Part of the debate – Senedd Cymru am 11:11 am ar 10 Mehefin 2020.
Brif Weinidog, rwy'n croesawu'n fawr eich sylwadau ar ddiwedd eich datganiad a hoffwn i ddychwelyd at y cwestiwn o'r goblygiadau i ni yng Nghymru o'r digwyddiadau erchyll diweddar yn yr Unol Daleithiau. Mae pwy rydym ni'n coffáu o'r gorffennol yn adlewyrchu'n gwerthoedd ni heddiw fel cymdeithas. Fyddai fe'n briodol, felly, yn eich tyb chi, Brif Weinidog, i gynnal adolygiad drwy Gymru gyfan, fel sydd yn digwydd nawr ar draws Llundain, i sicrhau nad ŷm ni mewn unrhyw fodd yn cael ein gweld yn dathlu caethwasiaeth, trefedigaethedd neu hiliaeth yn ein cofebau cenedlaethol neu leol?