4. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ymateb i Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:28 pm ar 10 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 1:28, 10 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am ei ddatganiad, a dweud cymaint rwy'n croesawu ei bwyslais ar ddiogelwch mewn perthynas ag agor yr economi. Rwy'n gobeithio y byddai pawb ohonom, ar draws y Siambr, yn cytuno â hynny.

Wrth gwrs, croesewir ailagor y meini prawf ar gyfer y gronfa cadernid economaidd, ac rwy'n arbennig o falch o ddweud ei fod bellach ar gael ar gyfer busnesau nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer TAW. Ond fel y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud ei hun, mae nifer fawr o fusnesau o hyd na ellir eu cynorthwyo, yn enwedig busnesau sy'n gweithredu gartref, ac rwyf wedi cael popeth o gludwyr nwyddau i siopau trin gwallt i letyau gwely a brecwast—cwmnïau sy'n fusnesau hyfyw, ond nad ydynt yn talu ardrethi busnes. Mae'r Gweinidog yn sôn yn ei ddatganiad am ragor o gymorth iddynt. Tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym heddiw pryd y mae'n credu y bydd yn debygol o allu sicrhau'r cymorth ychwanegol hwnnw, er enghraifft, ar gyfer busnesau newydd—pa bryd y bydd yn debygol o allu cyhoeddi sut fath o gymorth fydd hwnnw.