8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymchwiliad annibynnol i COVID-19

– Senedd Cymru ar 3 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 3 a 4 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:44, 3 Mehefin 2020

Y ddadl nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ymchwiliad annibynnol i COVID-19. Dwi'n galw ar Paul Davies i gyflwyno'r cynnig. Paul Davies.

Cynnig NDM7328 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw am ymchwiliad annibynnol wedi'i arwain gan farnwr a benodir gan y Senedd, i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â'r pandemig Covid-19, i'w gychwyn ar ddyddiad priodol, pan fydd y pandemig o dan reolaeth, ac i'w gwblhau cyn etholiad nesaf Senedd Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 4:45, 3 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd, ac rwy'n cynnig y cynnig sydd wedi'i gyflwyno yn enw fy nghydweithiwr, Darren Millar. Mae ein cynnig yn glir: rydym ni'n galw am ymchwiliad annibynnol, dan arweiniad barnwr ac wedi'i benodi gan Senedd Cymru, i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â phandemig COVID-19. Bydd cwestiynau niferus gan bobl Cymru yn parhau ynghylch yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y pandemig hwn, pa mor barod y bu Cymru amdano, a phenderfyniadau a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru mewn ymateb i'r pandemig. Gan fod Llywodraeth Cymru bellach wedi dechrau llacio cyfyngiadau symud yng Nghymru, mae'n bryd i ddechrau ystyried sut y dylid holi ac ateb y cwestiynau hynny. Yn bwysicach byth, mae'n gwbl hanfodol bod gwersi'n cael eu dysgu o bandemig COVID-19 pe bai'r Llywodraeth hon neu Lywodraethau'r dyfodol yn wynebu pandemig fel hwn yn y dyfodol. Felly, gan fod cyfyngiadau'n dechrau cael eu llacio erbyn hyn, mae'n briodol inni ystyried yn awr sut i fwrw ymlaen a gweithredu'r ymchwiliad cyhoeddus hwnnw.

Nawr, rwy'n gwerthfawrogi bod pwyllgorau'r Senedd eisoes yn ystyried eu hymchwiliadau eu hunain i COVID-19 a'r effaith a gafodd ar feysydd pwnc eu pwyllgorau, ac mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi'u galw i ateb cwestiynau ar feysydd eu portffolio. Fodd bynnag, o ystyried yr effaith aruthrol y mae COVID-19 wedi'i chael ar deuluoedd a chymunedau ledled Cymru, credaf ei bod yn briodol lansio ymchwiliad cyhoeddus llawn, o dan arweiniad barnwr annibynnol wedi'i benodi gan y Senedd, nid Llywodraeth Cymru.

Rhaid inni ei gwneud yn hollol glir i bobl Cymru y bydd yr ymchwiliad hwn yn agored ac yn dryloyw a bod modd rhoi cyfrif am y camau gweithredu. Bydd penodi barnwr annibynnol yn datgan bod y sefydliad hwn wedi'i ymrwymo i atebolrwydd, a bod yr ymchwiliad hwn, yn syml iawn, yn haeddu'r awdurdod y byddai gan uwch farnwr. Yn wir, pan fydd y broses yn cyrraedd y cam lle mae gwrandawiadau ar y gweill, byddai gan Gwnsler y Frenhines a'i dîm y sgiliau mwyaf priodol i holi'r cwestiynu mewn modd teg a chwilfrydig. Am y rheswm hwnnw, byddwn ni'n gwrthwynebu gwelliant 1, sy'n dileu'r pwynt y dylai ymchwiliad cyhoeddus gael ei arwain gan farnwr, oherwydd fe ddylai gael ei arwain gan farnwr, a'i benodi gan y Senedd yn hytrach na Llywodraeth Cymru. Rwyf i o'r farn bod pobl Cymru yn haeddu gweld yr ymchwiliad hwn yn cael ei gynnal gan ddefnyddio'r lefel uchaf bosibl o dryloywder ac awdurdod. Ni allwn fforddio gadael i Lywodraeth Cymru bennu cyfeiriad nac agenda, ac felly ni allaf weld unrhyw beth afresymol nac anffafriol wrth alw i'r ymchwiliad gael ei arwain gan farnwr sydd wedi'i benodi'n annibynnol ar y Llywodraeth y byddai'n ei harchwilio.

Nawr, rwy'n sylweddoli y bydd disgwyl i ymchwiliad cyhoeddus gael ei gynnal yn gyflym, a dyna pan mae angen inni ddechrau gweld rhywfaint o'r gwaith paratoi yn dechrau. Efallai fod yr Aelodau'n ymwybodol o'r llythyr diweddar yn y Financial Times wedi'i ysgrifennu gan grŵp o Arglwyddi, a alwodd am ddeialog a chonsensws trawsbleidiol ar gylch gorchwyl ymchwiliad y DU i COVID-19. Wel, rwy'n galw ar y trafodaethau hynny i ddechrau yma yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio, mewn ysbryd agored ac atebol, y bydd pob plaid wleidyddol yn dymuno bod yn rhan o'r ddeialog hon. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud, mewn egwyddor, ei fod yn hapus i gadarnhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru i ymchwiliad cyhoeddus ar yr adeg gywir, ac mae hwnnw'n gam ymlaen i'w groesawu. Gallwn ni yn awr ddatblygu'r consensws hwnnw a dechrau meddwl sut y gall yr ymchwiliad hwnnw ddigwydd. Felly, rwy'n gobeithio, wrth ymateb i'r ddadl hon, y bydd Llywodraeth Cymru yn dweud ychydig mwy wrthym am eu syniadau o ran pryd y gall yr ymchwiliad hwn ddechrau. Ni chredaf ei bod yn afresymol inni ystyried rhai o'r amserlenni y gall pobl Cymru ddisgwyl cael clywed atebion i'w cwestiynau am y modd yr ymdriniwyd â materion sy'n ymwneud â COVID-19 yng Nghymru.

Llywydd, rydym ni'n gofyn bod y canfyddiadau ar gael cyn etholiadau seneddol Cymru y flwyddyn nesaf. Yn y pen draw, dylai pobl Cymru gael y cyfle i wrando ar y dystiolaeth a dod i'w casgliadau eu hunain o ran yr ymchwiliad—a gallan nhw ddweud eu dweud—ac, yn bwysicach, allu dwyn Gweinidogion presennol y Llywodraeth i gyfrif yn yr etholiad y flwyddyn nesaf. Am yr union reswm hwnnw, ni allwn gefnogi gwelliant 2, sy'n ceisio dileu'r angen bod y canfyddiadau ar gael cyn etholiadau Seneddol nesaf Cymru. Rhaid dangos i'r byd na fyddwn ni, yma yng Nghymru, yn petruso rhag gofyn cwestiynau anodd a chael atebion anodd. Mae gan bobl Cymru yr hawl i fod mor wybodus â phosibl yn yr etholiad nesaf, a rhaid inni o leiaf geisio darparu ar eu cyfer yr atebion y maen nhw'n eu ceisio, fel y gallan nhw fynd i'r blwch pleidleisio mor wybodus â phosibl.

Nawr, mae gwelliant 4 yn galw bod yr ymchwiliad yn cael ei gychwyn ochr yn ochr â'r modd y mae Llywodraeth y DU wedi ymdrin â phandemig COVID-19. Rwy'n hapus i weld hynny'n digwydd, ac felly byddwn ni'n cefnogi'r gwelliant hwn. Ond ni ddylem golli golwg ar hynny, ac yma yng Nghymru mae cyfle hefyd i arwain ar hyn, a dylem gymryd y cyfle hwnnw.

Yn briodol, bydd gan bob Aelod ei farn ynghylch y materion systemig y bydd modd eu hystyried yng nghylch gorchwyl yr ymchwiliad. Rwy'n credu y dylai cwmpas yr ymchwiliad hwn fod yn eang a dylai edrych ar holl benderfyniadau polisi COVID-19 Llywodraeth Cymru drwy gydol y cyfnod hwn. Er enghraifft, mae'n gwbl hanfodol bod yr ymchwiliad cyhoeddus yn ystyried strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ymdrin â'r sector cartrefi gofal yng Nghymru. Fe wyddom, er gwaethaf apeliadau gan Fforwm Gofal Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn araf yn cynnal profion ar breswylwyr a staff cartrefi gofal yma yng Nghymru.

Nawr, y gred yw bod chwarter y marwolaethau oherwydd coronafeirws yng Nghymru wedi bod yn gysylltiedig â phreswylwyr cartrefi gofal. Ac eto i gyd bu'n rhaid aros tan 22 Ebrill cyn bod y Gweinidog Iechyd yn penderfynu profi preswylwyr cartrefi gofal oedd â symptomau a'r rhai a oedd yn dychwelyd o'r ysbyty i gartrefi gofal, yn ogystal â gweithwyr cartref gofal oedd â symptomau. Yn dilyn hynny, ar 2 Mai, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal oedd ag achosion coronafeirws yn cael eu profi gan ddilyn y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf, a oedd yn dangos y dylai'r profion mewn cartrefi gofal gael eu hymestyn i reoli unrhyw achosion. Newidiodd hynny eto wedyn, ac erbyn 6 Mai, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai'n dechrau cynnal profion yn gyffredinol mewn cartrefi gofal, ond y tro hwn dim ond i'r cartrefi gofal hynny lle'r oedd dros 50 o welyau. Gyda chyfartaledd o 33 gwely yng nghartrefi gofal Cymru, roedd y cyhoeddiad hwn yn golygu bod y cartrefi gofal llai o faint wedi cael eu gadael heb brofion tan bythefnos yn ddiweddarach, pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru yn y pen draw brofion i holl breswylwyr a staff cartrefi gofal. Felly, dim ond un enghraifft yw honno, ac rwy'n siŵr, yn ystod y ddadl heddiw, y bydd yr Aelodau'n cyfrannu eu syniadau eu hunain, yn seiliedig ar yr ohebiaeth a'r adborth y maen nhw wedi'u cael gan eu hetholwyr eu hunain.  

Y pwynt pwysig yr wyf i'n dymuno ei wneud yw y dylai'r ymchwiliad fod yn ymarfer eang ei gwmpas sy'n edrych ar bob mater a thystiolaeth. Bydd yr Aelodau wedi cael gohebiaeth gan etholwyr ar amrywiaeth o bolisïau COVID-19, gyda chwestiynau difrifol o ran y ffordd y mae rhaglenni a phenderfyniadau Llywodraeth Cymru wedi effeithio ar eu bywydau, ac mae'n rhaid i'r ymchwiliad graffu ar bob maes polisi er mwyn darparu'r atebion hynny. Mae pryderon ynghylch materion fel profi a chyflenwi a dosbarthu cyfarpar diogelu personol yn feysydd ymchwil dilys iawn y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw. Dywedwyd wrthym gan Goleg Brenhinol Nyrsys Cymru fod diffyg cysondeb ac arweiniad o ran defnyddio a darparu cyfarpar diogelu personol ar lefel byrddau iechyd lleol. Yn wir, dangosodd arolwg diweddar gan Goleg Brenhinol y Nyrsys, fod 74 y cant o'r staff nyrsio, yn ystod y pandemig hwn, wedi codi pryderon ynghylch cyfarpar diogelu personol a bod dros hanner y staff nyrsio wedi teimlo dan bwysau i ofalu am glaf heb y diogelwch digonol a amlinellwyd yn y canllawiau cyfarpar diogelu personol presennol.  

Y materion systemig hyn yw'r rhai y mae'n rhaid eu hamlygu a'u harchwilio'n llawn gan ymchwiliad cyhoeddus. Felly, i gloi, Llywydd, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi ein cynnig heddiw ac y gallwn ni ddechrau symud ymlaen a gosod y sylfeini ar gyfer yr ymchwiliad hwnnw. Mae angen atebion ar bobl Cymru ac maen nhw'n eu haeddu, ac mae'n rhaid i ni ymrwymo i broses sy'n rhoi'r union beth hwnnw iddyn nhw. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 4:52, 3 Mehefin 2020

Dwi wedi dewis y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os bydd gwelliant 2 yn cael ei dderbyn, yna bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i gyflwyno gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans—Jeremy Miles. 

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu 'wedi'i arwain gan farnwr a benodir gan y Senedd'.

Gwelliant 2—Rebecca Evans

Dileu 'ac i'w gwblhau cyn etholiad nesaf Senedd Cymru'.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Yn ffurfiol. Ac felly dwi'n galw nawr ar Adam Price i gyflwyno gwelliannau 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian—Adam Price. 

Gwelliant 3—Siân Gwenllian

Dileu 'ac i'w gwblhau' a rhoi yn ei le 'ac i adroddiad cychwynnol ar ei ganfyddiadau gael ei gyflwyno'. 

Gwelliant 4—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am gychwyn ymchwiliad annibynnol yn cydredeg, wedi'i arwain gan farnwr, i'r modd y mae Llywodraeth y DU wedi ymdrin â'r pandemig Covid-19.

Cynigiwyd gwelliannau 3 a 4.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 4:53, 3 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Nid oes amheuaeth ynghylch yr angen am ymchwiliad COVID yn y ddadl heddiw. Yr hyn y mae'r cynnig a'r gwelliannau sydd wedi'u cyflwyno yn ceisio ei wneud yw dod o hyd i'r atebion i gwestiynau eraill ynghylch natur yr ymchwiliad: pwy fydd yn ei benodi, pwy fydd yn ei gadeirio, pryd y bydd yn dechrau, pryd y bydd yn cyflwyno ei ganfyddiadau? Yn ogystal â'r 'pwy a'r 'pryd', mae cwestiwn ynghylch sut, ac yn benodol, a ddylai hyn fod yn ymchwiliad cyhoeddus statudol a llawn.  

Nawr, gan ddechrau gyda'r 'pwy', mae'r Llywodraeth wedi cyflwyno gwelliant sy'n dileu 'dan arweiniad barnwr wedi'i benodi gan Senedd Cymru'. Nawr, nid wyf i'n siŵr a yw'n wrthwynebiad i 'wedi'i benodi gan Senedd Cymru', neu i 'dan arweiniad barnwr', neu i'r ddau. Nawr, rwy'n deall, yn ffurfiol, ers pasio Deddf Ymchwiliadau 2005, mai Llywodraethau sy'n sefydlu ymchwiliadau statudol. Ond rwy'n credu mai ysbryd y cynnig yw bod angen math o ddeialog drawsbleidiol y cyfeiriodd Paul Davies ati ac y cyfeiriodd llythyr yr FT ati ynghylch cylch gorchwyl yr ymchwiliad. Os mynnwch, mae angen consensws cyhoeddus er mwyn rhoi hyder i'r cyhoedd y bydd yr ymchwiliad yn drylwyr ac yn annibynnol. Felly, rwy'n gwahodd y Llywodraeth heddiw i ymrwymo i ymwneud â'r math hwnnw o ddeialog gyda'r gwrthbleidiau, ond hefyd yn ehangach gyda'r cyhoedd a gyda rhanddeiliaid perthnasol ynglŷn â chylch gorchwyl yr ymchwiliad.

Ein barn ni, o gofio difrifoldeb yr ymchwiliad a'r dioddefaint cysylltiedig, yw bod angen i hwn fod yn ymchwiliad cyhoeddus statudol â phwerau i gymell cynhyrchu dogfennau, cymryd tystiolaeth ar lw a gofyn am ddatganiadau gan dystion, mewn ffordd debyg i ymchwiliad Tŵr Grenfell. Mae proses ymchwilgar o'r fath yn gofyn am sgiliau a phrofiad uwch farnwr i'w chadeirio. Ac mae angen dechrau chwilio am y Cadeirydd hwnnw ar unwaith, os nad yw eisoes wedi dechrau, sy'n ein harwain wedyn at gwestiwn amseru.

Mae'n cymryd pedwar i chwe mis, ar gyfartaledd, i sefydlu ymchwiliad cyhoeddus, a dyna pam mae angen dechrau'r gwaith i'w sefydlu nawr os yw'r sesiynau tystiolaeth i ddechrau eleni. Mae hynny oherwydd bod angen llawer o waith rhagarweiniol i goladu dogfennau a datganiadau, ac ati, fel bod modd i dîm Cwnsel y Frenhines ofyn cwestiynau gwybodus a fyddai'n gweithredu ar ran yr ymchwiliad.  

Bydd adroddiad llawn gan ymchwiliad statudol gwirioneddol gynhwysfawr, wrth gwrs, yn cymryd amser i'w gwblhau. Mae hynny i raddau helaeth oherwydd cymhlethdod pwnc yr ymchwiliad yn yr achos hwn, ond hefyd o ran yr amrywiaeth eang o bobl y bydd angen i'r ymchwiliad wrando arnyn nhw. Mae angen i'r ymchwiliad greu'r amser a'r lle i glywed lleisiau pawb yr effeithiwyd arnyn nhw. Yn hynny o beth, bydd hwn yn ymchwiliad sy'n wahanol i unrhyw un arall yn hanes ein cenedl ac, wrth gwrs, bydd angen iddo gael ei lywio gan ymchwiliad cyfochrog sydd i'w gynnal ar lefel y DU.

Ond mae rhai cwestiynau yn rhai brys, ac rwy'n credu y byddai'n briodol mabwysiadu'r math o ddull gweithredu graddol a gafodd ei ddilyn yn achos ymchwiliad Tŵr Grenfell. Bydd angen adroddiad interim wedi'i gynhyrchu cyn diwedd tymor y Senedd hon yn nodi ffeithiau'r hyn a ddigwyddodd, pa mor barod yr oeddem ni, pwy oedd yn gwybod a phwy a wnaeth beth o ran yr ymateb cynnar i'r pandemig, a beth yw'r casgliadau interim ar yr hyn y mae angen ei wneud yn wahanol yn y dyfodol.  

Rydym ni wedi gwneud ein cyfraniad ein hunain fel plaid i'r broses ddysgu hanfodol honno heddiw wrth gyhoeddi adroddiad ar ymateb Llywodraeth Cymru hyd yn hyn, wedi'i ysgrifennu gan y meddyg teulu ac ymgynghorydd iechyd y cyhoedd, Dr Camilla Ducker. Yn sicr fe fyddwn yn wynebu pandemig arall ar ryw adeg, ac efallai y byddwn yn ymdopi â'r un hwn am flynyddoedd lawer i ddod. Bydd ymchwiliad cynnar yn ein helpu ni i wneud y ddau yn fwy effeithiol, ac rwy'n annog y Llywodraeth i'w sefydlu heddiw heb unrhyw oedi pellach.  

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 4:57, 3 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn dyst i benderfyniad a dycnwch pobl Cymru ac, yn arbennig, i'r nifer fawr sydd wedi bod yn barod i roi eu hunain mewn perygl er gwell, a hoffwn i ddiolch o galon i bob un ohonyn nhw. Dyma'r pandemig cyntaf gwirioneddol fyd-eang mewn mwy na chanrif, ers i ffliw Sbaen daro'r byd wrth i'r rhyfel byd cyntaf dynnu at ei derfyn, ac er bod ein byd ni sydd wedi'i gysylltu'n fyd-eang, yn wahanol iawn, mae'r awydd dwfn i fod gyda theulu a ffrindiau, i weithredu rhwydwaith cymdeithasol, yn parhau i ysgogi'r ddynoliaeth.  

Mae dyfodiad technoleg wedi bod yn gymorth sylweddol, ond rydym hefyd yn bobl sydd wedi ein cyfyngu'n llai, ac nid ydym yn gyfarwydd â chyfyngiadau o'r fath gan y Llywodraeth ar ein hawliau. Mae penderfyniadau anodd wedi'u gwneud, ond rhaid inni asesu'r penderfyniadau hynny a dysgu oddi wrthynt. Rhaid rhannu arferion gorau a chynnal dadansoddiad llawn a gonest o ble'r aeth pethau o chwith, beth a gafodd ei wneud yn dda a sut y gallai pethau newid y tro nesaf y bydd hyn yn digwydd. A dyna pam mae'n rhaid inni gael ymchwiliad gwirioneddol annibynnol wedi'i arwain gan farnwr. Ein hetifeddiaeth fydd rhoi'r mesurau diogelu ar waith i'n plant ac i blant ein plant.

Y cwestiwn cyntaf y dylid ei ofyn mewn ymchwiliad yw a gafodd y cyfyngiadau symud eu gorfodi ar yr adeg iawn. Roedd yn rhaid i lawer o'r penderfyniadau gael eu pennu gan Lywodraeth San Steffan gan fod ein ffin mor dreiddadwy a bod y feirws hwn wedi llifo drwy'r Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, roedd rhai penderfyniadau o fewn pwerau Llywodraeth Cymru. Dylai'r adolygiad ystyried a ddylid bod wedi caniatáu i gyngerdd y Stereophonics yn Stadiwm y Mileniwm gael ei gynnal. Daeth degau o filoedd o bobl i ganol y ddinas yn sgil y digwyddiad hwn. Er bod gêm y chwe gwlad, Cymru yn erbyn yr Alban, wedi'i gohirio, dim ond ar y funud olaf oedd hynny, unwaith eto, ar ôl i lawer o gefnogwyr deithio o rannau eraill o Gymru ac o'r Alban.

Ond yn fwy cyffredinol, pa wersi y gallwn ni eu dysgu o'r cyfyngiadau symud? A ddylem ni edrych ar gyfyngiadau symud lleol gwahanol? Ai'r rheol cadw pellter cymdeithasol o 2m yw'r un fwyaf priodol? Beth yw profiad y rhai sydd wedi bod yn gwarchod eu hunain? A wnaeth ein cadwyn fwyd ni ymdopi? Os na, pam? A sut, o sut, y cafodd cartrefi gofal eu hanwybyddu yn y brys i ddiogelu ein GIG?

Bydd angen i'r ymchwiliad ystyried a oedd digon o ddarpariaeth a defnydd o gyfarpar diogelu personol drwy gydol yr argyfwng. Byddem ni eisiau i'r ymchwiliad ystyried a oedd digon o gyflenwad yn gyffredinol, ar gyfer pob bwrdd iechyd, awdurdod lleol, cartref gofal preifat, cyhoeddus a gofal preswyl cymysg. Dylai'r ymchwiliad asesu a oedd y defnydd gorau wedi ei wneud o'r cyfarpar diogelu personol ac a oedd hyfforddiant digonol wedi'i ddarparu i sefydliadau prynu a staff rheng flaen, ac yn wir mae angen i'r ymchwiliad adolygu diffiniad 'staff rheng flaen'. Pwy all wadu bod fferyllfeydd wedi bod ar y rheng flaen? Ac eto, roedd eu darpariaeth cyfarpar diogelu personol yn llanast: dim cydlyniant, dim llawer o feddwl y tu ôl iddi, ac yn anodd ei chyrchu. Wrth i amser fynd yn ei flaen, mae'n ymddangos ein bod mewn gwell sefyllfa o ran cyfarpar diogelu personol, ond roedd diffygion amlwg. Dim ond 24 awr o stoc oedd gan rai sefydliadau ar ôl. Mae angen inni adolygu stociau, opsiynau gweithgynhyrchu a mynediad at gyfarpar diogelu personol, ac a oes gennym ddigon i gynnal unrhyw bandemig pellach neu gyfnodau pellach o gynnydd.

Un o'n prif feysydd eraill sy'n peri pryder yw'r sefyllfa o ran profi yma yng Nghymru, ac mae hwn yn faes allweddol ar gyfer unrhyw ymchwiliad. Dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd ar y cychwyn cyntaf mai'r neges allweddol yw 'profi, profi a phrofi '. Ac mae hon yn neges yr wyf i a fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig wedi'i chefnogi erioed. Mae profi yn un o'r elfennau pwysicaf o ran mynd i'r afael ag ymlediad coronafeirws a helpu gwledydd i lacio'r cyfyngiadau symud.

Beth yw'r feirws? Ble mae e? O ble y tarddodd? Sut y neidiodd ef ffiniau? Pa effaith y mae'n ei gael ar wahanol bobl? Ydy e'n newid ac yn datblygu? Beth all ei ladd? Beth all ein diogelu rhagddo? Pam? Pam? Pam? Dyna gwestiynau nad ydym ni wedi ystyried eu gofyn eto heb sôn am eu hateb. Bydd system brofi gynhwysfawr yn darparu data i'n galluogi ni i ateb rhai o'r cwestiynau hyn, ond mae profi yng Nghymru wedi bod yn warthus.

Cafodd targedau eu gosod, eu gwadu a'u gollwng. Roedd gan y Gweinidog iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru uchelgeisiau a nodau gwahanol. Ers dechrau'r argyfwng rwyf wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gael tîm profi pwrpasol ac atebol, dan arweiniad unigolyn sydd â phrofiad sylweddol o logisteg. Mae angen i'r ymchwiliad edrych ar faint yr her a gallu Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyflawni. Dylai'r ymchwiliad edrych ar beth yn union ddigwyddodd gyda'r 5,000 o brofion coll bob dydd. A oedd gan Roche gytundeb ag Iechyd Cyhoeddus Cymru neu a oedden nhw ond mewn cyfnod o drafod rhagarweiniol? Mae angen eglurder ynghylch a oedd gan Lywodraeth Cymru fargen ffurfiol erioed ynteu a oedd honiadau'r Prif Weinidog yn gwbl gywir.

Rhaid i'r ymchwiliad ganolbwyntio ar y rheswm pam, gerbron un o bwyllgorau'r Cynulliad, y gwadodd Pennaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyson unrhyw wybodaeth am y targed prawf 9,000 cyn ysgrifennu at y pwyllgor yn ddiweddarach i egluro ei sylwadau. Dylai'r ymchwiliad adolygu pam y gorfodwyd y cyfyngiad o 15 prawf y diwrnod ar awdurdodau ac yna ei godi dim ond ar ôl i adolygiad cyflym Llywodraeth Cymru ar 18 Ebrill nodi y gallai fod wedi lleihau'r galw. Ai hwn oedd y cam cywir? Beth oedd y syniad y tu ôl i'r terfyn? A ddylai profion fod wedi'u dechrau yn rheolaidd cyn 18 Mawrth? A oedd ffactorau rhyngwladol yn ffactor cyfrannol, fel yr oedd Lywodraeth Cymru wedi'i honni? A gafodd arbenigwyr logistaidd o'r fyddin eu defnyddio yn ddigon cynnar? A ddylai canolfannau profi fod wedi cau ar wyliau banc? Rwy'n croesawu tro pedol Llywodraeth Cymru ar 2 Mai, ond roedd yn fater o beidio gwneud digon mewn pryd.

Pam y cafodd cartrefi gofal eu hanwybyddu er gwaethaf y rhybuddion? Pam na chafodd staff a phreswylwyr eu profi'n rheolaidd? A oedd gennym ddigon o gapasiti labordai? Pam na wnaeth Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r labordai a oedd ar gael yn gynt? Pam y cymerodd ddiwrnodau i brosesu profion o'r Gogledd a'r Gorllewin? Sut y dylai'r broses hysbysu gael ei symleiddio? Mae'r rhestr yn ddiddiwedd, ond mae angen i ni ystyried profi o ddifrif. Ac mae angen i'r ymchwiliad edrych hefyd ar gasglu data oherwydd, dan bwysau—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:03, 3 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Angela Burns, rydych chi dros amser erbyn hyn. Os gallwch chi ddod â'ch cyfraniad i ben.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwyf i eisiau dweud bod cymaint i'r ymchwiliad hwn ei ystyried. Mae'n hanfodol ein bod ni'n dysgu'r gwersi wrth symud ymlaen. Nid hwn fydd y pandemig olaf y bydd yn rhaid inni ei wynebu yng Nghymru. Mae angen yr etifeddiaeth honno arnom ni i amddiffyn Cymru, ein plant ni a'u plant nhw.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 5:04, 3 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cefnogi ymchwiliad yn llwyr, ond yn gyntaf rwyf eisiau cofnodi a thalu teyrnged i'r holl weithwyr rheng flaen hynny sydd wedi bod yn ein cadw ni'n ddiogel, ac y byddwn ni'n dibynnu arnyn nhw yn y dyfodol agos a'r dyfodol rhagweladwy, i barhau i wneud y gwaith hwnnw. Ac rwy'n credu ei bod hefyd yn iawn cofnodi bod pobl wedi cydymffurfio â'r cyfyngiadau a roddwyd arnynt mewn ffordd na fydden nhw wedi'i disgwyl erioed, ac na fyddem ni erioed wedi disgwyl gofyn iddyn nhw wneud hynny.  

Rwy'n cytuno bod angen adolygiad neu ymchwiliad cyhoeddus arnom, ar ba bynnag ffurf, i'r ymdriniaeth o'r pandemig hwn o COVID-19; rwy'n cytuno y bydd yn ein helpu ac yn ein harwain drwy'r posibilrwydd o ymdrin â phandemig arall yn y dyfodol, a hefyd barhau i ymdrin â hyn. Ond rwy'n mynd i ofyn rhywbeth gwahanol o ran yr hyn sydd ger ein bron y prynhawn yma: ble rydym ni'n dechrau'r ymchwiliad hwnnw a ble rydym yn ei ddwyn i ben? Oherwydd, yn ddigon amlwg, mae hynny'n hynod o bwysig.

Rwy'n credu bod yn rhaid inni ei ddechrau drwy edrych ar y cynllun pandemig cenedlaethol a oedd ar waith ac yna a gafodd ei ollwng gan y Llywodraeth Dorïaidd. O ganlyniad i hynny, rydym wedi gweld llawer iawn o ddatganiadau, gan lawer iawn o arbenigwyr, yn gyffredinol, yn dweud nad oedd y DU mewn gwirionedd mewn sefyllfa dda i ymdrin ag unrhyw bandemig. Ac mewn gwirionedd, gwelsom gyhuddiadau gan Weinidogion Torïaidd, yn dweud bod gorymateb a bod gormod o arian yn cael ei wario ar swyddogion San Steffan a oedd yn paratoi ar gyfer cynllun o'r fath, a'u bod wedi gollwng y cynllunio cychwynnol hwnnw. Nawr mae gan hynny ganlyniad; mae ganddo ganlyniad i'r DU gyfan, a dyna pam rwyf yn tynnu sylw ato yma heddiw.

Rwy'n credu bod angen inni hefyd edrych ar arbenigwyr iechyd cyhoeddus o Brifysgol Johns Hopkins, lle'r oeddent wedi gosod pob gwlad ledled y byd yn ôl eu parodrwydd ar gyfer pandemig. Ac fe wnaethon nhw ddatgan, ar ôl degawd o gyni gan y Torïaid, mai'r DU oedd yr olaf ond un o 195 gwlad, a'r wlad olaf oedd yr Unol Daleithiau. Mae'r holl bethau hyn yn berthnasol gan eu bod i gyd yn gysylltiedig â pha mor barod yr oeddem ni. Felly mae'n weddol amlwg, er fy mod yn cytuno bod angen ymchwiliad arnom, bod angen ymchwiliad hollgynhwysol. Os ydym yn canolbwyntio ar Gymru yn unig, ni fyddwn yn datgelu'r angen dwys a gwirioneddol i ddeall yr achosion, ac ni chawn ni'r atebion priodol drwy anwybyddu pob un o'r agweddau hynny—ac mae rhai ohonyn nhw wedi cael eu crybwyll yma heddiw.

Mae angen edrych ar y datganiad cynnar iawn ar imiwnedd torfol a wnaed gan Boris Johnson. Yn ddiamau, cafodd imiwnedd torfol, a'r methiant hwnnw i gyfyngu symudiadau yn gynnar iawn, ei roi i'w gynghorwyr allweddol. Pe baem ni wedi cyfyngu symudiadau yn gynharach o lawer, byddai hynny'n wir wedi bod o gymorth. Petai Cymru wedi mynd yn ei blaen a phenderfynu cyfyngu symudiadau ymhell o flaen Lywodraeth y DU, ni allaf ddychmygu am un funud y byddai Llywodraeth y DU wedi rhoi'r arian angenrheidiol i ni gefnogi'r busnesau petaem ni wedi mynd ar ein pen ein hun. Felly, er fy mod yn deall hynny—. Mae Angela Burns wedi rhoi rhestr o rai o'r pethau y gallem ni fod wedi'u gwneud ar ein pen ein hun yn llwyr; un o'r pethau y byddem ni yn amlwg wedi methu ei wneud ar ein pen ein hun, heb gefnogaeth Trysorlys y DU, oedd gofyn i bobl rhoi eu staff ar ffyrlo.

Eto, o ran cyfarpar diogelu personol, rwy'n cael fy atgoffa i ystyried y llwyth a ddaeth o Dwrci, a'r 400,000 darn o gyfarpar diogelu personol a gafodd ei ddychwelyd. Rwy'n sicr y byddai rhywfaint ohono wedi bod ar ei ffordd i Gymru. A chafwyd datganiad mawreddog—gall pob un ohonom gofio ei weld ar y teledu a bod yn falch iawn bod rhywfaint o gyfarpar diogelu personol ar ei ffordd atom, dim ond iddo gael ei roi'n ôl ar yr awyren oherwydd bod methiant llwyr i brofi a fyddai, yn y lle cyntaf, o unrhyw ddefnydd. Roedd yn gwbl ddiwerth. Felly rwy'n credu mai'r hyn y mae angen i ni ei wneud yn y fan hon yw ein hatgoffa ein hunain yn glir iawn o'r holl fethiannau, edrych ar sut a pham y maen nhw wedi digwydd, ac yna—a dim ond bryd hynny—pan fydd gennym ni ymchwiliad hollgynhwysol sy'n ystyried yr holl agweddau, y byddwn ni'n symud ymlaen. Dyna fy marn i, a dyna pam na fyddaf yn cefnogi hyn heddiw yn y ffordd y mae wedi'i ysgrifennu.

Gallwn ni hefyd —

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:09, 3 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Mae angen i chi—. Nid oes gennych chi amser, nawr, Joyce Watson.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

David Rowlands. David Rowlands. A ydych chi'n gallu—? Na, nid ydym yn gallu eich clywed chi ar hyn o bryd. Dof yn ôl atoch chi, David, a galwaf ar Russell George.

Photo of Russell George Russell George Conservative 5:10, 3 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau heddiw, os gallaf i, ar effaith y pandemig ar fusnesau Cymru ac economi Cymru. Rwy'n credu, ar y cyfan, bod pedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cydweithio'n dda, gan ymdopi â heriau'r pandemig. Ond er i ni ddechrau'n dda gyda'n gilydd, mae problem wedi codi ac mae mor siomedig i mi ein bod yn llacio'r cyfyngiadau symud ar gyflymder gwahanol. I mi, mae hyn yn creu mwy o broblemau, rwy'n credu, nag atebion. Mae'n rhoi busnesau Cymru dan anfantais benodol i'n cymdogion yn Lloegr, wrth gwrs.

Ac i mi, byddai wedi bod yn well pe bai'r DU gyfan wedi bod yn gweithredu mewn ffordd unedig, oherwydd, yn fy marn i, mae'r gwahaniaeth rhwng y dulliau gweithredu yn mynd i ddwysáu dryswch a rhwystredigaeth busnesau, yn enwedig y rhai sydd wedi'u lleoli ar hyd y ffin, a bydd nifer ohonom ni yma heddiw yn cynrychioli etholaeth o'r fath. Rwy'n credu y bydd yn rhaid i unrhyw ymchwiliad cyhoeddus ystyried sut mae gwahanol ddulliau ac amserlenni o ran cymorth busnes wedi effeithio ar fusnesau bob ochr y ffin. Gallaf feddwl am rai enghreifftiau—Hafren Furnishers yn fy etholaeth i a sut mae eu cystadleuwyr, ar draws y ffin i bob pwrpas, yn gallu gweithredu ac ni allant hwy.

Ac mae yna enghraifft arall, Llywydd, yn y gwahaniaeth mewn cyfyngiadau ar weithrediadau hedfan gyffredinol yng Nghymru, lle mae cyfyngiadau wedi'u codi yn Lloegr ond nid yng Nghymru. Ac mae hyn yn golygu bod peilotiaid hedfanaeth gyffredinol sydd wedi lleoli eu hawyrennau ym maes awyr Canolbarth Cymru yn y Trallwng—. Bydd yn rhaid i rai o'r bobl sy'n defnyddio'r maes awyr hwnnw ddefnyddio awyrennau ar feysydd awyr yn Lloegr, a gallai hynny ddigwydd yn barhaol, ac, wrth gwrs, dyna'r pryder i'r maes awyr ac i mi. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni ymddiried mewn busnesau i wneud penderfyniadau drostyn nhw eu hunain ac o ran eu gallu i gydymffurfio â mesurau cadw pellter cymdeithasol.

Gan droi at rai materion eraill hefyd, rwy'n siŵr y bydd y gronfa cadernid economaidd yn achubiaeth i lawer o fusnesau, ond nid wyf yn credu bod arian yn cyrraedd y busnesau hynny'n ddigon cyflym nawr,. Rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog a fydd yn ymateb heddiw ddweud wrthym ni faint o fusnesau sydd wedi llwyddo i gael eu cyllid hyd yma o'r gronfa honno.

Ac rwy'n ymwybodol hefyd bod yna broblem gydag awdurdodau lleol ledled Cymru—mae rhai wedi bod yn rhoi eu grantiau ardrethi busnes yn llawer cyflymach nag eraill. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i unrhyw ymchwiliad cyhoeddus hefyd ystyried y gwahaniaeth yn y dull o weithredu rhwng gwahanol awdurdodau lleol ledled Cymru. Oherwydd mae cael yr arian hwnnw'n gyflym i fusnesau, fel y mae rhai awdurdodau lleol wedi'i wneud—gan gynnwys fy un i, a oedd wedi’i wneud yn dda iawn—yn mynd i fod o fantais fawr i'r busnesau hynny, ond nid felly mewn rhannau eraill o Gymru.

Felly, rwy'n credu, hefyd, gyda nifer o fesurau nawr— rydym ni'n sôn am ymchwiliad cyhoeddus yn y dyfodol—yn sicr, rwy'n credu bod bylchau sydd angen eu llenwi ac rwy'n credu ei bod hefyd yn hanfodol bod cam nesaf y gronfa cadernid economaidd yn cael ei symud ymlaen o'r dyddiad o 29 Mehefin yn enwedig. Ac rwy'n credu bod yna feysydd penodol o gymorth busnes y mae dal angen mynd i'r afael â nhw, a byddaf i'n mynd drwyddynt yn fyr: y bobl hunan-gyflogedig diweddar; masnachwyr unigol llai; perchenogion busnes nad ydyn nhw'n cyflogi unrhyw un arall, ond sy'n talu eu hunain mewn difidendau, nad ydyn nhw'n gwmnïau cyfyngedig; ac yn sicr, pecyn hirdymor ar gyfer y sector twristiaeth. Rydym wedi gweld hynny mewn rhannau eraill o'r DU, ond nid yma yng Nghymru. Felly, rwy'n credu y bydd yn rhaid i hynny fod yn rhan o ymchwiliad cyhoeddus hefyd. Ac, wrth gwrs, cymorth ardrethi busnes i'r busnesau hynny sy'n rhan o safle ehangach.

Felly, gan edrych i'r dyfodol, rwy'n credu hefyd y bydd yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddarparu pecyn parhaus o gymorth nad yw'n gyfyngedig i'r cyfyngiadau symud presennol. Ac er fy mod i'n gwerthfawrogi ein bod ni mewn cyfnod anghyffredin, rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru wneud llawer mwy i roi hwb i adferiad Cymru nawr. Fel arall, rwy'n credu y bydd busnesau Cymru ac economi Cymru dan anfantais sylweddol. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid i unrhyw ymchwiliad cyhoeddus ystyried sut rydym ni'n ymdrin â chymorth busnes nawr o'i gymharu, yn sicr, â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.  

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 5:15, 3 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddweud, yn gyntaf oll, nad oes gennyf i wrthwynebiad i'r syniad o ymchwiliad? Rwy'n credu na ellir osgoi hynny. Fe fydd yna gwestiynau y mae'n rhaid eu gofyn, a rhai cwestiynau y bydd angen ateb arnyn nhw. Rwyf i o'r farn fod hynny'n wir am bob un o lywodraethau'r DU. Felly, nid oes gennyf i unrhyw wrthwynebiad i gyfeiriad y cynnig, ond rwy'n amau'n gryf iawn nad hon yw'r ffordd iawn o wneud hynny.

Yn gyntaf, hyd y gwn i, nid oes gan y Senedd hon mo'r gallu i gychwyn ymchwiliad o dan Ddeddf Ymchwiliadau 2005, sef yr hyn yr wyf i'n credu i'r Aelodau awgrymu eu bod yn ei ddymuno. Ac nid wyf i'n credu ychwaith fod y ffaith ei fod yn nwylo'r Senedd hon yn ei gwneud yn llai, nac yn fwy annibynnol, nag y byddai pe bai yn nwylo'r Llywodraeth. Diogelir annibyniaeth yr ymchwiliad gan y barnwr neu'r sawl sy'n arwain yr ymchwiliad, nid y sawl sy'n ei sefydlu yn y lle cyntaf. Fe fyddai angen pleidlais ar y telerau a'r amodau, fe fyddai angen pleidlais ar y ffordd y byddai'r ymchwiliad yn cael ei sefydlu, ac fe fyddai yna bleidlais ar bwy fyddai cadeirydd yr ymchwiliad. Felly, nid wyf i'n credu ei bod hi'n realistig nac yn synhwyrol i hyn fod yn ffurfiol yn nwylo'r Senedd hon, er fy mod i'n derbyn y pwynt ei bod hi'n bosibl iawn y bydd angen trafodaeth yn y dyfodol rhwng y pleidiau o ran sut y gallai hyn weithio.

A gaf i ddweud, yn gyntaf oll, rhaid wynebu hyn, nad dadl mo hon am gael ymchwiliad? Dadl yw hon heddiw ar gyfer gwneud a sgorio pwyntiau gwleidyddol. Fe allwn innau hefyd eistedd yn y fan hon a dweud, 'Wel, ydym, rydym yn awyddus i wybod pam oedd Llywodraeth y DU mor gyndyn i atal pobl rhag dod i mewn i'r wlad? Pam cyflwyno'r rheol cwarantin o 14 diwrnod sy'n ymddatod ar hyn o bryd? Pam mae'n iawn teithio 260 milltir os ydych chi'n gynghorydd arbennig a 60 milltir arall i roi prawf ar eich llygaid os ydych chi'n gyrru? Pam, er enghraifft, ledled y DU, neu yn Lloegr yn hytrach, y cafwyd targed dyddiol o 100,000 o brofion a gafodd ei ollwng, oherwydd na chafodd y targed hwnnw ei gyrraedd? A hyd yn oed wedyn roedd hwnnw'n cynnwys profion, wrth gwrs, a oedd wedi cael eu hanfon allan ond na chafodd eu cwblhau mewn gwirionedd.' Mae pob math o gwestiynau sy'n gofyn am atebion. Ar gyfer y dyfodol y mae hynny.

Ond gadewch imi ganolbwyntio, ar ôl gwneud y pwyntiau hynny, ar yr agweddau cyfreithiol yn y cyswllt hwn a rhai ymarferol efallai. Nid dyma'r amser i ddechrau paratoi ar gyfer ymchwiliad. Rydym ynghanol argyfwng. Nid yw'n syniad da i swyddogion fod yn ystyried sefydlu ymchwiliad ar yr un pryd ag ymdrin â'r argyfwng gwaethaf a wynebodd unrhyw un ohonom erioed. Nid dyma'r amser i ddechrau ystyried sefydlu ymchwiliad i rywbeth nad yw wedi dod i ben hyd yn oed. Mae'n rhaid ichi gadw mewn cof ei bod yn bosibl—rydym ni'n gobeithio nad felly, ond mae'n bosibl—y gwelwn ni ail benllanw ym mis Hydref. Mae'n ddigon posibl y byddwn ni'n dal i ymdrin â hyn adeg y Nadolig. Ni ellir sefydlu ymchwiliad i adrodd erbyn mis Mawrth ar y mater hwn, hyd yn oed pe byddai hwnnw'n dechrau heddiw oherwydd—. Fe soniodd Adam Price am ymchwiliad Grenfell. Wel, fe ddechreuodd hwnnw ar ei waith ar 4 Mehefin 2018. Fe gymerodd 16 mis i lunio dim ond canfyddiadau rhagarweiniol i gam un. Fe gymerodd sawl mis i'w sefydlu. Nid yw'r pethau hyn yn digwydd dros nos; maen nhw'n cymryd amser maith iawn i'w sefydlu ac amser maith iawn i roi'r broses yn ei lle ac amser maith i glywed yr holl dystiolaeth. Nid oes gobaith o gwbl y bydd ymchwiliad cyhoeddus yn adrodd yn ôl cyn mis Mawrth. Gellid cael rhywbeth ffwrdd â hi, ond nid ymchwiliad cyhoeddus. Ni allai unrhyw ymchwiliad a fyddai'n cyflawni'r hyn y gofynnodd yr Aelodau amdano gyflwyno adroddiad erbyn hynny. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n werth gwneud y pwynt hwnnw.

O ran cynnig y Ceidwadwyr, wel, oni bai eich bod yn barod i ohirio'r etholiadau tan ddyddiad amhenodol, yna nid oes modd gwarantu y byddai'r canfyddiadau gyda ni erbyn mis Mawrth. Ni fyddai'r un barnwr rhesymol yn ystyried llywio ymchwiliad fel hwn pan fyddai rhywun y dweud wrtho, 'Bydd yn rhaid ichi gyflwyno eich tystiolaeth a llunio adroddiad mewn dau fis, i bob pwrpas.' Ni wnaiff hynny ddigwydd. Gadewch inni fod yn realistig: nid hon yw'r ffordd iawn. Er y cynhelir ymchwiliad rywbryd—nid wyf i'n amau hynny—nid oes unrhyw ffordd o allu gwneud hynny cyn mis Mawrth.

Fe fyddwn i'n annog y Ceidwadwyr yn y Cynulliad i beidio â chwarae gwleidyddiaeth yn hyn o beth. Rydym wedi gweld eu ASau nhw'n gwneud hynny—llythyr arall ddoe. Fe aeth hynny i lawr yn wael, credwch chi fi. Dro ar ôl tro, rwyf wedi clywed pobl yn dweud, 'Beth sydd a wnelo hyn â nhw?' a 'Pam maen nhw'n canolbwyntio ar hynny ac nid ar ymdrin â'r feirws?' Os ydyn nhw'n dymuno ysgrifennu eto, wel eu busnes nhw yw hynny. Ond, credwch chi fi, ni wna hynny unrhyw les o gwbl iddyn nhw.

Yr ail fater yw—rwy'n edrych ar y cloc, Llywydd—os bydd ymchwiliad o dan y Ddeddf Ymchwiliadau yng Nghymru yn unig, yna bydd yn rhaid iddo fod yn cydredeg ag ymchwiliad sy'n digwydd yn y DU. Cofiwch, nid wyf yn credu bod y pŵer yn bodoli, hyd yn oed ar ran Llywodraeth Cymru, i orfodi tystion o'r tu allan i'r meysydd datganoledig: yr heddlu, yr Asiantaeth Ffiniau, yr holl bobl hynny y byddai unrhyw ymchwiliad yng Nghymru yn awyddus i glywed ganddyn nhw, ond a fyddai'n gallu penderfynu, ar gyfarwyddyd o Lundain, i beidio â rhoi tystiolaeth, ac ni fyddai dim y gallem ni ei wneud yn ei gylch. Mae'n anochel, yn fy marn i, er mwyn cael y darlun llawnaf posibl, fod yn rhaid cael ymchwiliadau yn cydredeg yn Lloegr neu'r DU ac yng Nghymru ar yr un pryd er mwyn cael y math o atebion y byddai pobl yn awyddus i'w clywed.

Felly, i mi, mae'n rhaid dweud, nid oes gobaith cael unrhyw fath o ganfyddiadau erbyn mis Mawrth, hyd yn oed pe gallai ymchwiliad o'r fath ddechrau yfory nesaf, trwy ryw ryfedd wyrth. Yr hyn sy'n bwysig, wrth gwrs, yw tryloywder. Yr hyn sy'n bwysig yw bod ymchwiliad yn cael ei gynnal ar ryw adeg—nid wyf i'n amau hynny—ond mae'n rhaid iddo fod yn ymchwiliad llawn a phriodol ac nid yn rhyw fath o lys cangarŵ ar ras, oherwydd nid yw pobl Cymru yn haeddu dim llai na hyn.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 5:20, 3 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n diolch i'r Blaid Geidwadol am ddod â'r ddadl bwysig iawn hon i'r cyfarfod llawn, ac a gaf i adleisio'r sylwadau a wnaeth Joyce Watson ac Angela Burns ynglŷn â staff rheng flaen a'r gwaith y maen nhw wedi ei wneud drwy gydol yr epidemig coronafeirws hwn? Nid ydym yn sôn am ymchwiliad i'w hymddygiad nhw; rydym yn sôn am ymchwiliad i ymddygiad llywodraethau'r DU.

Mae'n bwysig inni ddangos i'r cyhoedd ein bod ni'n barod—a defnyddio'r ystrydeb honno y mae'r gwleidyddion yn hoff ohoni—i ddysgu gwersi. Rydym ni'n cefnogi'r cynnig hwn ac yn gobeithio y bydd y Senedd yn dangos aeddfedrwydd i gydnabod yr angen am ymchwiliad, nid ar gyfer pwyntio bys, ond i geisio dod o hyd i'r hyn a wnaed yn effeithiol—ac roedd yna lawer o bethau—ond i dderbyn bod llawer o bethau eraill y gellid bod wedi eu gwneud yn well nid yn unig gan Lywodraeth Cymru , ond gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd.

Mae'n hanfodol bwysig nad ydym ni'n gwneud yr un camgymeriadau y tro nesaf, ac mae gwyddoniaeth yn dweud wrthym y bydd argyfyngau o'r fath eto. Drwy gydol yr argyfwng hwn, dywedwyd lawer gwaith mae amseroedd digynsail yw'r rhain. Wel, nid yw hyn yn wir mewn gwirionedd—fe gafwyd rhybuddion mor ddiweddar â 2016. Rhybuddiodd Sefydliad Iechyd y Byd mai coronafeirws sy'n gysylltiedig â SARS a fyddai achos tebygol epidemig yn y dyfodol. Roedden nhw'n annog llywodraethau i gynllunio i gael profion diagnostig a datblygu brechlynnau. Ac eto ni wnaed dim am hynny. Fe wnaethom ni yn y DU fethu â rhoi cynlluniau ar waith i sicrhau bod holl asiantaethau'r GIG wedi cael eu harfogi â'r diogelwch angenrheidiol y byddai ei angen arnynt.

Mae'n anffodus bod gwleidyddiaeth ar ei gwaethaf wedi ymddangos mewn rhai agweddau ar y ffordd yr ymdriniwyd â'r argyfwng hwn. Roedd yr awydd ymddangosiadol yn y Llywodraethau datganoledig i fynnu eu hawdurdod eu hunain, ar brydiau, yn ymddangos fel ystryw i elwa ar ddiffygion Llywodraeth y DU, yn hytrach na gweithredu gydag unffurfiaeth ledled y gwledydd. Weithiau, roedd yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn ceisio ailgodi Clawdd Offa o ochr Cymru yn hytrach na gweithredu fel Llywodraeth ymrwymedig i'r Deyrnas Unedig.

Mae'r rhybuddion yno: fe fydd pandemigau fel hyn yn digwydd eto, ac o bosibl yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, sy'n golygu ei bod yn sylfaenol bwysig y bydd yna archwiliad o'r bôn i'r brig ynghylch pam roeddem ni mor gyndyn i baratoi er gwaethaf y rhybuddion. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am hynny i raddau helaeth, ond mae yna lawer o feysydd lle'r ydym ni yng Nghymru hefyd wedi bod yn wan.

Mae'n rhaid ei bod hi'n amlwg i bawb na all y wlad, unrhyw wlad mewn gwirionedd, roi cyfyngiadau symud llwyr yn y modd sydd gennym ni nawr, fel yr ydym ni'n tystio iddo, ar sail reolaidd. Mae'r costau economaidd yn rhy uchel o lawer. Bydd ieuenctid y wlad hon yn talu am y pandemig hwn mewn trethi uwch am flynyddoedd i ddod, am ddegawdau efallai. Bydd yn rhaid gwrthweithio'r pandemigau hyn mewn rhyw ffordd arall.

Mae'n ffaith mai dim ond trwy wyddoniaeth y byddwn ni'n gallu osgoi canlyniadau trychinebus pandemigau ar raddfa mor fyd-eang. O gofio bod gennym ni yma yng Nghymru rai o'r cyfleusterau gorau yn y byd ar gyfer ymchwil yn y meysydd hyn, mae angen i Lywodraeth Cymru ymrwymo i ariannu'r sefydliadau hynny a rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i ddarparu cyllid ledled y DU fel y gallwn ni yng Nghymru aros ar flaen y gad ym maes ymchwil o'r fath.

Llywydd, gwyddoniaeth, ac nid cyfyngiadau symud, yw'r unig ateb i bandemigau feirysol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Mark Isherwood, a wnewch chi aros am eiliad? Iawn, fe gewch chi ddechrau nawr, Mark.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wythnos diwethaf, fe ddywedodd Vaughan Gething fod safbwynt Llywodraeth Cymru ar reoli coronafeirws yn cael ei gefnogi gan fwyafrif llethol y cyhoedd,. Felly, gadewch i mi ddryllio eu camargraffiadau nhw drwy ddyfynnu o rai o'r cannoedd o negeseuon e-bost a anfonwyd ata i sy'n dweud yn wahanol. Ar ddechrau'r cyfyngiadau symud, gosodwyd yr olygfa gan bobl wedi'u hynysu yn dweud nad oedd nemor ddim gwybodaeth yn dod oddi wrth Lywodraeth Cymru; roedd y cyfan yn dod o San Steffan, a bod angen i Mr Drakeford, rwy'n dyfynnu, dynnu'r ewinedd o'r blew.

Ysgrifennodd Cymorth i Fenywod Cymru at y Dirprwy Weinidog i fynegi bod angen neilltuo arian ar frys i wasanaethau sy'n darparu cymorth ledled Cymru mewn achosion o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Er gwaethaf gohebiaeth flaenorol, roedden nhw'n dweud na chafodd hwnnw ei ddarparu hyd yma. Ddoe, dywedasant wrth y pwyllgor mai arian sy'n bodoli eisoes yw'r arian a gyhoeddwyd hyd yn hyn.

Ysgrifennodd Hourglass Cymru, sef yr hen Gweithredu ar Gam-drin Pobl Hŷn, i fynegi eu bod nhw'n wynebu argyfwng oherwydd maint y gefnogaeth y gofynnir iddyn nhw ei darparu. Wrth ymateb i alwad Llywodraeth Cymru am lonydd beicio dros dro a lledu palmentydd, ysgrifennodd Cŵn Tywys Cymru ac RNIB Cymru y gallai unrhyw elfen newydd annisgwyl ar y strydoedd eu rhoi nhw mewn perygl.

Pan godais i bryder RNIB Cymru fod pobl ddall neu rannol ddall yn cael trafferth wrth gael eu negeseuon bwyd, atebodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, mai dim ond y rhai a nodir fel unigolion a warchodir sy'n cael blaenoriaeth.

Ysgrifennodd busnesau gwely a brecwast, 'Rebecca Evans, os na chawn ni'r grant atodol, fe fydd ein busnes ni'n dod i ben. Mae'r sylwadau a wnaeth Ken Skates yn rhai sarhaus ac yn ein diystyru ni, yn y bôn, fel busnesau di-nod, dibwys sy'n chwarae ennill bywoliaeth'.

Ac, yn anffodus,

'Mae diffyg gweithredu gan Ken Skates yn cefnogi'r ddadl yn erbyn datganoli'.

Ysgrifennodd busnesau llety gwyliau i ddweud bod canllawiau Llywodraeth Cymru nid yn unig yn annheg, ond yn gwahaniaethu'n glir yn erbyn busnesau llety wyliau. Ni chafwyd unrhyw ymgynghori â'r diwydiant, ac, yn anffodus, mae ganddynt ddiffyg hyder amlwg yn ymateb Llywodraeth Cymru.

Ysgrifennodd busnes parc gwyliau, 'Mae'r rhain yn ddyddiau blin ac rwy'n ymbil dros ddyfodol fy musnes i. Fe wnes i gyflwyno cwestiwn ysgrifenedig brys i'r Prif Weinidog ar 30 Ebrill yn gofyn iddo ymateb i alwadau gan y British Holiday & Home Parks Association Ltd am gynllun arbennig i gefnogi busnesau twristiaeth yng Nghymru. Ar wahân i'r ymateb dros dro, ni chafwyd ateb hyd yn hyn'.

Ysgrifennodd practisau deintyddol i fynegi bod Lloegr, Iwerddon a'r Alban wedi dechrau cynllunio ar gyfer ailagor practisau deintyddol gyda phrotocolau newydd llym, ac nad oes unrhyw reswm pam na ddylid ailagor practisau deintyddol Cymru cyn gynted ag y byddan nhw wedi paratoi yn llawn.

Cartref nyrsio, a ysgrifennodd, 'Rwy'n pryderu'n ddirfawr ynglŷn â sut yr ymdriniwyd ag argaeledd cyfarpar diogelu personol a chynhyrchion hylendid iechyd yn y sector gofal ac mae'n dal i gael ei reoli'n chwerthinllyd,' ac ysgrifennodd eto i ddweud bod pump o'r trigolion wedi marw oherwydd COVID-19 ac nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyfrannu'r un ddimai goch hyd yma tuag at yr argyfwng COVID-19.

Ysgrifennodd etholwr,

'Mae gen i gyfaill a oedd i fod cael tynnu ei aren ddechrau mis Ebrill—oherwydd canser—ac fe gafodd hynny ei ohirio. Mae'n dal i ddisgwyl ac mae'n wael iawn erbyn hyn. Er gwneud dau gais, ni all fy ngwraig gael sgan na phelydr-x ar gyfer rhywbeth a allai fod yn ddifrifol'.

Ysgrifennodd practisau milfeddygol fod y proffesiwn milfeddygol wedi cael ei esgeuluso hyd yma. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £6.3 ar gyfer hosbisau, ond mae'n derbyn £12 miliwn o arian canlyniadol o ymrwymiad Llywodraeth y DU i ariannu hosbisau yn Lloegr, ac fe ysgrifennodd hosbisau,

'Nid ydym o hyd yn gwybod sut y gwnaiff Llywodraeth Cymru ddyrannu'r £5.7 miliwn ychwanegol, ond mae'n ymddangos yn annhebygol iawn y caiff hwnnw ei drosglwyddo. Pe byddai'r argyfwng yn para llawer mwy, yna fe fydd yr hosbisau mewn trafferthion'.

Mae e-byst diweddar yn cynnwys y canlynol.

'Fe'n siomwyd ni, fel y rhan fwyaf yn y diwydiant lletygarwch a thwristiaeth yng Nghymru, gan gyhoeddiad Mark Drakeford, nad ydyw'n cynnig fawr ddim gobaith i'n sector ni sydd eisoes wedi gweld difrod mawr'.

'Mae fy nghydweithwyr i sy'n gwerthu tai yn Lloegr yn hynod brysur erbyn hyn, ac yn helpu llawer iawn ar yr economi, tra ein bod ni yn y Gogledd yn parhau i fod â chyfyngiadau symud. Fe allem ni agor yn hawdd gyda mesurau ymbellhau cymdeithasol'.

'Gwan fu ymateb y Prif Weinidog, a dryslyd, ac yn sicr yn canolbwyntio ar Gaerdydd a'r De', a,

'Mae'n ddigon brawychus i fod yn byw drwy'r pandemig hwn, ond mae'r llanast a wnaeth Mark Drakeford a Vaughan Gething a'r lleill wrth reoli a gwleidyddoli'r argyfwng yn droseddol'.

Pob un o'r rhain yn ddyfyniadau gwirioneddol. Drwy geisio dirymu ein cynnig ni heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn dangos nad ydyn nhw byth yn wir wedi dirnad y sefyllfa.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:29, 3 Mehefin 2020

Gaf i ddweud i ddechrau ei bod hi'n bwysig iawn, dwi'n meddwl, cael y balans yn iawn yn ein sgrwtini rhwng edrych ar beth sydd wedi digwydd yn ystod y pandemig yma ac edrych ymlaen ar y camau sy'n dal angen eu datblygu er mwyn gwarchod y cyhoedd. Dwi wedi clywed rhai'n awgrymu eto heddiw beth bynnag sydd wedi digwydd, pa bynnag gamgymeriadau gafodd eu gwneud gan Lywodraethau, wel, dyna ni, mi gawn ni ofyn hynny rywbryd eto; canolbwyntiwch yn unig ar beth all gael ei wneud rŵan.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:30, 3 Mehefin 2020

Yn gyntaf, mae'r rhai sydd yn gwneud sylw fel yna, dwi'n meddwl, yn amlwg yn cymryd yn ganiataol y bydd yna ymchwiliad, ac mi fydd yna, fel y dywedodd Adam Price yn gynharach, does yna ddim cwestiwn ynglŷn â'r angen am ymchwiliad. A dweud y gwir, mi fydd angen ymchwiliadau ar sawl lefel. Ond, dwi ddim yn meddwl bod modd gwahanu cweit mor hawdd â hynny yr hyn sydd wedi digwydd efo beth sydd ar ôl i'w ddysgu a beth sydd ar ôl i'w wneud. Y cynharaf dŷn ni'n gallu dysgu rhai gwersi, y gorau, achos mae'r pandemig yn parhau ac mi fydd efo ni am sbel; mae'r risg yn dal yn sylweddol ac mi fydd am sbel. Mae yna sôn, wrth gwrs, am o leiaf ail begwn o'r pandemig yn y misoedd i ddod, a dyna pam y gwnaeth Plaid Cymru gynnig wythnosau yn ôl erbyn hyn y dylai'r gwaith ar sefydlu ymchwiliad wedi'i arwain gan farnwr ddechrau ar unwaith, a bod gwerth gwirioneddol i hynny, yn ychwanegol wrth gwrs at y gwaith sgrwtini dŷn ni'n ei wneud fel Senedd.

Yr awgrym gan y Llywodraeth, yr awgrym gafodd ei wneud gan y Prif Weinidog heddiw, oedd y buasai barnwr a'i dîm yn mynd o dan draed rywsut, yn cael yn y ffordd, yn amharu ar y gwaith ymarferol o frwydro pandemig. Dwi'n ddigon hyderus y byddai tîm ymchwil yn gallu gweithredu mewn ffordd sydd nid yn unig ddim yn ymyrryd efo'r gwaith, ond fyddai'n gallu helpu yn yr hir dymor drwy gael gwybodaeth real-time o beth sy'n digwydd.

Does neb yn awgrymu bod sgrwtini ganddon ni yn cael yn ffordd y gwaith o ddelio efo'r pandemig; mae sgrwtini yn bwysig. Mi fyddai ymchwiliad o'r math yr ŷm ni'n sôn amdano yn gallu cynnig canllawiau ar gyfer unrhyw bandemig arall; hefyd, dim cweit mewn real time yn y ffordd dŷn ni'n ei wneud o fel Senedd, ond i amserlen llawer, llawer tynnach nag y mae'r Llywodraeth i weld yn dymuno'i weld yn digwydd, ac y byddai yna adborth yn dod yn ôl ar gyfer tonnau neu peaks hwyrach o'r pandemig yma.

Mi fyddai angen, wrth gwrs, ymchwiliadau i fethiannau hysbys iawn Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhedeg ochr yn ochr efo heddiw. Dwi'n gobeithio cawn ni gefnogaeth i welliant 4 yn enw Siân Gwenllian heddiw, sy'n gwneud y pwynt hwnnw, ond sôn ydyn ni fan hyn am edrych ar ymateb Llywodraeth Cymru, yn benodol, yn ogystal â'r cydlynu sydd wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, a Whitehall. Dŷn ni ym Mhlaid Cymru, fel dŷn ni wedi clywed, wedi comisiynu a chyhoeddi gwaith ymchwil yn barod sy'n adnabod nifer fawr o gwestiynau eithaf sylfaenol, ac mae rhai o'r rheini yn berthnasol er mwyn dysgu gwersi o fewn y pandemig ar gyfer peaks eraill. Os oedd Llywodraeth Cymru wedi methu â dysgu gwersi o operation Cygnus yn 2016 cyn dechrau'r pandemig yma, ydyn nhw o leiaf yn gallu dangos eu bod nhw wedi dysgu ohonyn nhw erbyn rŵan?

Mi fydd angen gwybod pa effaith a gafodd teithio rhyngwladol i mewn i Gymru ar ddechrau’r pandemig yma er mwyn gwybod pa effaith all hynny gael ar ail don bosib, pan fydd teithio rhyngwladol wedi dechrau mwy yn sicr nag y mae o ar hyn o bryd. Mae angen dysgu o'r arafwch oedd yna i godi'r lefel risg er mwyn gallu ymateb yn gynt y tro nesaf. Mae yna dystiolaeth glir bod lockdown wedi ei alw yn rhy hwyr; mi all fod angen galw lockdown eto yn y dyfodol, a'r tro yma, byddai angen gwneud yn gynt. Mi allai'r mathau yna o benderfyniadau fod angen eu gwneud o fewn misoedd, felly mae pobl angen hyder bod gwersi wedi cael eu dysgu'n barod.

Mi benderfynodd Llywodraeth Cymru i beidio dilyn rhai o ganllawiau mwyaf sylfaenol y WHO. Dŷn ni angen gwybod pam, a phryd maen nhw'n meddwl mai canllawiau'r WHO ydy'r rhai i'w dilyn, a phryd dŷn nhw ddim. Nid er mwyn gallu pwyntio'r bys rywbryd yn y dyfodol pell, ond er mwyn gallu dysgu gwersi rŵan. Mae yna gwestiynau am strategaeth gyfathrebu'r Llywodraeth am sut i roi hyder i bobl mewn prosesau rhannu PPE, er enghraifft; hynny ydy, hyd yn oed os ydy'r Llywodraeth yn hyderus, 'Ydyn, dŷn ni wedi dysgu gwersi o'r dyddiau cynnar,' mae yna fudd go iawn mewn rhoi'r hyder yna i'r cyhoedd, ac wrth gwrs i weithwyr allweddol. Mi allwn i fynd ymlaen; y pethau byr dymor rydyn ni eisiau atebion iddyn nhw ydy'r rheina. Pan ddaw hi i'r tymor canolig a'r hir dymor, wrth gwrs, mae'r rhestr o gwestiynau yn llawer, llawer hirach: beth aeth o'i le efo profi? Beth aeth o'i le efo PPE a'r paratoi am bandemig o'r math yma ac ati? 

Dŷn ni angen ymchwiliad wedi'i arwain gan farnwr. Dŷn ni angen iddo fo ddechrau cyn gynted â phosibl. Dŷn ni angen iddo fo adrodd yn ôl mewn ffyrdd interim yn fuan er mwyn dysgu gwersi yn fuan, er y bydd ymchwiliad llawn, wrth gwrs, yn cymryd hirach, a dyna pam cyflwyno gwelliant 3 heddiw. Mae angen ymrwymiad digwestiwn y Llywodraeth, dwi'n meddwl, i hynny, er mwyn rhoi, fel dwi'n dweud, hyder i'r cyhoedd.

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 5:35, 3 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid cael ymchwiliad cyhoeddus sy'n annibynnol. Mae'n ddyletswydd arnom oherwydd y rhai a fu farw ac i'r staff rheng flaen sydd wedi rhoi eu bywydau yn y fantol yn yr argyfwng hwn. Ond, rwy'n credu bod yn rhaid i hynny fod ar sail y pedair gwlad, gan gynnwys archwiliad trwyadl o'r ymdriniaeth yng Nghymru, ac oherwydd i'r holl benderfyniadau cychwynnol allweddol gael eu gwneud ar sail y pedair gwlad. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi dweud droeon, fe ddechreuwyd ar y cyfyngiadau symud ar yr un pryd ac mae eisiau inni ddod â'r cyfyngiadau hynny i ben gyda'n gilydd os oes modd, ac yna fe ddylem ddysgu'r gwersi gyda'n gilydd hefyd.

Y cwestiwn cyntaf y dylai unrhyw ymchwiliad cyhoeddus edrych arno yw pam na ddigwyddodd y cyfyngiadau symud yn gynharach. Fe fydd y lluniau hynny o ŵyl Cheltenham wedi eu serio ar feddyliau'r cyhoedd am flynyddoedd i ddod. Fel y dywedodd Angela Burns, yng Nghymru, roedd gennym gyngerdd mawr gan y Stereophonics, ac yng Ngwent, gêm rygbi fawr rhwng y Dreigiau a Benetton ychydig ddyddiau cyn y cyfyngiadau symud. Roeddem yn gallu gweld yr hyn a oedd yn digwydd yng ngweddill Ewrop, ac mae'n amlwg bod newid cyfeiriad wedi digwydd, ond yn rhy hwyr yn fy marn i. Mae'r cwestiynau hyn a rhai eraill yn haeddu atebion, ac atebion gwirioneddol o ran hynny, nid y math yr ydym ni'n gyfarwydd â gweld Matt Hancock yn eu rhoi yn y sesiynau briffio dyddiol i'r wasg.

Rydym ni ymhell i ffwrdd o fod yn barod i gynnal ymchwiliad priodol. Mae angen canolbwyntio heddiw, yfory ac yn y dyfodol rhagweladwy ar achub bywydau, gan leihau effaith COVID-19 ar ein cymunedau a chyflwyno normalrwydd newydd yn ddiogel yn ein bywydau ni i gyd. Yn ôl unrhyw fesur, rydym ymhell i ffwrdd o sicrhau hynny. Nid wyf i, felly, am gefnogi cynnig y Torïaid heddiw, na allasai fod yn fwy digywilydd yn ei wleidyddiaeth pe byddai wedi ei ysgrifennu mewn geiriau glas a'i selio â rhosglwm glas. Drwy nodi'r etholiad nesaf fel dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad, rydych chi'n dweud, yn syml, eich bod chi'n dymuno gwneud hon yn frwydr wleidyddol, ac nid yn ymarfer dysgu gwirioneddol a fydd yn achub bywydau. Fe fyddai tynnu sylw oddi wrth y bobl hynny sy'n brwydro yn erbyn y pandemig ar hyn o bryd drwy eu cael nhw i mewn i sefyllfa o ymchwiliad cyhoeddus nawr, wrth i'r pandemig barhau i fod yn angheuol, yn resynus o anghyfrifol. Fe fyddai'n debyg i gadw awyrennau Spitfire a Hurricane ar y ddaear ynghanol y Battle of Britain ar gyfer trafod cynlluniau hyfforddiant peilotiaid i'r dyfodol.

Oes, mae yna bethau y gallwn ni eu dysgu wrth fynd ymlaen, ac mae gan bwyllgorau'r Cynulliad swyddogaeth hanfodol wrth graffu ar yr ymateb i'r COVID ar sail barhaus. Rwy'n falch fod y ddau bwyllgor yr wyf i arnyn nhw wedi ymrwymo i wneud hynny mewn ffordd egnïol. Nid oes dim synnwyr yn fy meddwl i fod unrhyw un yn ffoi rhag craffu. Yn wir, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i wrando'n ofalus ar farn y pwyllgorau, ac anwesu ein hargymhellion ni'n wirioneddol fel cyfle i ychwanegu gwerth a gwella'r ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Un o'r unig bethau synhwyrol a ddywedodd Dominic Cummings erioed oedd ei fod ef wedi gwneud camgymeriadau'n ddyddiol yn ystod yr argyfwng hwn. Ac felly, do, fe fu camgymeriadau yng Nghymru hefyd, ac mae'n rhaid inni ddysgu oddi wrthyn nhw. Ond nid oes un foment wedi bod yn y pandemig hwn y bu i mi amau am eiliad hyd yn oed nad prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru oedd diogelwch fy etholwyr i a phawb arall yng Nghymru. Nid yw hynny'n rhywbeth y gallai neb ei ddweud mewn difrif am Lywodraeth y DU, ac rwy'n credu y dylem weld y cynnig hwn heddiw am yr hyn ydyw—ymgais ryfygus i dynnu sylw oddi wrth hynny. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:39, 3 Mehefin 2020

Y Cwnsel Cyffredinol, Jeremy Miles. Dyna ni, Jeremy Miles. 

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour

Diolch, Llywydd. Gaf i ddechrau gan fod yn gwbl ddiamwys ar y cwestiwn canolog wrth wraidd y cynnig? Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi sefydlu ymchwiliad cyhoeddus ac annibynnol a fydd yn gallu edrych ar sut yr ydyn ni ac eraill wedi ymateb i'r pandemig hwn. Mae'r amgylchiadau mae pob un ohonom ni wedi bod yn byw trwyddyn nhw yn ystod y misoedd diwethaf mor arwyddocaol fel y bydd hynny yn gwbl briodol ac yn angenrheidiol.

Mae coronafeirws wedi effeithio ar bob rhan o'r Deyrnas Gyfunol a'r byd i gyd mewn gwahanol ffyrdd. Does dim amheuaeth bod gwersi i'w dysgu, pethau y gallwn ni eu gwella, a chamau y gallwn ni eu cymryd i ddiogelu pobl yma yng Nghymru yn y dyfodol.

Y flaenoriaeth bresennol, wrth gwrs, yw inni ganolbwyntio ar ymateb i'r argyfwng, ac rwy'n achub ar y cyfle i danlinellu ein neges i bobl Cymru. Fe wnaeth y Prif Weinidog gyhoeddi canlyniad ein hadolygiad un diwrnod ar hugain ddiweddaraf ddydd Gwener. Rŷn ni'n gwybod pa mor bwysig yw hi i bobl Cymru allu cwrdd â'u ffrindiau a'u teulu, ac rŷn ni'n gwybod mai ychydig iawn o sgôp sydd i lacio'r cyfyngiadau. Rydyn ni wedi dewis llacio'r cyfyngiadau yn ofalus i ganiatáu mwy o ymweliadau lleol, gan ddefnyddio ardal o 5 milltir fel canllaw i bobl allu dechrau gweld ffrindiau a theulu unwaith eto.

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 5:41, 3 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Llywydd, rydym yn parhau i fod, mewn llawer ffordd, yn nyddiau cynnar yr achos hwn o coronafeirws. Hyd nes y cawn ni feddyginiaethau effeithiol ac, ymhen amser, gobeithio, frechlyn effeithiol, fe fydd yn rhaid inni ganolbwyntio ar ymdrin â choronafeirws fel argyfwng iechyd cyhoeddus.

Mae'r cynnig yn nodi nad yn awr yw'r amser i gynnal unrhyw ymchwiliad, a bod y bobl a fyddai'n rhoi tystiolaeth i ymchwiliad yn canolbwyntio'n llwyr ar ymgodymu â'r argyfwng presennol, ac rwy'n disgwyl y bydd hynny'n wir am gryn amser eto. Fe wyddom ni, o brofiad pandemigau eraill, ei bod yn ddigon posibl y byddwn wedi cyrraedd y flwyddyn nesaf cyn inni allu dweud gyda hyder ein bod wedi cefnu ar y gwaethaf; ond amser a ddengys wrth inni drafod heddiw.

Mae'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb, ac wedi gwneud hynny, yn destun balchder i mi ac rwy'n ddiolchgar i bobl Cymru am eu hymateb nhw. Mewn nifer o ffyrdd, mae'r argyfwng hwn wedi ennyn y gorau ym mhobl pob un o'n cymunedau ni wrth iddyn nhw wynebu'r adfyd hwn gyda'i gilydd. Ond, wrth gwrs, mae yna wersi i'w dysgu a meysydd i'w gwella, ac rydym yn cymryd camau o fewn Llywodraeth Cymru i wneud hynny o ddydd i ddydd ac o wythnos i wythnos wrth ganolbwyntio ar ymateb i'r argyfwng.

Llywydd, mae angen sefydlu ymchwiliad annibynnol. Fe ddylai hwnnw ddigwydd ar yr amser priodol, a dyma'r egwyddorion allweddol a ddylai fod yn ein tywys ni wrth ei sefydlu: bydd ymchwiliad yn fwyaf effeithiol o ran deall y digwyddiadau a'r camau a gymerwyd, pe bai'n cynnwys holl weinyddiaethau'r DU. Mae'r pandemig hwn wedi effeithio ar bob rhan o'r DU, a gwnaed llawer o benderfyniadau ledled y pedair gwlad. Mae llawer o'r ymateb i'r pandemig wedi ei reoli, a hynny'n briodol, ar lefel y DU, ac mae wedi cynnwys nifer o bobl eraill ynghyd â Llywodraethau. Felly mae'n bwysig inni gael dull cydgysylltiedig o ymdrin â'r ymchwiliad, gan Lywodraeth y DU, gan y Llywodraethau datganoledig ac eraill. Fe fyddem ni'n gobeithio y gellid cyflawni hynny, ond os na, fe fyddem ni'n amlwg yn bodloni ar ymchwiliad sy'n gyfyngedig i ddigwyddiadau a chamau gweithredu yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, bydd y Senedd yn parhau i graffu ar Lywodraeth Cymru a'i chamau gweithredu parhaus i fynd i'r afael â'r argyfwng, fel y gwnaeth heddiw, ac rwy'n gwybod y bydd yr Aelodau'n deall pam nad wyf yn bwriadu rhoi sylw i bob un o'r pwyntiau penodol a wnaed am y camau a gymerwyd yn ystod y ddadl.

Fe ddylid cytuno ar arweinyddiaeth yr ymchwiliad rhwng holl weinyddiaethau'r DU. Ni ddylai gael ei orfodi ar, na chan, neb ohonom ni. Rydym yn cytuno y dylai'r ymchwiliad fod yn un annibynnol. Rwy'n awyddus i fod yn glir nad ydym ni'n gwrthwynebu, o ran egwyddor, unrhyw ymchwiliad wedi ei lywio gan farnwr, ond mae hynny'n gofyn am drafodaethau gydag eraill ac mae'n dod gydag ambell i gyfyngiad yn ei sgil. Mae rhai pleidiau wedi galw am gael epidemiolegydd i lywio unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol, ac mae hwn yn fater i'w ystyried yn ystod y misoedd nesaf.

Bydd yr unigolyn a ddewisir i arwain yr ymchwiliad yn awyddus iawn i fod â rhan yn y gwaith o bennu'r telerau. Fe ddylai'r rhain ystyried Llywodraeth ond agweddau eraill hefyd, fel bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r ymateb yn ei gyfanrwydd. Bydd angen i'r ymchwiliad barchu cymhwysedd datganoledig y Senedd hon a phob rhan o'r DU. Fe ddylai ddechrau, adrodd a dod i gasgliad yn yr amserau y gall ymgymryd â'i waith o ymchwilio a chraffu yn y ffordd fwyaf effeithiol. Ni ddylem geisio rhagbennu heddiw pryd y gallai hynny fod.

Yn hanfodol i fater amseru fydd yr angen i ystyried y broses barhaus o reoli argyfwng. Wrth i'r haf droi'n aeaf, mae'n bosibl iawn y byddwn ni'n ymdrin â phenllanw arall a phwysau eraill oherwydd y gaeaf, ac rwy'n gwybod y bydd yr Aelodau yn cytuno y bydd angen i'r rhai sy'n gweithio ar y rheng flaen, wrth gwrs, allu gwneud eu gwaith heb gael eu llesteirio gan bwysau eraill. Yn yr un modd, fe fydd yr ymchwiliad yn haeddu'r sylw llawnaf gan y rhai sy'n rhoi tystiolaeth iddo, ac rwy'n rhagweld y bydd y sawl sy'n arwain yr ymchwiliad yn dymuno ystyried dull gweithredu sy'n caniatáu hynny.

Gan droi'n fyr at y cynnig gwreiddiol, rwyf wedi nodi'r egwyddorion, yn ein barn ni, a ddylai dywys y broses o sefydlu ymchwiliad. Mae ein gwelliannau ninnau'n gyson â'r rhain, ac rwy'n gwahodd yr Aelodau i'w cefnogi nhw. Er ein bod ni'n cytuno â diben y gwelliannau yn enw Siân Gwenllian, mae'n amhosibl i'r Llywodraeth eu cefnogi heddiw, gan eu bod nhw'n pennu amserau ar gyfer adroddiad yr ymchwiliad a phenodi'r arweinyddiaeth, ac mae'n rhy gynnar i fod mor gyfarwyddol. Mae'n rhaid inni geisio cytuno yn gyntaf ar ddull sy'n cynnwys y DU gyfan a rhoi arweiniad wedyn i'r ymchwiliad annibynnol maes o law.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:45, 3 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Janet Finch-Saunders i ymateb i'r ddadl.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae cost enfawr i'r pandemig yng Nghymru. Mae dwy fil, un cant a dau ddeg dau o unigolion wedi colli eu bywydau hyd yn hyn, yn anffodus, ac mae'r sefyllfa ymhell o fod dan reolaeth, neu wedi ei ffrwyno hyd yn oed. Nid oes angen i neb edrych ymhellach nag yma yn y Gogledd, sydd ag 635.7 o achosion i bob 100,000 o'r boblogaeth, gyda llawer mwy o brofion yn angenrheidiol. Mae etholwyr gyda phob rheswm yn amau a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud popeth sy'n bosibl i'w cefnogi nhw.

Ydym, rydym yn wynebu amgylchiadau na welwyd eu tebyg o'r blaen, ond mewn democratiaeth wirioneddol ac iach, mae'n rhaid i'r mesurau a gymerir gan y Llywodraeth hon fod yn agored i dryloywder a chraffu. Mae hynny'n amlwg o wrando ar rai o'r cyfraniadau i'r ddadl bwysig hon. Angela Burns—diffyg cyfarpar diogelu personol, methiant i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cartrefi gofal ni, trefn brofi afreolus, diffyg casglu data. Russ George ar y problemau sy'n wynebu ein busnesau ni gyda negeseuon cymysglyd, dryswch ynghylch cymorth ariannol a'r difrod enfawr i'n heconomi leol.

Mae'r profi wedi bod yn annibendod ac mae'n parhau i fod felly. Er gwaethaf targedau'r Llywodraeth ei hunan o 5,000 a 9,000 o brofion y dydd, dim ond 2,492 yr ydym ni'n llwyddo i'w cwblhau; oedi difrifol wrth brofi ein preswylwyr mewn cartrefi gofal sy'n symptomatig a'r rhai sy'n dychwelyd o'r ysbyty i gartrefi gofal, gyda gweithwyr cartref gofal sy'n symptomatig yn achosi risg enfawr; ac yna sgandal y cyhoeddiad ynglŷn â phrofi cyffredinol ar gyfer cartrefi gofal a wnaed ddim ond ar 16 Mai, a hynny er gwaethaf llawer o alwadau amlwg, gennym ni hyd yn oed, fod angen i hyn ddigwydd yn gynt er mwyn diogelu'r rhai sydd fwyaf agored i niwed. Yn anffodus, maen nhw wedi cael eu siomi.

Torrodd un o'm hetholwyr i, a oedd yn 94 oed, ei chlun wrth syrthio a mynd i mewn i Ysbyty Glan Clwyd, lle daliodd hi'r COVID-19 ac fe gollodd hi'r dydd wedi hynny. Roedd eraill dan bwysau i lofnodi ffurflenni 'peidiwch ag adfywio'. Roedd elusennau canser yn pryderu nad yw Cymru yn agor canolfannau canser sy'n rhydd o COVID-19, fel sy'n digwydd yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Anfonwyd tair mil ar ddeg o lythyrau i'r unigolion a warchodir sydd fwyaf agored i niwed i'r cyfeiriadau anghywir. Cyhoeddiadau camarweiniol gan Lywodraeth Cymru: £40 miliwn ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion ar 17 Ebrill—y gwirionedd: nid yw hyn ond yn ymwneud â gofal cymdeithasol i oedolion a gomisiynir gan yr awdurdod lleol yn unig. A £500 o fonws i staff gofal a gyhoeddwyd ar 1 Mai—y gwirionedd: ni fydd pawb sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol yn cael y bonws hwn, ac fe fydd y rhai sy'n ei gael yn ei weld yn lleihau drwy drethiant a'i effaith ar fudd-daliadau, am nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei gwaith cartref yn hyn o beth cyn ei gyhoeddi. Cyhoeddiad ar 6 Mai o £26 miliwn i gefnogi ein helusennau bach—mae ansicrwydd mawr o hyd ynghylch sut y bydd hyn yn cael ei ddyrannu ac i bwy. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gyfrifol am anfon negeseuon cymysg ynglŷn ag addysg, hunanynysu a chymorth i fusnesau.

Rwyf am bwysleisio y byddwn ni'n gwrthod y gwelliant gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd. Mae ei gwelliant a'i hawgrymiadau i hepgor 'A benodir gan Lywodraeth Cymru ac a arweinir gan farnwr' yn dweud y cwbl ac yn arwydd o ymgais i gilio'n llwyr oddi wrth graffu a her annibynnol. Mae'r awydd i ddileu'r targed gwirioneddol a bennwyd yn dangos anallu llwyr i dderbyn cael eu barnu. Yn rhy aml yn y Senedd hon, yn fy amser i'n Aelod yma, dros y naw mlynedd diwethaf, mae ymchwiliadau difrifol wedi cael eu comisiynu cyn hyn, ond ni chawsant erioed eu cwblhau. Yn awr, gydag argyfwng byd-eang fel hwn, sy'n gofyn am arweiniad cryf a thryloyw gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, yr unig ffordd o geisio'r gwirionedd a chael atebion gonest yw dim llai nag ymchwiliad annibynnol, a benodir gan y Senedd, ac a arweinir gan farnwr, ac mae'n rhaid i hwn, iddo fod yn deg, gael ei gyflwyno cyn yr etholiadau i'r Senedd fis Mai nesaf. Fel y dywedwyd yn gynharach yn y ddadl hon, mae'r rhai sydd, yn anffodus, wedi colli eu bywydau, a'u teuluoedd nhw, y rhai sydd wedi gweithio'n galed ym meysydd gofal cymdeithasol a'r GIG a gwasanaethau eraill ledled Cymru—maen nhw'n haeddu hynny. Yn y pen draw, bydd ymchwiliad annibynnol yn cynnig y tryloywder yr ydym ni i gyd yn ei geisio, ac rwy'n gofyn ac yn ymbil ar Lywodraeth Lafur Cymru i beidio ag osgoi'r cyfrifoldeb mwyaf sydd ganddyn nhw, sef rhoi cyfle i graffu a herio hyd yr eithaf. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:51, 3 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Y cynnig yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes yna wrthwynebiad? A oes yna wrthwynebiad i gytuno ar y cynnig heb ei ddiwygio? [Gwrthwynebiad.] Oes, rwy'n credu y gallaf i weld gwrthwynebiad—neu ei glywed, beth bynnag. Nid oeddwn i'n gallu gweld yn hollol pwy oedd yn gwrthwynebu. Ond rwy'n clywed gwrthwynebiad, ac felly fe fyddwn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio, sy'n dod nawr.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.