Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 10 Mehefin 2020.
Diolch yn fawr, Lywydd, ac rwy'n falch iawn o allu cyflwyno'r cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian, a'i gymeradwyo i'r Senedd.
Mae wedi dod yn ystrydeb bron i ddweud ein bod yn byw mewn cyfnod digynsail, ac mae'n wir ein bod. Gwneir y gymhariaeth weithiau â'r ail ryfel byd, ond pan oedd ein rhieni a'n teidiau a'n neiniau yn ymladd y rhyfel hwnnw gallent weld eu gelyn, gwyddent pwy ydoedd, gwyddent pam oedd y brwydro'n digwydd, a gallent fod gyda'i gilydd. Ni allwn ni wneud hynny, wrth gwrs.
Rydym wedi gwybod o'r dechrau bod COVID-19 yn peri risg difrifol i fywydau, ond hefyd i fywoliaeth pobl. Ac wrth i'r perygl uniongyrchol i iechyd gilio rhywfaint, er bod gennym lawer i'w wneud a ffordd bell i fynd, mae'r ffocws yn gynyddol bellach ar bryderon pobl ynglŷn â'n heconomi ac am ein bywoliaeth. Clywsom lawer o sôn hefyd am adeiladu nôl yn well, ond ceir llai o eglurder ynglŷn â beth y mae hynny'n ei olygu. I lawer yng Nghymru ac ar draws y byd yn wir, gwyddom nad oedd ein heconomi cyn COVID yn cyflawni fel y dylai. A'r cyd-ddinasyddion hyn yn aml, wrth gwrs, yw'r rhai yr effeithiwyd arnynt waethaf gan yr argyfwng: pobl o gymunedau duon a lleiafrifoedd ethnig; menywod; rhieni sengl a phobl anabl. Roedd traean o'n plant yng Nghymru cyn yr argyfwng yn byw mewn tlodi, a rhaid inni beidio â mynd yn ôl i'r normal hwnnw. Dyma gyfle i ailosod; i adeiladu economi sy'n gweithio i bawb; sy'n creu cyfoeth i dalu am y gwasanaethau cyhoeddus o'r radd flaenaf sydd eu hangen ar ein cenedl; sy'n cyflymu ein ffordd tuag at ddatgarboneiddio, ac sy'n gadael byd gwell i genedlaethau'r dyfodol. Credwn fod arnom angen dadl eang ynglŷn â sut y cyflawnir hynny, a bydd fy nghyd-Aelod, Delyth Jewell, yn dweud mwy am yr angen i gynulliad dinasyddion yrru'r gwaith hwnnw yn ei flaen a'n helpu i lunio'r ffordd ymlaen. Ac yn y cyd-destun hwnnw, rhaid inni wrthod gwelliant 4 y Ceidwadwyr. Er ein bod yn croesawu cyfle i gael mwy o weithio trawsbleidiol, ac yn wir mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn barod i wneud hynny, mae angen inni fynd ymhellach na hynny. Nid yw'r atebion i'n hargyfwng i gyd yn y Siambr hon yn nwylo un blaid neu fwy.
Nawr, ochr yn ochr â'r ddadl fwy hirdymor honno, bydd angen ymateb ar unwaith, ac mae'r rhan fwyaf o'r cynnig sydd ger ein bron heddiw yn awgrymu ffordd ymlaen. Rydym yn galw am gynllun gwarantu cyflogaeth i bob person ifanc. Gwyddom mor galed y cawsant eu taro eisoes yn yr argyfwng hwn o ran colli swyddi, a gwyddom hefyd, os yw pobl ifanc yn ddi-waith am fwy na chwe mis ar yr adeg hon yn eu bywydau, fod hynny'n debygol o gael effaith hirdymor ar eu gyrfaoedd. Bydd nifer yn ei chael hi'n amhosibl dal i fyny ac yn dlotach hyd yn oed fel pensiynwyr o ganlyniad i fod heb waith ar yr adeg dyngedfennol hon. Wrth gwrs, gallwn adeiladu ar gynlluniau cyfredol gan Lywodraeth Cymru, ond mae angen inni fod yn llawer mwy uchelgeisiol, ac mae arnom angen cynllun cynhwysfawr, ac mae ei angen yn gyflym. Yn hytrach na gadael ein pobl ifanc i bydru ar y dôl, gadewch i ni ddefnyddio eu hegni, eu hangerdd a'u hymrwymiad i gefnogi'r pethau sydd eu hangen er mwyn y gwaith adfer cyntaf. Er enghraifft, gallem anfon graddedigion i'n hysgolion i gynorthwyo athrawon i helpu ein plant i ddal i fyny â'r dysgu y maent wedi'i golli. Gallem alluogi ein pobl ifanc i gefnogi ein sector gofal, a fydd dan bwysau difrifol am amser maith i ddod, a gallem eu talu'n briodol i wneud hynny. A gallem greu byddin o bobl ifanc fedrus i ôl-osod ein cartrefi, gan ddechrau gyda thai cymdeithasol, gydag inswleiddio a chynlluniau adnewyddadwy bach, gan fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a thlodi ar yr un pryd. A bydd arnom angen rhaglen genedlaethol enfawr i alluogi gweithwyr i hyfforddi ac ailsgilio.