10. Dadl Plaid Brexit: Codi'r Cyfyngiadau Symud

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 24 Mehefin 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 4:58, 24 Mehefin 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Heddiw, byddwn yn cefnogi'r cynnig penodol hwn gan alw am lacio'r cyfyngiadau symud ymhellach, fel y gallwn gynorthwyo pobl Cymru i adfer mwy o'u rhyddid personol. Mae pobl ledled y wlad, wrth gwrs, wedi aberthu'n fawr yn ystod y cyfyngiadau er mwyn helpu i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed, i alluogi gweithwyr allweddol i helpu ein gwlad i ymateb i'r pandemig, ac i leihau trosglwyddiad y feirws—aberth fel colli angladd aelod o'r teulu, methu gweld anwyliaid, neu hyd yn oed bartner, am fisoedd lawer, a byw dan y tramgwydd mwyaf gormesol ar ryddid sifil yn hanes y wlad hon a bod yn onest.

Nawr, rydym yn derbyn y bu'n rhaid eu cyflwyno er mwyn diogelu bywydau pobl. Ond ni wnaeth pobl aberthu yn y fath fodd i achub bywydau er mwyn dioddef rhagor o golli bywydau drwy ganlyniadau hirdymor anfwriadol posibl yn sgil ymestyn y cyfyngiadau am gyfnod estynedig. Gwyddom fod cysylltiadau rhwng tlodi a disgwyliad oes gwael a chlefydau cronig. Ac wrth gwrs, os na fyddwn yn codi'r cyfyngiadau'n ddigon cyflym, mae'n bosibl iawn y byddwn yn dioddef effeithiau hirdymor i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i hynny.

Mae diffyg rhyngweithio cymdeithasol ac unigrwydd yn ystod y misoedd diwethaf bellach yn dechrau effeithio ar iechyd meddwl pobl. Mae Andrew Goodall, Prif Weithredwr y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru, wedi nodi cynnydd yn nifer y cleifion sy'n dangos arwyddion o orbryder a thrallod emosiynol, ac sy'n dod i ysbytai yn hwyrach nag y dylent cyn gofyn am y cymorth sydd ei hangen arnynt. A dyna pam ein bod wedi gweld gostyngiadau sylweddol, wrth gwrs, yn y nifer sy'n mynychu ein hadrannau achosion brys ledled y wlad. Nawr, er y gallech ddisgwyl llai o anafiadau wedi'u hachosi gan alcohol ar benwythnosau, mae'r math hwn o ostyngiad i'w weld yn awgrymu bod llawer o gleifion yn ofni mynd i'r ysbyty oherwydd y canfyddiad o risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws.

Nawr, mae pawb ohonom eisiau i'r cyhoedd fod yn wyliadwrus wrth gwrs, ond rwy'n credu bod gormod o ofal wrth lacio'r rheolau yn creu perygl o golli mwy o fywydau. Rydym yn cydnabod nad oes atebion di-risg yma, ond er y bwriadau gorau, rydym yn credu bod dull Llywodraeth Cymru o weithredu ar ei hôl hi bellach o gymharu â'r hyn sy'n ymddangos fel dull cyffredin o fynd ati, neu ddull tebyg iawn, yn yr Alban, Gogledd Iwerddon ac yn wir yn Lloegr gyda Llywodraeth y DU, ac rwy'n credu bod angen inni edrych ar geisio mabwysiadu dull ar gyfer y pedair gwlad wrth symud ymlaen.  

Rydym wedi trafod yn faith yn y sesiynau hyn dros yr wythnosau diwethaf y rheol 5 milltir greulon, y credwn fod angen cael gwared arni ar unwaith. Ac rwy'n credu ei bod yn drueni mawr na chafodd y rheol honno ei llacio ar sail dosturiol mewn pryd ar gyfer Sul y Tadau, a ddathlwyd dros y penwythnos. Nawr, roeddem yn croesawu'r cyhoeddiad am ailagor siopau nwyddau dianghenraid ddydd Llun, ond wrth gwrs, mae terfynau i'r hyn y gall cwsmeriaid lleol ei wneud i gefnogi busnesau lleol, ac yn aml iawn, mae llawer o fusnesau yn ein trefi ar draws y wlad a phentrefi ar draws y wlad yn dibynnu ar lawer mwy na chwsmeriaid lleol i allu goroesi.

Nawr, rhan o'r allwedd i ailagor ein heconomi yw ailagor ein hysgolion. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cyhoeddiad y byddai pob ysgol ar agor am bedair wythnos o 29 Mehefin ymlaen. Wrth gwrs, maent wedi rhoi awdurdodau lleol mewn sefyllfa anodd drwy ofyn iddynt benderfynu a ddylent ymestyn y tymor am un wythnos, a chredaf mai camgymeriad oedd hynny, ac yn fy marn i, mae'n codi cwestiwn ynglŷn â phwy sy'n rheoli'r system addysg yng Nghymru—ai'r undebau ynteu'r Gweinidog addysg? Ac yn sicr, mae'n edrych, o'n safbwynt ni ar hyn o bryd, fel pe bai'r undebau yn drech na'r Gweinidog yn hyn o beth.  

Rydym yn pryderu'n fawr, wrth gwrs, oherwydd bod astudiaethau annibynnol o addysg wedi dod i'r casgliad bod llai o addysg yn y cartref yn digwydd yng Nghymru nag sy'n digwydd yng ngwledydd eraill y DU, ac mae'n debyg fod hynny'n deillio o'r diffyg cysondeb ar draws y wlad. Felly, mae'r diffyg cysondeb diweddaraf hwn o ran faint o wythnosau y bydd ein plant yn cael eu haddysgu yn ystod yr wythnosau nesaf yn peri llawer iawn o bryder.  

Felly, i grynhoi, Ddirprwy Lywydd, rwyf am ddweud ein bod yn cefnogi'r galwadau am ddull pedair gwlad o weithredu. Credwn ei bod hi'n ddryslyd cael dulliau gwahanol yng ngwledydd y DU. Mae Cymru bellach ar ei hôl hi—rwy'n credu bod hynny'n glir iawn, yn enwedig o ystyried y cyhoeddiadau yn yr Alban heddiw. Gwyddom fod yr epidemig hwn yn mynd i fod gyda ni am beth amser, ond rhaid inni sicrhau yn awr fod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu polisi 'bywydau a bywoliaeth' fel y gallwn warchod bywydau pobl yn y tymor hwy a galluogi pobl i ddefnyddio eu synnwyr cyffredin, gan eu hysbysu am y peryglon, wrth inni ailagor ein heconomi a symud ymlaen.