Part of the debate – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 10 Mehefin 2020.
Weinidog, hoffwn gyfeirio at eich sylwadau diwethaf, mewn gwirionedd, am y gefnogaeth i'r sector hedfan yng Nghymru. Fel roeddech chi'n gywir i ddweud, mae Llywodraeth Ffrainc wedi darparu pecyn cymorth enfawr i'r diwydiant, rhywbeth nad yw Llywodraeth y DU wedi'i wneud. A wnewch chi ymuno â mi i annog Llywodraeth y DU i ddod o amgylch y bwrdd—oherwydd mae'n bryd iddynt ddod o amgylch y bwrdd—gyda'ch cyd-Weinidogion, gyda'r undebau llafur, a chydag arweinwyr y diwydiant, i greu pecyn cymorth a rhoi'r mesurau hynny ar waith ar gyfer y diwydiant pwysig hwn?