5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Coronafeirws (COVID-19)

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 10 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour 2:26, 10 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Rwyf am danlinellu'r sioc a'r dicter y mae Llywodraeth Cymru a chynifer o bobl ledled Cymru a'r byd yn ei deimlo ynghylch lladd George Floyd gan swyddog heddlu, a'r ymateb llym a gafwyd wedyn gan Arlywydd yr Unol Daleithiau. Mae dinasyddion yr Unol Daleithiau yn protestio'n gyfiawn yn erbyn hiliaeth amlwg a wynebir gan bobl ddu, sydd fel pe bai wedi ymwreiddio mewn rhai sefydliadau. Mae'n amlwg efallai nad oes gan Lywodraeth Cymru bwerau datganoledig i herio gweithredoedd Llywodraeth gwlad arall yn uniongyrchol, ond rwy'n credu bod dyletswydd foesol arnom i godi llais. Fel y dywedodd ein Gweinidog iechyd, Vaughan Gething:

Rhaid inni herio hiliaeth, anghydraddoldeb ac anghyfiawnder ble bynnag y down o hyd iddo, gan gynnwys yma yn y wlad hon.

Nawr, rydym yn gwybod heb amheuaeth nad yw hiliaeth sefydliadol yn broblem sydd ond yn digwydd yn yr Unol Daleithiau. Mae gennym ffordd bell i fynd yn ein gwlad ein hunain i fynd i'r afael â'r mater hwn, ond rydym wedi datgan yn glir ein hundod â phawb sy'n protestio. Ond nid yw undod yn ddigon. Rhaid inni fod yn barod i herio gwledydd eraill, yn enwedig pan fydd y gweithredoedd hynny'n creu ymateb yma yng Nghymru. I'r perwyl hwnnw, rwyf wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Tramor yr Unol Daleithiau yn nodi safbwynt Llywodraeth Cymru ac yn gofyn iddynt atgoffa Arlywydd yr Unol Daleithiau am ei rwymedigaethau i barchu hawliau dynol ac i ofyn iddo gydnabod yn ddiamod fod bywydau pobl dduon yn bwysig.

Rwyf hefyd wedi gofyn i'n tîm cysylltiadau rhyngwladol fonitro'r sefyllfa bryderus yn Hong Kong a phwysleisio ein hymrwymiad yn Llywodraeth Cymru i egwyddorion democratiaeth, rheolaeth y gyfraith a hawliau dynol.  

Nawr, rydym wedi defnyddio'r wybodaeth amhrisiadwy a ddarparwyd gan ein swyddfeydd rhyngwladol ynglŷn â sut y mae Llywodraethau tramor eraill yn llacio cyfyngiadau symud er mwyn helpu i roi siâp i'n cynlluniau a'n hymateb yma yng Nghymru.

Mae'r cloc yn tician mewn perthynas â datblygu perthynas newydd â'r UE, a phan ddaw'r cyfnod pontio i ben, bydd ein perthynas fasnachu bresennol â llawer o wledydd eraill y byd hefyd yn dod i ben. Rydym yn ymwybodol o'r adroddiadau diweddar yn y cyfryngau ynglŷn â thrafodaethau masnach yr Unol Daleithiau, ac yn enwedig y pryder cynyddol ynghylch gostwng safonau bwyd a lles anifeiliaid y DU, ac mae'r posibilrwydd y bydd cyw iâr wedi'i glorineiddio'n cael ei fewnforio yn destun pryder mawr. Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd i ni na fyddant yn cytuno i ostwng safonau mewn unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol, ac mae hynny'n rhywbeth a addawyd ganddynt yn eu maniffesto a byddwn yn eu dwyn i gyfrif yn ei gylch.

Hoffwn droi yn awr at dwristiaeth. Mae llawer o ddiddordeb wedi bod yn hynny y prynhawn yma. O'r Prif Weinidog i lawr, rydym i gyd yn ymwybodol iawn o faint yr her sy'n wynebu'r sector twristiaeth, lletygarwch a digwyddiadau, ac ers i'r argyfwng ddechrau, mae'r Dirprwy Weinidog a minnau wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd ag arweinwyr y diwydiant. Rydym yn gwybod na ddaw tymor yr haf yn ei ôl wedi iddo fynd heibio. Felly, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i weithio gyda'r diwydiant a chymunedau lleol i sicrhau ei bod yn ddiogel i ddychwelyd at dwristiaeth cyn gynted ag y bydd y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn caniatáu. Rydym yn gwybod y byddai'r diwydiant yn hoffi i ni ddarparu dyddiad ar gyfer pryd y gall y diwydiant ailddechrau, ond rydym wedi dweud yn gyson y cawn ein llywio gan y wyddoniaeth, ac nid gan ddyddiadau, ac ni fyddwn yn llacio'r cyfyngiadau hyd oni fydd y cyngor meddygol yn dweud ei bod yn ddiogel i ni wneud hynny.

Rydym wedi addo y byddwn yn rhoi o leiaf dair wythnos o rybudd i'r diwydiant er mwyn paratoi ar gyfer ailagor ac rydym yn rhoi ystyriaeth fanwl i ba bryd y gallwn ddangos ein bod yn agosáu at yr amser cywir i ailagor darpariaeth llety a rennir heb gyfleusterau, a nodir yn y parth oren yn rhaglen y Prif Weinidog. Rydym yn ymwybodol y bydd y diwydiant yn gwylio datganiad 21 diwrnod yr wythnos nesaf yn ofalus iawn, a byddwn yn edrych am arwydd gan y Prif Weinidog mewn perthynas â'r sector twristiaeth.

Rydym yn ymwybodol iawn, wrth i fusnesau nesáu at fis Awst, y bydd gofyn iddynt gyfrannu'n ariannol at gynllun ffyrlo, ac rydym yn deall pwysigrwydd y dyddiadau hyn i fusnesau. Felly, rydym yn paratoi—ac yn paratoi'n fanwl—ac mae hynny wedi cynnwys datblygu canllawiau a phrotocolau manwl i gefnogi'r sector a diogelu'r gymuned a staff ac ymwelwyr.

Ein pecyn cymorth ni i'r diwydiant yw'r mwyaf hael yn y DU, yn enwedig drwy ein cronfa cadernid economaidd bwrpasol, lle rydym wedi dyfarnu dros £10 miliwn i fusnesau twristiaeth, o 5 Mehefin ymlaen, gan ddiogelu dros 4,500 o weithwyr. Ac fel y clywsoch, bydd cam 2 y gronfa yn paratoi'r ffordd i ragor o fusnesau twristiaeth gael mynediad at y cronfeydd hyn. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ymestyn y cynllun ffyrlo neu i greu pecyn pwrpasol ar gyfer y sector.

Yn anffodus, mae'n debyg mai'r diwydiant digwyddiadau fydd yr olaf i ymadfer, ac rydym yn gobeithio gweithio'n agosach byth gyda threfnwyr ledled Cymru i ystyried y ffordd ymlaen. Mae'r sector diwylliant a'r celfyddydau hefyd o dan bwysau aruthrol. Y sefydliadau hyn yn aml yw calon ein cymunedau, a byddant hyd yn oed yn bwysicach yn y dyfodol.

Rydym wedi gweithio'n agos gyda'n holl randdeiliaid allweddol i gynnig cyngor ac arweiniad ac rydym wedi blaenoriaethu ein hymatebion ar gyfer y gweithgareddau mwyaf hanfodol yn y tymor byr, a chefnogi sefydliadau sydd â phroblemau llif arian a chaledi cyffredinol. Ac rydym hefyd yn darparu canllawiau ar sicrhau bod chwaraeon yn dychwelyd yn ddiogel ac ar ailagor cyfleusterau pan fo'r amodau'n iawn.