Part of the debate – Senedd Cymru am 5:03 pm ar 3 Mehefin 2020.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwyf i eisiau dweud bod cymaint i'r ymchwiliad hwn ei ystyried. Mae'n hanfodol ein bod ni'n dysgu'r gwersi wrth symud ymlaen. Nid hwn fydd y pandemig olaf y bydd yn rhaid inni ei wynebu yng Nghymru. Mae angen yr etifeddiaeth honno arnom ni i amddiffyn Cymru, ein plant ni a'u plant nhw.