– Senedd Cymru am 1:47 pm ar 17 Mehefin 2020.
Felly, galwaf ar y Prif Weinidog i gyflwyno'r rheoliadau.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y rheoliadau'n ffurfiol ac yn fyr a gofynnaf i'r Aelodau eu cefnogi. Mae'r rheoliadau yn ddiwygiadau pellach i amodau'r cyfyngiadau coronafeirws. Maen nhw'n rhoi rhyddid yn ôl i bobl lle mae'r sefyllfa o ran y feirws wedi caniatáu inni wneud hynny. Maen nhw'n cynyddu cosbau ar y rhai sy'n methu'n gyson â glynu wrth y rheolau y mae cynifer wedi gweithio mor galed i'w dilyn. Llywydd, mae'r system sydd gennym ni yn gwbl briodol yn ei gwneud hi'n glir pryd bynnag y bydd cyfyngiad yn ddiangen i ddiogelu iechyd y cyhoedd bod yn rhaid ei ddileu. Mae'r rheoliadau rhif 5 diwygiedig yn cadarnhau'r ymrwymiad hwnnw. Gan ein bod wedi gwneud cynnydd o ran lleihau nifer yr achosion o'r coronafeirws yn y gymuned, mae'r rheoliadau rhif 5 hynny yn caniatáu llawer mwy o ryddid i bobl yn eu hardal leol. Maen nhw hefyd yn hollbwysig yn caniatáu i bobl ymgynnull y tu allan gydag aelodau o un aelwyd arall, er bod cadw pellter cymdeithasol yn parhau wrth gwrs. Dyma lacio cyfyngiadau'r coronafeirws ac maen nhw'n bosib oherwydd y lleihad yng nghylchrediad y feirws yn y gymuned.
Llywydd, drwy gydol y cyfyngiadau symud rydym ni wedi gweld cryn gydymffurfio â'n rheoliadau, ac mae angen diolch o galon i bobl ledled Cymru am hynny. Drwy lynu wrth y rheolau, rydym ni wedi helpu i reoli lledaeniad y feirws. Fodd bynnag, dengys tystiolaeth gan bedwar heddlu fod lleiafrif bach o bobl yn torri'r cyfyngiadau dro ar ôl tro, ac mae'r newidiadau a wnaed gan reoliadau rhif 4 sydd gerbron yr Aelodau y prynhawn yma wedi caniatáu i'n heddluoedd ymateb yn fwy llym i'r her honno. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r ddwy gyfres o welliannau.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dim ond ychydig o sylwadau sydd gen i ar y rheoliadau. Mi hoffwn innau ddechrau trwy anfon fy nghydymdeimlad dwysaf i at deulu Mohammad Asghar yn eu colled nhw.
Prin y bu'r newid i'r rheoliadau. O ran y rheoliad ynglŷn â dirwy, prin iawn ydy'r angen wedi bod am fygwth pobl efo dirwy ariannol drwy hyn, oherwydd mae'r rhan fwyaf o bobl wedi bod yn barod iawn i gadw at y rheolau, oherwydd mai dyna sy'n llesol i'w hiechyd eu hunain a'u cymunedau, wrth gwrs, ond mae eraill wedi penderfynu ymddwyn yn blatant yn groes, a dwi'n cefnogi cynyddu dirwy, yn teimlo, fel mae'r Prif Weinidog yn gwybod, y dylai'r ddirwy fod wedi cael ei chodi yn gynharach. Mi fyddwn ni yn cefnogi'r cynigion heddiw, beth bynnag.
O ran y llacio rhywfaint ar y cyfyngiadau, mi ddywedaf i hyn fel apêl wrth i'r Llywodraeth ystyried y camau nesaf efo'i hadolygiad tair wythnosol yfory a'r cyhoeddiad i ddod dydd Gwener: profwch eich bod chi'n trio symud mor gyflym â phosib i newid y cyfyngiadau o fewn beth sy'n ddiogel. Nid gofyn am gyfaddawdu o gwbl ar diogelwch ydy hynny; iechyd sydd yn gyntaf ac mae'n rhaid dilyn y wyddoniaeth. Mae'n rhaid gwneud yn siŵr bod y prosesau profi ac olrhain yn rhai cadarn, ond profwch a heriwch eich tystiolaeth eich hunan mor gyhoeddus ag sy'n bosibl. Gwthiwch ffiniau beth sy'n bosibl ei wneud yn ddiogel o ran lles pobl, gallu pobl i fod efo anwyliaid, ac o ran yr angen i ailagor bwrlwm economaidd ac ati, a dangoswch lwybr clir ymlaen. Dangoswch fap cliriach fel bod unigolion, teuluoedd a busnesau yn gallu cynllunio yn well ar gyfer y cyfnod sydd i ddod.
Nid oes gennyf fwy o siaradwyr. Prif Weinidog—os yw'n dymuno ymateb i'r cyfraniad.
Dim ond diolch i Rhun ap Iorwerth am arwydd o gefnogaeth Plaid Cymru i'r rheoliadau heddiw. Rwy'n gobeithio ac yn disgwyl y byddwn yn gallu cyhoeddi rhagor o lacio ar y cyfyngiadau yn dilyn yr arolwg pellach yr ydym yn ei gwblhau yfory, a byddwn, wrth gwrs, yn cyflwyno adroddiad ar ganlyniad yr adolygiad hwnnw i'r Senedd.
Diolch, Prif Weinidog. Y cynnig yw cytuno ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes, rwy'n gweld gwrthwynebiad, a gohiriaf y bleidlais ar y rheoliadau hynny tan y cyfnod pleidleisio.
Y cynnig sy'n dilyn yw cytuno ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes, rwy'n gweld gwrthwynebiad ac felly pleidleisir ar y rheoliadau hyn yn ystod y cyfnod pleidleisio.