Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 10 Mehefin 2020.
Dwi'n meddwl sut bynnag dŷn ni'n edrych arno fo, mae'r profiad rydyn ni'n byw trwyddo fo ar hyn o bryd yn drobwynt yn ein hanes ni. Mae yna fywydau fydd byth yr un fath eto, teuluoedd sy'n galaru, pobl sy'n wynebu heriau iechyd hirdymor. Mae'r newid wedi cyffwrdd ar bopeth, wrth gwrs—y ffordd mae gwasanaethau yn cael eu delifro a sut mae'r Llywodraeth yn gweithio, hyd yn oed. Wrth gwrs, mae'r impact economaidd yn enfawr, a llawer o'r impact yn gwbl negyddol—cwmnïau yn mynd i'r wal, unigolion yn colli swyddi, teuluoedd yn colli incwm. Ond rhywsut, allan o hyn, mae'n rhaid i ni chwilio am yr elfennau a allai dyfu yn bositif allan o'r hafn ddofn yma rydyn ni wedi canfod ein hunain ynddi hi. Rydyn ni'n gwybod beth ydy rhai ohonyn nhw; rydyn ni wedi clywed rhai y prynhawn yma: chwyldro mewn gweithio o gartref, meddygon yn cynnal surgeries o bell, a sylweddoli bod dim angen neidio i'r car gymaint, a'r chwilfrydedd mae hynny wedi'i greu mewn bod yn fwy gwyrdd. Ond mae yna gyfle yma i edrych yn wirioneddol ar ein holl ddyfodol economaidd, a dwi ddim jest yn sôn am ailadeiladu, ailgreu beth oedd gennym ni; dwi'n sôn am ddod yn ôl yn gryfach. A beth sydd gan Blaid Cymru heddiw ydy cynnig am gynllun i ddechrau'r gwaith hwnnw.
Mae dau gymal cyntaf y cynnig yn sôn am gamau ymarferol i helpu rhai o'r rheini sydd wedi cael eu taro'n galetaf, yn cynnwys pobl ifanc—mae Helen Mary Jones wedi sôn am y rheini. Mae'r trydydd cymal, ac fe glywn ni Delyth Jewell yn sôn amdano fe, yn gyfeiriad at ein cred ni y byddai sefydlu cynulliad dinasyddion yn galluogi pobl Cymru i gyfrannu go iawn at y gwaith yma sydd o'n blaenau ni.
Dwi am ganolbwyntio ar y cymal olaf a'r galw yma am sefydlu cronfa adnewyddu Cymru-gyfan, gwerth biliynau o bunnau. Mae Helen wedi sôn am y gwahanol elfennau o'r hyn y buasem ni eisiau ei wneud efo fo, ond cofiwch mai dim ond dechrau'r buddsoddiad hirdymor sydd ei angen ydy hyn, a bydd y rhai mwy sylwgar yn eich plith chi yn gwybod bod Plaid Cymru wedi galw yn gyson ers blynyddoedd am fuddsoddi yn sylweddol rŵan yn nyfodol ein gwlad ni. Mi oedd polisïau llymder Llywodraeth Prydain yn gwneud yn gwbl groes i beth oedd ei angen. Buddsoddiad oedd ei angen; buddsoddiad sydd ei angen, yn fwy nag erioed rŵan, yn dilyn y pandemig yma—buddsoddi yn ein seilwaith ni, mewn cartrefi iach a gwyrdd, buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, cysylltedd digidol, mewn prosiectau ynni arloesol, mewn addysg uwch ac ymchwil, ac isadeiledd cymdeithasol hefyd. Rydym ni'n sôn am raglen i drawsnewid ein gwlad a fydd yn creu returns—returns ariannol i dalu'r benthyciadau yma yn ôl, a returns hefyd mwy cymdeithasol y gallwn ni a'n plant ni, a'u plant nhwythau elwa ohonyn nhw.
A dyma'r amser i wneud. Mae modd benthyg yn rhyfeddol o rad, mae modd edrych ar ddulliau amgen o gyllido prosiectau hefyd—bondiau ac ati. Ond mi fydd angen pwerau ffisgal newydd a hyblygrwydd newydd er mwyn galluogi hyn: codi'r cap benthyg presennol, er enghraifft, o'r £1 biliwn presennol i, buaswn i'n dweud, o gwmpas £5 biliwn i ganiatáu 'front loadi-o' hwnnw, er mwyn gallu dechrau ar y gwaith o ddifrif. Dwi'n credu bod y Gweinidog Cyllid yn cytuno bod angen hyblygrwydd mewn ffyrdd eraill o ran y gallu i dynnu arian wrth gefn i lawr, ac, wrth gwrs, mae angen i fformiwla Barnett ddod i ben ac i gyllido digwydd ar sail angen.
Mi wnaf i gwblhau fy sylwadau i drwy ddweud hyn: mae'n rhaid hefyd inni gael, fel y clywson ni gan Helen, drafodaeth aeddfed ynglŷn â sut dŷn ni'n talu am ein buddsoddiadau ac am y math o wasanaethau cyhoeddus dŷn ni eisiau. O ailedrych ar y flaenoriaethau—mae Mike Hedges wedi sôn am rai o'i rai fo—dwi'n hyderus iawn y gallwn ni, o fewn cyllidebau presennol, ad-dalu benthyciadau, fel dŷn ni wedi clywed amdanyn nhw, a hynny oherwydd bod cost benthyg yn isel ar hyn o bryd. Ond, dŷn ni wedi cofio rŵan, yn ystod y cyfnod yma, pa mor werthfawr ydy gwasanaethau fel iechyd a gofal. Ond, tra ein bod ni eisiau'r gwasanaethau gofal gorau posib, dyn ni, am yn rhy hir, wedi bod eisiau talu llai a llai amdanyn nhw, a does dim modd sgwario hynny am byth.
Mewn cynhadledd rithiol tua dechrau'r pandemig yma—mae'n teimlo fel oes yn ôl—cynhadledd wedi ei threfnu gan y Sefydliad Materion Cymreig: 'Rethinking Wales' oedd y testun, a dyna yn union sydd angen ei wneud—ailfeddwl sut dŷn ni'n gwneud pethau, beth ydyn ni'n trio ei gyflawni ac, ie, sut dŷn ni'n talu amdanyn nhw. Dwi'n cael y teimlad bod lot ohonom ni, llawer ohonom ni yn y Senedd yma, gobeithio, sydd eisiau pwyso 'reboot', fel y mae papur newydd Plaid Cymru yn ei ddweud, neu 'reset', fel mae grŵp newydd amhleidiol dwi wedi ei weld yn cael ei lansio yr wythnos yma yn ei ddweud.