Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 24 Mehefin 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r grŵp Ceidwadol am gyflwyno'r cynnig pwysig hwn heddiw. Wrth gwrs, wrth inni symud allan, efallai, heibio i gam argyfwng iechyd cyntaf yr argyfwng sy'n ein hwynebu ni i gyd, mae Paul Davies yn llygad ei le pan ddywed y bydd mwy o bwyslais ar yr argyfwng economaidd, ac rwy'n siŵr y byddwn yn parhau i drafod hyn ac i graffu ar y Gweinidog wrth i'r ymateb i godi'r cyfyngiadau fynd rhagddo.
Mae yna lawer y gallwn gytuno ag ef fel grŵp yng nghynnig y Ceidwadwyr, a chredaf ei bod yn iawn i fod yn deg â Llywodraeth y DU—mae'r cynllun ffyrlo, y cynllun cadw swyddi, er enghraifft, wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol. Nid yw'n berffaith, fel y gwn fod y Gweinidog yn gwybod, a hoffwn annog cyd-Aelodau Ceidwadol i ddefnyddio'r dylanwad sydd ganddynt gyda'r Trysorlys i edrych ar rai o'r bylchau yn y cynllun hwnnw: y dechreuwyr newydd na chawsant gymorth ac y gellid eu helpu yn awr, a rhywfaint o hyblygrwydd yn y cynllun, ac efallai y byddai'n dda ei ymestyn ar gyfer y sectorau na allant fynd yn ôl i'r gwaith ar unwaith. fel roeddem yn ei drafod yn y ddadl gynharach ar y celfyddydau.
Nid yw'r syniad o gronfa adfer COVID yn un y byddem yn ei wrthwynebu, ond fel y nodwyd yn ein dadl bythefnos yn ôl—ac nid wyf yn bwriadu cyflwyno'r dadleuon hynny eto, Ddirprwy Lywydd; cefais gyfle i wneud hynny yn y ddadl honno—teimlwn fod angen inni fynd ymhellach na hynny, gan nad yw hyn yn ymwneud ag adfer, nid yw hyn yn ymwneud â mynd yn ôl i'r fan lle roeddem o'r blaen. Fel y nododd Paul Davies yn briodol yn ei araith, roedd cymaint o'i le ar ein heconomi o'r blaen i gynifer o gymunedau a chynifer o bobl. Nid yw economi sy'n gadael traean o'n plant yn byw mewn tlodi yn un rydym am ei hadfer. I ni, mae hyn yn golygu adnewyddu, trawsnewid, gwneud pethau'n well, symud ymhellach, a dyna'r rheswm dros ein hail welliant, a fyddai'n gosod ein cais am gronfa adnewyddu ar gyfer Cymru gyfan yn lle'r alwad am gynllun adfer COVID—cronfa a fyddai'n debyg o ran bwriad, rwy'n credu, ond yn fwy uchelgeisiol am ei bod yn mynd ymhellach.
Rydym hefyd yn credu bod angen i Lywodraeth Cymru allu cymryd y camau angenrheidiol ei hun, a dyma pam rydym wedi argymell ein trydydd gwelliant, yn gofyn am fwy o ymreolaeth ariannol i Gymru ar yr adeg hon. Byddaf yn cyfeirio mewn munud at welliant y Llywodraeth, ond credaf ein bod yn camgymryd os credwn y gallwn ddibynnu ar Lywodraeth San Steffan i wneud hyn drosom ni. Ac os na wnânt hynny, rhaid iddynt ryddhau dwylo Llywodraeth Cymru i weithredu.
Mewn perthynas â gwelliant y Llywodraeth, byddem yn cytuno, wrth gwrs, â'r pwynt am yr Undeb Ewropeaidd, ac mae pethau eraill yn y fan honno y gallem eu croesawu, ond dychwelaf at y pwynt ynglŷn ag a allwn ddibynnu ar Lywodraeth y DU i'n tynnu allan o'r twll hwn. Nid ydym yn siŵr o gwbl y gallwn. Credwn mai dyma'r amser i gael mwy o bŵer yn ein dwylo ni yma yng Nghymru i'n galluogi i ailadeiladu.
Nawr, Ddirprwy Lywydd, pe bawn i'n dymuno bod yn anfoesgar, gallwn ddweud nad oeddwn yn awyddus iawn i gael gwersi ar yr economi gan y Blaid Lafur na'r Blaid Geidwadol. O ran y Blaid Geidwadol, mae eu degawd o gyni wedi gwanhau ein cymunedau a'n heconomi yn sylfaenol—gallech ddweud eu bod yn cael eu dal o dan wyneb y dŵr—ac mae angen iddynt addef peth cyfrifoldeb am rai o'r problemau y mae Paul Davies wedi'u hamlinellu. Ac o ran y Blaid Lafur, wrth gwrs, wel, gallent fod wedi diwygio fformiwla Barnett ddegawdau'n ôl pan oedd ganddynt bŵer i wneud hynny ac fe wnaethant ddewis peidio, ac maent wedi bod yn rhedeg economi Cymru ar eu pen eu hunain neu gydag eraill ers 20 mlynedd. Ond boed hynny fel y bo, nid dyma'r amser i feirniadu, a chefais lawer i'w gefnogi yng nghyfraniad Paul Davies. Mae hwn yn gyfnod pan fo pawb ohonom eisiau ac angen i Lywodraeth Cymru lwyddo. Credaf ein bod i gyd, ar draws y Siambr hon, yn unedig ar hynny. Y cwestiwn yw sut i wneud hynny yn y ffordd orau. Ni allwn ymateb yn effeithiol i'r argyfwng hwn, a chreu economi sydd nid yn unig yn fwy gwyrdd ac yn fwy teg, ond sydd hefyd yn wyrdd ac yn deg, heb allu benthyca i fuddsoddi a chael y pwerau yn ein dwylo ein hunain i wneud hynny'n bosibl.