– Senedd Cymru am 5:51 pm ar 3 Mehefin 2020.
Felly, fe wnawn ni gynnal y pleidleisiau nawr. Fel y nodir ar yr agenda, cynhelir y pleidleisiau heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11. Caiff pob grŵp gwleidyddol enwebu un Aelod o'r grŵp i fod â'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o Aelodau'r grŵp. Yn achos grŵp gwleidyddol sydd â rôl weithredol, bydd gan yr enwebydd yr un nifer o bleidleisiau ag sydd o Aelodau'r grŵp hwnnw, ynghyd ag unrhyw Aelodau eraill o'r Llywodraeth. Bydd Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio drostynt eu hunain. Byddaf yn cynnal y bleidlais drwy alw'r gofrestr.
Felly, mae'r bleidlais gyntaf ar y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020. Felly, y bleidlais gyntaf ar y rheoliadau hynny. Ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Jayne Bryant, sut ydych chi'n bwrw'ch 30 pleidlais?
O blaid.
Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw'ch 11 pleidlais?
Ymatal.
Ar ran Plaid Cymru, Siân Gwenllian, sut ydych chi'n bwrw'ch naw pleidlais?
O blaid.
O blaid. Ar ran Plaid Brexit, Mark Reckless, sut ydych chi'n bwrw'ch pedair pleidlais?
O blaid.
Gareth Bennett.
O blaid.
Neil McEvoy.
O blaid.
Canlyniad, felly, y bleidlais yw bod 45 o blaid, 11 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
Y bleidlais nesaf yw'r bleidlais ar ddadl y Ceidwadwyr ar ymchwiliad annibynnol i COVID-19. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Jayne Bryant, sut ydych chi'n bwrw'ch 30 pleidlais?
Yn erbyn.
Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw'ch 11 pleidlais?
O blaid.
Ar ran Plaid Cymru, Siân Gwenllian, sut ydych chi'n bwrw'ch naw pleidlais?
Yn erbyn.
Mark Reckless, sut ydych chi'n bwrw'ch pedair pleidlais dros Blaid Brexit?
O blaid.
Gareth Bennett.
O blaid.
Neil McEvoy.
O blaid.
Canlyniad y bleidlais yna, ar y cynnig heb ei ddiwygio, yw bod 17 o blaid, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Symud felly i bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Jayne Bryant, sut ydych chi'n bwrw'ch 30 pleidlais?
O blaid.
Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw'ch 11 pleidlais?
Yn erbyn.
Plaid Cymru, Siân Gwenllian, sut ydych chi'n bwrw'ch naw pleidlais?
Yn erbyn.
Mark Reckless, Plaid Brexit, sut ydych chi'n bwrw'r pedair pleidlais?
Yn erbyn.
Gareth Bennett.
Yn erbyn.
Neil McEvoy.
Yn erbyn.
Y canlyniad, felly, i'r bleidlais ar welliant 1 yw bod 30 o blaid, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi ei dderbyn.
Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 2, ac os caiff gwelliant 2 ei dderbyn, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Ar ran grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Jayne Bryant, sut ydych chi'n bwrw'ch 30 pleidlais?
O blaid.
Y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, eich 11 pleidlais.
Yn erbyn.
Plaid Cymru, Siân Gwenllian, sut ydych chi'n bwrw'ch naw pleidlais?
Yn erbyn.
Mark Reckless, Plaid Brexit, sut ydych chi'n bwrw'ch pedair pleidlais?
Ymatal.
Gareth Bennett.
Yn erbyn.
Neil McEvoy.
Yn erbyn.
Canlyniad y bleidlais yna yw: o blaid 30, pedwar yn ymatal, yn erbyn 22. Ac felly, mae gwelliant 2 wedi ei dderbyn. Mae gwelliant 3 felly yn cael ei ddad-ddethol.
Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 4, sydd wedi ei gyflwyno yn enw Siân Gwenllian. Ar welliant 4,felly, grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Jayne Bryant, sut ydych chi'n bwrw'ch 30 pleidlais?
Yn erbyn.
Y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw'ch 11 pleidlais?
O blaid.
Siân Gwenllian, ar ran Plaid Cymru, sut ydych chi'n bwrw'ch naw pleidlais?
O blaid.
Mark Reckless, Plaid Brexit, sut ydych chi'n bwrw'ch pedair pleidlais?
Yn erbyn.
Gareth Bennett.
Yn erbyn.
Neil McEvoy.
O blaid.
Mae'r bleidlais yna wedi'i chwblhau a'r canlyniad yw bod 21 o blaid, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Ac felly, nid yw gwelliant 4 wedi ei dderbyn.
Dwi'n galw nawr, felly, am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Ac felly, ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Jayne Bryant, sut ydych chi'n bwrw'ch 30 pleidlais?
O blaid.
Y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw'ch 11 pleidlais?
Yn erbyn.
A Phlaid Cymru, Siân Gwenllian, sut ydych chi'n bwrw'r naw pleidlais?
O blaid.
Plaid Brexit, Mark Reckless, sut ydych chi'n bwrw'r pedair pleidlais?
Ymatal.
Gareth Bennett.
O blaid.
Neil McEvoy.
Ymatal.
Canlyniad y bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio, felly, yw bod 40 0 blaid, fod neb yn ymatal, fod 11 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn. A dyna ni'n dod at ddiwedd ein canlyniad—[Torri ar draws.]
Ie, Mark Isherwood. Nid 'Isherwood', rwy'n ymddiheuro. Mark Reckless.
Fe wnaethom ni ymatal yn y bleidlais honno. Rwyf ychydig yn ansicr o ran sut y cafodd hynny ei grynhoi.
Ie, iawn. Os wnes i ei ddarllen yn anghywir yn fy mrys i ddirwyn materion i ben, rwy'n ymddiheuro. Gadewch imi ailddarllen y bleidlais, ac mae'n darllen bod 40 o blaid, pump wedi atal eu pleidlais, ac 11 yn erbyn. A chan hynny, derbyniwyd y cynnig. Rwy'n ymddiheuro os wnes i ei ddarllen yn anghywir gynnau.
Felly, diolch i bawb am eich cyfraniad i'r cyfarfod yma o'r Senedd heddiw, a phob dymuniad da i chi. Rŷm ni'n dod â'r cyfarfod i ben.