Part of the debate – Senedd Cymru am 11:18 am ar 10 Mehefin 2020.
Wel, Lywydd, rwy'n rhannu'r gobaith hwnnw sydd gan bobl yng Nghymru y byddwn mewn sefyllfa erbyn diwedd yr wythnos nesaf i lacio mwy ar rai o'r cyfyngiadau y mae pob un ohonom wedi gorfod cadw atynt ers bron i dri mis bellach. Sut y byddwn yn gwybod a yw'n bosibl gwneud hynny? Wel, bydd yn dibynnu ar lefel cylchrediad y feirws yma yng Nghymru, a bydd ystod o arwyddion y gallwn eu defnyddio i ddweud wrthym a oes gennym le i allu llacio’r cyfyngiadau hynny ymhellach. Bydd y rhif R yn un arwydd, ond bydd rhai o'r pethau y cyfeiriais atynt yn fy natganiad yn berthnasol hefyd, Lywydd.
Felly, er mwyn rhoi math gwahanol o ffon fesur i chi, mewn ymateb i gwestiwn arweinydd yr wrthblaid, pan ddechreuodd y cyfyngiadau symud tua diwedd mis Mawrth, roedd 400 o achosion newydd o'r coronafeirws wedi'u cadarnhau yng Nghymru ar unrhyw ddiwrnod penodol, ac roedd y nifer honno'n codi. Saith wythnos yn ôl, pan ddechreuasom godi rhai o'r cyfyngiadau am y tro cyntaf, roedd y nifer wedi gostwng i oddeutu 100 y dydd, ac yn parhau i ostwng, a bu hynny'n gymorth i greu lle i ddechrau'r broses. Wrth inni ddechrau'r wythnos hon, mae'r ffigur oddeutu 50 o achosion newydd wedi'u cadarnhau bob dydd, ac mae'r nifer yn parhau i ostwng. Felly, mae’r tebygolrwydd y byddwch yn cyfarfod â rhywun sy'n dioddef o'r coronafeirws wrth i chi adael eich cartref eich hun oddeutu un rhan o wyth o’r hyn ydoedd pan gyflwynwyd y cyfyngiadau symud. Ac mae honno’n ffordd o geisio esbonio i bobl pam ei bod yn bosibl cynnig mwy o ryddid i bobl.
Ond yr ail beth y byddwn yn parhau i orfod ei bwysleisio i bobl yw bod yn rhaid iddynt arfer y rhyddid hwnnw’n ofalus iawn, oherwydd hyd yn oed os mai dim ond 50 o achosion newydd sy’n cael eu cadarnhau bob dydd, nid oes gennych unrhyw ffordd o wybod wrth i chi adael eich cartref a fyddwch yn dod i gysylltiad ag un o'r 50 o bobl hynny. Felly, cadw pellter cymdeithasol, hylendid dwylo, defnyddio gorchuddion wyneb, a gorchuddion wyneb anfeddygol ar drafnidiaeth gyhoeddus, mae'r holl bethau hynny'n bethau y mae'n rhaid inni eu gwneud o hyd, hyd yn oed wrth i ni lacio’r cyfyngiadau symud, er mwyn parhau i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â'r feirws, ein bod yn creu mwy o le i weithio, fel y bydd pethau eraill y gallwn eu gwneud ar ddiwedd cyfnod arall o dair wythnos i helpu i barhau â’n bywydau mewn ffordd debycach i'r hyn a fodolai cyn y feirws.