Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 20 Mai 2020.
Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon heddiw, a gallaf gadarnhau y bydd fy ngrŵp yn cefnogi’r cynnig fel y saif.
Nid oes dadl i'w gwneud ynglŷn â blaenoriaethu iechyd y cyhoedd mewn unrhyw gynllun i ddychwelyd at rywfaint o normalrwydd, nid oes unrhyw ddadl ynghylch cydnabod ymdrechion y cyhoedd i gadw at y rheolau, a phob cefnogaeth i'r diolch a fynegir i’r holl weithwyr allweddol sydd wedi cynnal y wlad.
Gallwn hefyd nodi cyhoeddiad y ddogfen sy'n destun i’r ddadl hon. Roedd yn teimlo fel pe bai wedi ei llusgo allan o Lywodraeth Cymru ar ôl llawer o ganfasio gan y grŵp Ceidwadol yn y Senedd. Er y gallwn nodi'r ddogfen hon, dyna’r cyfan y gallwn ei wneud, gan nad yw'n dweud llawer wrthym o gwbl. Mae’n rhaid i ni, yma yn y Senedd, gydnabod hefyd na fydd y rhan fwyaf o’r cyhoedd yng Nghymru wedi darllen pob gair ohoni. Rwyf fi wedi gwneud hynny, ac mae'n codi mwy o gwestiynau nag y mae'n eu hateb. Ni fydd amser yn caniatáu i mi fynd drwy bob un, felly rwyf am gyfyngu fy hun i dri, ac mae'r rhain yn unol â'r materion a godwyd gan fy etholwyr.
Yn nyddiau cynnar yr argyfwng, bu sôn am fesurau i lefelu’r gromlin, a oedd yn awgrymu mai'r amcan oedd arafu niferoedd y rheini sy'n dal y feirws, a galluogi'r GIG i ymdopi drwy wneud hynny. Felly, nid diben gwreiddiol y cyfyngiadau symud oedd lleihau cyfanswm yr achosion, dim ond sicrhau bod y nifer, ar unrhyw adeg benodol, yn llai na chapasiti ein hunedau gofal dwys. A’r slogan oedd, a’r slogan o hyd yng Nghymru, yw 'Aros gartref. Diogelu’r GIG. Achub bywydau.' Yn y ddogfen hon, rydych yn nodi na allwn symud o'r camau gwyrdd ac yn ôl i ryw fath o normalrwydd—fy ngair i—tan y bydd brechlyn neu driniaeth effeithiol ar waith. A gaf fi ofyn i chi pryd yn union y newidiodd y nod o lefelu’r gromlin i ddod o hyd i frechlyn?
Ac er nad wyf am ddiystyru'r bwriadau da yma, hoffwn dynnu sylw hefyd at y ffaith nad ydym wedi dod o hyd i driniaeth i wella ffliw'r gaeaf, annwyd neu ganser, ac mae pob un o'r rheini’n lladd. Mae angen inni weld rhyw fath o gydbwysedd rhwng y bywydau sydd mewn perygl yn sgil COVID a'r bywydau sydd mewn perygl yn sgil y cyfyngiadau symud hefyd. Mae’n aruthrol o anodd, ond mae’n aruthrol o bwysig; nid wyf yn esgus bod opsiwn hawdd i’w gael.
Yn y ddogfen, rydych yn sôn fwy nag unwaith am ddull pedair gwlad, ac eto, mae eich Llywodraeth wedi gwyro bellach oddi wrth ddull Llywodraeth y DU o weithredu, ac mae Cymru’n wynebu mesurau llymach na’r rheini sy'n byw yn Lloegr. Rydych yn sôn am gyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru, Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau a'ch grŵp cynghori technegol. O ystyried y berthynas waith agos rhwng y grwpiau a'r pedair gwlad, beth oedd y gwahaniaeth yn y cyngor a arweiniodd at wahanol benderfyniadau gan y pedair gwlad?
Trof yn awr at iechyd y cyhoedd. Gall pob un ohonom gytuno y dylai hyn fod yn elfen hollbwysig o'r ystyriaethau ar gyfer llacio’r cyfyngiadau. Rwy'n gweld llawer o gyfathrebu gan fyrddau iechyd, yn annog pobl i weld meddygon teulu yn ystod y cyfnod hwn gan fod nifer yr ymweliadau’n is, mae gweithgarwch adrannau damweiniau ac achosion brys yn sylweddol is, ac mae llawdriniaethau dewisol wedi’u canslo neu eu gohirio. Yn fwyaf gofidus, mae atgyfeiriadau canser wedi gostwng, a gŵyr pob un ohonom pa mor bwysig yw canfod a thrin achosion o ganser yn gynnar. Ac mae'r doll ar iechyd meddwl y genedl yn peri cryn bryder, gyda gorbryder ac iselder ar gynnydd.
Mae'r achos iechyd dros ddechrau llacio’r cyfyngiadau symud yn cryfhau bob dydd, felly, wrth fynd i’r afael â COVID-19, hoffwn ofyn hefyd am sicrwydd gennych nad ydym yn pentyrru problemau iechyd cyhoeddus eraill, fel cynnydd mewn marwolaethau canser o ganlyniad i ddiagnosis hwyr, anhwylderau cymharol fach yn troi'n afiechydon sy'n peryglu bywydau oherwydd diffyg triniaeth, ac y bydd iechyd meddwl y genedl yn parhau i gael y gofal y mae'n ei haeddu. Gwyddom am y niwed economaidd enfawr y mae’r cyfyngiadau symud yn ei achosi, ond mae hefyd yn achosi niwed enfawr i iechyd, ac er fy mod yn cymeradwyo'r gwasanaeth iechyd am ymdopi â phopeth sydd wedi'i daflu ato, rwy'n ofni ein bod yn pentyrru llawer o broblemau eraill sy'n gysylltiedig ag iechyd tan yn nes ymlaen.
Ar ôl naw wythnos a mwy, mae'r cyhoedd wedi blino. Mae'n rhaid inni weld rhyw fath o olau ar ben draw'r twnnel ac o dwnnel y cyfyngiadau symud yma yng Nghymru. Diolch yn fawr iawn.