Part of the debate – Senedd Cymru am 11:43 am ar 10 Mehefin 2020.
I ddweud i ddechrau, Llywydd, wrth gwrs rŷm ni'n awyddus fel Llywodraeth i weld mwy o wasanaethau yn y maes sylfaenol yn tyfu, ac mae hwnna'n wir am y maes deintyddiaeth, wrth gwrs. Ond mae'n rhaid i ni wneud e mewn ffordd sy'n gallu gofalu am bobl sy'n gweithio yn y maes, ac am gleifion hefyd. Bydd Rhun ap Iorwerth dwi'n siŵr yn ymwybodol ar ôl clywed oddi wrth bobl ei bod yn heriol yn y maes yna.