Mercher, 10 Mehefin 2020
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 10:59 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso i bawb i'r Cyfarfod Llawn. Cyn inni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru yn...
Yr eitem gyntaf, felly, ar yr agenda yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny, Rebecca Evans.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar y coronafeirws. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad. Mark Drakeford.
Yr eitem nesaf fyddai'r cwestiynau amserol, ond does dim cwestiynau amserol heddiw, ac felly rŷm ni'n torri nawr am gyfnod o awr, ac felly mi wnawn ni ailgychwyn am 13:20. Diolch i'r Aelodau.
Wel, prynhawn da, bawb. Croeso nôl ar ôl yr egwyl. Symudwn at agenda'r Cyfarfod Llawn gydag eitem 4, sef datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: ymateb i'r...
Symudwn yn awr at eitem 5, sef datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ar y coronafeirws, COVID-19, a galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan.
Yr eitem nesaf yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol. Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gyflwyno'r cynnig—Julie James.
Yr eitem nesaf yw'r cynnig i ddirymu Rheoliadau Llywodraeth Leol (Coronafeirws) (Gohirio Etholiadau) (Cymru) 2020. Galwaf ar Suzy Davies i gyflwyno'r cynnig hwn. Suzy.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, gwelliannau 2, 3, 4 a 5 yn enw Darren Millar, a gwelliant 6 yn enw Neil McEvoy. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2,...
A dyma ni yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Fel y nodir ar agenda'r Aelodau, cynhelir y pleidleisiau heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11. Caiff pob grŵp gwleidyddol enwebu un aelod...
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia