4. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ymateb i Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:21 pm ar 10 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:21, 10 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau ar draws y Siambr, yn ogystal â fy swyddogion, ein partneriaid cymdeithasol a'n cymheiriaid llywodraeth leol, yn ogystal â'n gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, wrth gwrs, am y gwaith aruthrol y maent yn ei wneud bob dydd yn cefnogi ein hymateb cenedlaethol i'r pandemig COVID-19. Ac rwy'n falch o'r hyn rydym wedi'i wneud hyd yn hyn i helpu i liniaru effaith economaidd y clefyd ofnadwy hwn, ac rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith caled y mae pawb wedi'i gyflawni yn fawr.

Ddirprwy Lywydd, ar ein hymateb i'r coronafeirws, dylwn ddweud ein bod bellach wedi cael llawer iawn o fusnesau'n cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i sicrhau y gallant oroesi'r cyfnod sy'n ein hwynebu yn y tymor byr, a'n bod yn edrych ar yr adferiad mwy hirdymor o'r coronafeirws mewn ffordd sy'n ailadeiladu economi fwy teg, mwy gwyrdd a mwy gwydn.

Ers cyhoeddi ein cynllun ar gyfer yr adferiad ar 15 Mai, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynllunio camau nesaf ei gwaith ar lacio'r cyfyngiadau symud. Rydym wedi bod yn glir bob amser fod yn rhaid i'r gwaith hwnnw fod yn seiliedig ar y wyddoniaeth sydd ar gael inni, a bod diogelwch gweithwyr wrth wraidd pob un o'r penderfyniadau a wnawn. Rwyf wedi bod yn cyfarfod â phartneriaid drwy gyngor y bartneriaeth gymdeithasol yn rheolaidd a byddaf yn parhau i wneud hynny er mwyn trafod pa fesurau ar y cyd y gallwn eu rhoi ar waith i ailagor ein heconomi yn raddol mewn ffordd ddiogel, gynaliadwy a theg, gan barhau i gefnogi iechyd y cyhoedd a'n GIG. Er mwyn ein helpu i gyflawni hyn, rydym wedi defnyddio'r ddeialog gyda phartneriaid cymdeithasol i ddatblygu a chyhoeddi canllawiau manwl, sy'n nodi'r hyn y mae angen i gyflogwyr a gweithwyr ei wneud i weithredu'n ddiogel, ac yn gyfreithlon wrth gwrs.

Mae'r canllawiau rydym wedi'u gosod ar wefan Llywodraeth Cymru ar gyfer pob gweithle ac nid ydynt yn disodli deddfwriaeth neu ganllawiau ar gyfer diwydiannau penodol. Ddirprwy Lywydd, ni ddylid ei ystyried chwaith yn lle cyngor cyfreithiol, y dylai cyflogwyr a gweithwyr ystyried ei gael lle bo angen. Mae pob gweithle'n unigryw, ac mae angen i bob un wneud yr hyn sy'n iawn i'w gweithwyr a'u cwsmeriaid penodol eu hunain. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau manwl i gefnogi'r gwaith o ailagor y sector gweithgynhyrchu'n ddiogel, a chyhoeddir canllawiau pellach ar gyfer sectorau allweddol eraill yn ystod yr wythnosau nesaf. Ac rydym yn ymgynghori â busnesau ac undebau llafur yng Nghymru i sicrhau bod ein dull o weithredu yn gymesur ac yn deg i fusnesau ac i weithwyr. Rydym eisiau i weithleoedd a gweithwyr yng Nghymru fod yn ddiogel, felly byddwn yn gofyn i bob cyflogwr a chyflogai ddangos eu gofal drwy weithredu gyda thosturi a dealltwriaeth; cydymffurfio â chyfreithiau a luniwyd i'n cadw ni i gyd yn ddiogel; cynnwys pawb gan fod diogelwch yn ymdrech a rennir; addasu gweithleoedd ac ymddygiad; a chyfathrebu gydag eglurder a chysondeb.

Wrth i ni ddechrau ar y gwaith o adfer yr economi, rwyf wedi bod yn glir na ddylai Llywodraeth y DU ddiddymu'r ystod o gymorth pwysig y maent wedi'i rhoi ar waith dros y misoedd diwethaf. Dyna pam y gwnaethom groesawu'r cyhoeddiad ar 12 Mai, gan Ganghellor y Trysorlys, i ymestyn y cynllun cynnal swyddi ar y sail bresennol tan ddiwedd mis Gorffennaf, ac ar sail ddiwygiedig tan ddiwedd mis Hydref. Mae'r cynllun cadw swyddi wedi bod yn hanfodol i alluogi rhannau helaeth o'r economi i gael seibiant drwy gyfyngiadau symud yr wythnosau diwethaf.

Wrth symud ymlaen, byddwn yn parhau i gyflwyno'r dadleuon canlynol i Lywodraeth y DU: yn gyntaf, na ddylid lleihau'r cymorth i fusnesau na allant agor yn gyfreithlon; y byddai lleihau nifer yr aelodau o weithlu cyflogwr y gellid eu rhoi ar ffyrlo yn well na lleihad graddedig ym maint y cymorth yn gyffredinol; na ddylai unrhyw weithredu wthio cyflogwyr i beryglu gweithio diogel oherwydd pwysau ariannol; ac y dylai Llywodraeth y DU sicrhau bod cymorth grant ar gael i fusnesau wneud addasiadau i adeiladu er mwyn sicrhau gweithio mwy diogel.

Yng Nghymru, mae gennym y pecyn cymorth mwyaf hael yn unrhyw ran o'r DU i fusnesau—cyfanswm o £1.7 biliwn o gymorth. Ddoe, roedd yn bleser gennyf lansio'r gwiriwr cymhwysedd newydd ar gyfer cam nesaf y gronfa cadernid economaidd. Nod y gronfa yw llenwi'r bylchau yn y cynlluniau cymorth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, gan gynnwys y cynllun cadw swyddi a'r cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig.

Roedd cam un y gronfa cadernid economaidd yn cwmpasu unrhyw fusnes cynaliadwy sy'n gweithredu yng Nghymru, o unrhyw oed neu fath, ac sydd wedi'i gofrestru ar gyfer TAW, sy'n cyflogi pobl drwy'r cynllun talu wrth ennill ac sydd wedi dioddef effaith sylweddol i'w drosiant. Bydd ail gam y gronfa yn gweithredu yn yr un modd yn fras â cham un, ond gyda diweddariad i gymhwysedd y cynllun micro i alluogi cwmnïau cyfyngedig nad ydynt wedi'u cofrestru ar gyfer TAW i allu gwneud cais i'r gronfa. Disgwylir y bydd y cyfnod ymgeisio llawn yn agor ar 29 Mehefin neu cyn hynny. Bydd ail gam y gronfa cadernid economaidd yn galluogi mynediad at y £100 miliwn sy'n weddill o'r £300 miliwn sydd eisoes wedi'i gymeradwyo a'i ddyrannu ar gyfer cefnogi microfusnesau, busnesau bach a chanolig a busnesau mawr. Mae gwaith ar y gweill gyda rhanddeiliaid ar ddatblygu opsiynau cymorth pellach ar gyfer y rhai nad ydym wedi'u cyrraedd eto—er enghraifft, busnesau newydd—a byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach ar hynny yn yr wythnosau nesaf.

Ddirprwy Lywydd, rwyf wedi dweud o'r blaen, wrth gynllunio ar gyfer adfer, fy mod eisiau i ni adeiladu nôl yn well: defnyddio coronafeirws fel cyfle i sicrhau newid sylfaenol yn ein heconomi, fel bod yr hyn a ddaw ar ei ôl yn decach, yn fwy cynhwysol ac yn fwy cynaliadwy na'r hyn a oedd gennym cynt. A dyna pam roeddwn yn hynod falch yr wythnos hon o fod yn bresennol yn is-grŵp economaidd-gymdeithasol y panel cynghori arbenigol ar gyfer pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae'r is-grŵp, sy'n cael ei gadeirio gan yr Athro Emmanuel Ogbonna, yn helpu Llywodraeth Cymru i nodi'r amrywiaeth o ffactorau sy'n dylanwadu ar ganlyniadau COVID-19 andwyol ymysg pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac i edrych ar anghydraddoldebau ehangach yn ein bywyd economaidd yng Nghymru. Mae gwaith yr is-grŵp wedi creu argraff fawr arnaf ac nid oes gennyf amheuaeth fod gennym, yng Nghymru, o hyd—er gwaethaf llawer iawn o gynnydd da—anghydraddoldebau strwythurol a sefydledig yn ein heconomi sy'n cyfrannu at yr annhegwch a'r gwahaniaethu sy'n dal i effeithio ar bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Felly, pan fyddwn yn sôn am adeiladu nôl yn well, credaf y dylem droi at waith yr is-grŵp am arweiniad a thystiolaeth wrth inni geisio sicrhau rhywbeth tecach, ac rwyf eisiau cofnodi fy nghefnogaeth i a fy adran heddiw i wneud y gwaith hwnnw dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf. Ddirprwy Lywydd, rwy'n hapus i ateb cwestiynau.