Part of the debate – Senedd Cymru am 5:15 pm ar 20 Mai 2020.
Roeddwn yn meddwl bod Helen Mary Jones wedi rhoi cyfrif mor rhesymol ag a glywais am yr angen i ymateb i'r bobl sy'n ymroi yn ystyfnig ac yn barhaus i wrthod ufuddhau i'r rheoliadau. Nid oedd hi'n deg pan ddywedodd nad oedd y Llywodraeth wedi bod yn gwrando; rydym wedi bod mewn sgwrs barhaus â'n prif gwnstabliaid a chyda'n comisiynwyr heddlu a throseddu, ac wedi i'r offerynnau cyfreithiol angenrheidiol gael eu rhoi ar waith, byddaf yn gallu darparu manylion am ein bwriadau a sut y mae ein hargymhellion yn caniatáu inni bleidleisio o blaid y gwelliant hwn.
Lywydd, fel y dywedais yn gynharach, mae system brofi, olrhain a diogelu yn cael ei sefydlu. Cyn codi'r cyfyngiadau mewn modd sylweddol, rhaid bod y system honno ar waith, ac rwy'n falch o gadarnhau hynny eto wrth bleidleisio o blaid gwelliant 5.
Bydd y Llywodraeth hefyd yn cefnogi gwelliant 9 ar y papur trefn. Mae angen i mi fod yn glir, lle mae'r gwelliant yn dweud, 'i gyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol', mai cefnogi'r gwaith rhagarweiniol y byddai ei angen i sefydlu incwm sylfaenol ar gyfer y Deyrnas Unedig y mae'n ei olygu. Rwy'n amau na fyddai cefnogwyr cryfaf y system honno hyd yn oed yn honni ei bod yn barod ar y silff i'w chyflwyno'n llawn. Fodd bynnag, Lywydd, mae sawl agwedd ar incwm sylfaenol cyffredinol eisoes ar waith—pensiwn y wladwriaeth i bobl hŷn a budd-dal plant i enwi'r rhai mwyaf amlwg. Wrth inni ddod allan o'r argyfwng economaidd y mae coronafeirws wedi ei greu, galw effeithiol fydd yr hyn y bydd ein heconomi ei angen. A'r ffordd orau o greu galw effeithiol yw gwneud yn siŵr fod arian yn nwylo ein cyd-ddinasyddion i allu prynu nwyddau a gwasanaethau. Pa un a ydym yn ei alw'n incwm sylfaenol cyffredinol, yn incwm dinasyddion, yn ddifidend cymdeithasol, maent i gyd wedi'u gwreiddio mewn ymdeimlad o undod cymdeithasol. Ac fel y dywedodd llawer o siaradwyr eraill, does bosibl nad yw'r holl brofiad hwn yn ein dysgu mai undod cymdeithasol yw'r adnodd mwyaf gwerthfawr sydd gennym fel cymuned.
Lywydd, yr un gwelliant na allwn ei gefnogi yw gwelliant 3. Mae'n or-benodol mewn rhai agweddau, ac nid oes modd ei weithredu mewn ffyrdd eraill. Mae gennym gynllun ariannol priodol; rydym wedi ei gyflwyno dros amser, byddwn yn ei ailadrodd ac yn ei ddwyn ynghyd yn y gyllideb atodol gyntaf. Ac mae gennym grwpiau ym mhob rhan o'r Llywodraeth—fel y gofynnodd Paul Davies amdanynt—yno'n barod, yn gweithio ar weithredu llwybr allan o'r argyfwng. Ond mae amserlenni, cerrig milltir a thargedau yn iaith sy'n perthyn i gyfnod gwahanol a chyd-destun gwahanol. Fel yr eglurais yn gynharach heddiw, mae gweithredu unrhyw fesurau'n dibynnu nid ar reolaeth ond ar allu hyblyg i ganfod cynnydd y clefyd a graddnodi ein mesurau yn erbyn y cyngor meddygol a gwyddonol ar y pryd. Mae poblogi cynllun gyda gweithredoedd sydd ymhell yn y dyfodol ac mewn amgylchiadau na all yr un ohonom eu rhagweld yn cynnig ymdeimlad ffug o sicrwydd i bobl. A chyflwynodd Huw Irranca-Davies y ddadl honno'n gadarn iawn y prynhawn yma yn fy marn i.
Ni fyddwn yn clymu ein hunain wrth weithredoedd penodol sydd o reidrwydd yn fympwyol eu natur. Mae ein prif swyddog meddygol wedi dweud droeon ei bod hi'n ymddangos bod y coronafeirws yn feirws sy'n meddu ar lawer o nodweddion annisgwyl, a bydd angen inni lywio ein ffordd drwy'r dyfodol hwnnw mewn modd sy'n rhoi sylw i'r dystiolaeth, yn rhoi sylw i'r amgylchiadau, ac yn amlwg, bydd angen inni allu dangos i bobl yng Nghymru fod y mesurau a roddwn ar waith yn seiliedig ar yr amgylchiadau a wynebwn gyda'n gilydd.
Lywydd, os caniatewch i mi wneud hynny, rwyf am ymateb yn fyr iawn i rai o'r manylion yn rhai o'r cyfraniadau. Mae nifer o gyfranwyr Plaid Cymru yn arbennig wedi tynnu sylw at Seland Newydd a'i strategaeth ddileu. A dywedodd Adam Price ei bod yn bwysig dysgu gan eraill. Rwy'n cytuno, mae'n bwysig dysgu gan eraill, ond dangosodd cyfraniad Neil Hamilton pa mor hawdd yw hi i ddod i'r casgliadau anghywir o brofiadau mannau eraill, yn hytrach na'r rhai cywir. Ac mae Seland Newydd yn ynys. Nid oes ganddi ffin ar y tir â phoblogaeth arall, ac mae strategaeth ddileu yn llawer haws ei gweithredu a'i chyflawni pan nad ydych yn sefyll foch ym moch â gweinyddiaeth sydd efallai'n gwneud pethau gwahanol.