Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 20 Mai 2020.
Yn gyntaf, a gaf fi gofnodi fy nghydymdeimlad llwyr ynghylch pawb sydd wedi colli eu bywydau o ganlyniad i COVID-19? Ni allaf ddychmygu beth y mae llawer o deuluoedd a ffrindiau'r unigolion hynny’n ei wynebu ar hyn o bryd, ond mae gennym ddyletswydd tuag atynt, a chredaf fod gennym ddyletswydd tuag at y gweithwyr allweddol sy'n gofalu amdanynt a'r bobl eraill sy'n cadw ein heconomi a’n gwlad yn weithredol ar hyn o bryd, i sicrhau ein bod yn gallu codi'r cyfyngiadau hyn, y cyfyngiadau sylweddol hyn ar eu bywydau, mewn ffordd sy'n ddiogel ac na fydd yn peryglu bywydau pobl yn ddiangen. A chredaf ei bod yn bwysig hefyd ein bod yn sicrhau’r cydbwysedd iawn rhwng, ie, achub bywydau unigolion, ond achub bywoliaeth pobl hefyd. Ac a dweud y gwir, mae lefelau'r cymorth a gafwyd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gefnogi bywoliaeth pobl yn ogystal â'u bywydau yn ystod y pandemig hyd yn hyn wedi creu cryn argraff arnaf.
Rwyf wedi bod yn pryderu am y gwahaniaeth yn ymagwedd y pedair gwlad mewn perthynas â'r cyfyngiadau symud. Gwyddom fod gan y pedair gwlad fynediad at yr un dystiolaeth wyddonol, felly, yn ddealladwy, mae aelodau'r cyhoedd yn cysylltu â'u Haelodau o’r Senedd i ofyn pam fod dull gwahanol ar waith yng Nghymru, ac weithiau mae'n anodd iawn esbonio pam fod dull gwahanol ar waith, o ystyried bod y dystiolaeth wyddonol yr un fath. I bob pwrpas, mae’n ganlyniad i rai o'r penderfyniadau gwleidyddol a wneir gan Weinidogion yn unol â'u crebwyll eu hunain. Ac wrth gwrs, mae gan bob un ohonom hawl i ddefnyddio ein crebwyll ein hunain gyda’r pethau hyn ar ôl ystyried y dystiolaeth, ond yn fy marn i, po bellaf y byddwn yn gwneud pethau'n wahanol i ddull DU gyfan ar draws y pedair gwlad, yr anoddaf y bydd hi—fel y dywedodd Nick Ramsay, yn gwbl gywir—i gyfleu'r gwahaniaethau hynny i'r cyhoedd a disgwyl i bobl gadw atynt.
Mae pobl yn genfigennus weithiau o'r rhyddid y mae pobl yn ei fwynhau mewn rhannau eraill o'r DU ar hyn o bryd, a'r gallu i deithio i gyfarfod ag aelodau o'r teulu mewn ffordd na allant ei wneud yng Nghymru eto. Credaf fod yn rhaid inni feddwl yn ofalus ynglŷn â sut y gallwn godi rhai o'r cyfyngiadau hyn yn ddiogel mewn ffordd sy'n gydnaws â'r dystiolaeth wyddonol, sy'n dal i ddiogelu bywydau pobl, ond sydd hefyd yn helpu teuluoedd i ddod yn ôl at ei gilydd, yn helpu anwyliaid i weld ei gilydd, yn helpu’r gymdeithas i ddechrau ailagor, ac wrth gwrs, lle bo hynny'n bosibl, i gael yr economi'n weithredol eto. Oherwydd wrth gwrs, po hiraf y bydd gennym lefelau uwch o gyfyngiadau, yn enwedig ar ein heconomi yma yng Nghymru, y lleiaf cystadleuol y byddwn gyda rhannau eraill o'r wlad sydd efallai'n llacio rhai o'r cyfyngiadau hynny.
Rydym eisoes wedi clywed am yr effaith bosibl ar y farchnad eiddo ar hyn o bryd, ond ystyriwch y diwydiant twristiaeth hefyd, sy’n rhywbeth y cyfeiriodd Helen Mary Jones ato. Pan edrychwch ar ein diwydiant twristiaeth, mae'n hynod bwysig mewn sawl rhan o'r wlad—gan gynnwys yn fy etholaeth fy hun—ond os na fyddwn yn codi cyfyngiadau ar y diwydiant twristiaeth ar yr un pryd ag y caiff y cyfyngiadau eu codi yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, mae perygl y bydd y bobl a fyddai wedi dewis dod i Gymru ar eu gwyliau yn penderfynu mynd i rywle arall, a gallai diffyg cae chwarae gwastad yn hynny o beth beri inni gael llai o fantais gystadleuol a rhoi mantais i ddiwydiannau yng ngwledydd eraill yn y DU. Nid wyf am weld hynny, er lles parciau carafanau gwyliau, gwestai a'r atyniadau twristaidd pwysig yma yng ngogledd Cymru ac o gwmpas fy etholaeth. Rwyf am sicrhau eu bod yn cael eu codi ar yr un pryd, lle bo modd, er mwyn iddynt barhau i allu gweithredu'n llwyddiannus.
Credaf fod pwynt Paul Davies ynghylch amserlenni’n hynod bwysig. Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd Huw Irranca-Davies, ond nid yw'n wir dweud bod pobl yn bod yn fyrbwyll, os mynnwch, gyda bywydau pobl. Fel y dywedaf, mae pobl yn ystyried yr un dystiolaeth wyddonol, ac os gallwch bennu dyddiad petrus—a dyna'r cyfan y mae Llywodraeth y DU wedi'i wneud, rhoi dyddiadau petrus yn y dyddiadur i ddweud, ‘Rydym yn gobeithio gallu gwneud y pethau hyn erbyn y dyddiadau hyn os yw'r wyddoniaeth yn dweud ei bod yn ddiogel inni wneud hynny, os yw’r gyfradd heintio, y gyfradd R, a'r gyfradd drosglwyddo wedi gostwng i lefel benodol.' Nid oes gennym unrhyw un o'r dangosyddion hynny yn y ddogfen a roddodd Llywodraeth Cymru i ni. Nid yw’n cynnwys unrhyw beth o gwbl ynglŷn â’r amodau y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn symud o goch i ambr a gwyrdd yn ôl diwydiant, neu yn ôl sector yn hytrach, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y mae pobl yn ysu amdano, os ydynt am weld sut y gallwn wthio ein ffordd yn raddol allan o'r pandemig penodol hwn. Felly, rwyf am eich annog, Brif Weinidog, i ystyried o ddifrif a oes modd rhoi rhai o'r amodau hynny yn y ddogfen mewn ffordd sy'n hawdd i bobl weld a ellir bodloni'r profion er mwyn gwneud cynnydd ar godi'r cyfyngiadau symud. Diolch yn fawr iawn.