith ar wasanaethau cyhoeddus, a'r gwasanaeth iechyd gwladol yn anad dim. Felly mae gwir angen inni wneud popeth yn ein gallu i ysgogi’r economi. Yn Sweden, yr hyn y maent wedi'i ddweud yw y dylai pobl fod yn gyfrifol yn gymdeithasol, ac mae traean o bobl wedi osgoi mynd i'w gweithle, ac mae trosiant dyddiol bwytai wedi gostwng 70 y cant. Ond mae’r Swediaid yn cadw at y canllawiau o'u gwirfodd yn hytrach na chael eu gorfodi i wneud hynny. A beth yw canlyniad hyn oll yn Sweden? Mae llai o welyau unedau gofal dwys mewn defnydd erbyn hyn, ac mae nifer y cleifion mewn gofal dwys yn Stockholm wedi gostwng 40 y cant. Gostyngodd nifer dyddiol y marwolaethau i lefel isel iawn yn ail hanner mis Ebrill ac mae wedi bod yn gostwng ers hynny. Mae’r rhif R enwog yn 0.85 yn Sweden, ac mae rywle rhwng 0.7 ac 1 yn y Deyrnas Unedig. Felly mae ein profiad cyffredinol yn debyg iawn. Ond mae'r pris economaidd y byddwn yn ei dalu yn y wlad hon yn llawer mwy na'r hyn y byddant yn ei dalu yn Sweden.
Wrth gwrs, mae’n rhaid inni ymddwyn mewn ffordd synhwyrol. Ar gyfer y rhannau o’r boblogaeth sy’n agored i niwed—yr henoed, y rheini sydd â chyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes—dylid ynysu, ac mae cadw pellter cymdeithasol yn synhwyrol i bawb o dan yr amgylchiadau hyn. Ein problem ni yw bod ein polisi wedi bod yn rhy ychydig ac yn rhy hwyr o ran y pethau y dylid bod wedi'u gwneud, ac rydym bellach yn cadw'n rhy hir y pethau nad ydynt o unrhyw fudd real mewn gwirionedd. Felly, byddwn yn cynghori'r Prif Weinidog, heb fod yn rhy benodol ynglŷn â sut y bydd y system oleuadau traffig yn cael ei gweithredu’n ymarferol, y dylai bechu ar yr ochr feiddgar, fel y dywedais wrtho’r wythnos diwethaf, yn hytrach na bod yn wangalon. Oherwydd nid oes unrhyw dystiolaeth y bydd y risgiau iechyd a wynebir yn ddim byd tebyg i'r risgiau economaidd a risgiau eraill a fydd yn deillio o hynny, gan arwain at effaith barhaus yn y dyfodol ac at farwolaethau eraill hefyd o bethau eraill, fel y nododd Mandy Jones.