Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 20 Mai 2020.
Roeddwn yn cytuno'n gryf, fodd bynnag, â'r hyn a ddywedodd Adam Price am y gyd-ganolfan bioddiogelwch a'i gallu i edrych am gamau gweithredu ar lefel leol. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd am y potensial ar gyfer hynny a byddwn am wneud y gorau o'n gallu i fanteisio ar y potensial hwnnw.
Gwrandewais yn astud ar yr hyn a ddywedodd Nick Ramsay. Gofynnodd imi wario arian ar awdurdodau lleol, ar brifysgolion, ar y gronfa cymorth dewisol, ar dwristiaeth a nifer o amcanion cwbl haeddiannol eraill. Gofynnodd i mi am eglurder ariannol. Gadewch i mi ddweud: nid rhagor o eglurder sydd ei angen arnom, ond rhagor o arian. Ac er mwyn gallu rhoi sylw i'r galwadau niferus i ateb yr amgylchiadau a wynebwn yng Nghymru, bydd arnom angen Llywodraeth y DU sy'n gallu gweithredu, nid drwy ailgyflwyno cyni, ond drwy chwistrellu galw i mewn i'r economi, drwy gynnig yr ysgogiad inni—yr ysgogiad ariannol—y bydd ei angen arnom er mwyn rhoi sylw i'r llu o bethau y cyfeiriodd Nick Ramsay atynt.
Hoffwn orffen drwy ddwyn ynghyd un neu ddau o gyfraniadau gan Lynne Neagle a Joyce Watson. Gadewch i mi ddweud cymaint roeddwn yn cytuno â thair o'r egwyddorion allweddol a nodwyd gan Lynne Neagle. Cydraddoldeb: mae'n ofnadwy mai cyfoeth yw'r darian orau yn erbyn y feirws hwn. Roeddwn yn meddwl bod Joyce Watson wedi gwneud cyfraniad eithriadol i'r ddadl y prynhawn yma drwy dynnu sylw at y ffyrdd ymarferol y mae bywydau pobl, sy'n ddigon anodd yn y lle cyntaf, yn cael eu gwneud yn anos byth bellach ers ymddangosiad y clefyd. Ac mae'r Llywodraeth hon wedi rhoi cydraddoldeb ar flaen y lens y byddwn yn ei defnyddio wrth inni gynllunio llwybr allan o'r coronafeirws gyda'n gilydd.
A phan ddywedaf 'gyda'n gilydd', rwy'n tynnu sylw at yr ail o'r egwyddorion a amlinellodd Lynne, sef partneriaeth. Ac mae cryfder llywodraeth leol wedi dod yn amlwg yn yr argyfwng hwn. Ac rwy'n talu teyrnged i arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen—y gymuned y mae Lynne yn ei chynrychioli yn y Cynulliad—am bopeth y mae wedi'i wneud gydag arweinwyr eraill i droi pŵer llywodraeth leol a'u presenoldeb ar lawr gwlad mewn cymunedau ledled Cymru er budd y poblogaethau lleol hynny ac yn enwedig i'r rheini sydd wedi bod fwyaf o angen cymorth.
Ac yn olaf, a gaf fi rannu yn yr hyn a ddywedodd Lynne am agweddau cadarnhaol y profiad a gweld rhywfaint o obaith ym mhob dim rydym wedi mynd drwyddo? Neithiwr, Lywydd, cymerais ran mewn Iftar rhithwir a ddaeth â phobl ynghyd o bob ffydd wahanol ym mhob rhan o Gymru mewn seremoni deimladwy iawn, ac roedd fy nghyd-Aelod, Jane Hutt, ac eraill yn bresennol. Yn y digwyddiad hwnnw, rhoddwyd cyfle i lais rhywun a ddisgrifiwyd fel aelod cyffredin o'r gymuned yn y ganolfan yma yng Nghaerdydd siarad â ni ynglŷn â sut beth oedd byw mewn ardal ddinesig drwchus ei phoblogaeth mewn tŷ bychan gyda thri mab yn eu harddegau a gŵr, oll yn ceisio byw o dan yr un to, ac roedd hi'n gwbl ysbrydoledig yn y ffordd y canolbwyntiai ar y pethau cadarnhaol y mae'r teulu hwnnw a'r gymuned honno wedi'u cael o'r profiad hwn.
A dyna lle caf hyd i'r gobaith—dyna lle caf hyd i'r gobaith—yn y profiadau y mae dinasyddion Cymru wedi'u cael, y ffordd y maent wedi dod o hyd i ffyrdd o ddod yn agosach at ei gilydd o fewn y cartref a chyda'r rhai sy'n byw o'u cwmpas, a'r penderfyniad a fynegwyd yno i adeiladu ar y ffordd bwyllog ac ystyriol y mae'r Llywodraeth hon yn benderfynol o ddod o hyd i ffordd allan o'r coronafeirws, ffyrdd o fod yn ddiwyd, o fod yn fanwl yn y modd y gwnawn benderfyniadau yma yng Nghymru, a thynnu ar y cryfder hwnnw, y cryfder allweddol hwnnw, sy'n rhoi undod inni—yr undod o wybod ein bod yn rhannu'r profiadau hynny, ein bod yn canfod pethau cadarnhaol ynddynt a chyda'n gilydd, rydym yn gweithredu i ganfod ffordd y tu hwnt i'r coronafeirws sy'n rhoi sylw i'r rhai sydd â'r anghenion mwyaf, sydd wedi cyfrannu fwyaf ac y dylid seilio'r dyfodol ar eu anghenion.