Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 24 Mehefin 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddweud bod Llywodraeth Cymru yn croesawu'r ddadl hon gan y Ceidwadwyr Cymreig yn fawr iawn? Ac yn amlwg, er ein bod yn cydnabod bod y pandemig coronafeirws yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac yn argyfwng economaidd wrth gwrs, mae iechyd y cyhoedd, yn ddi-os, yn dod gyntaf. Nid yw'r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn ar ben eto. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi dweud, drwy ymdrechion rhyfeddol y cyhoedd, rydym wedi llwyddo i gael tân y coronafeirws o dan reolaeth. Ond Ddirprwy Lywydd, yn sicr, nid yw'r tân hwnnw wedi'i ddiffodd, a'r peth gwaethaf a allai ddigwydd i economi Cymru a'r DU yw ail don, a dyna pam y mae'n rhaid i unrhyw ddull rhesymegol o weithredu fod yn bwyllog. Ac rydym wedi gweld cynnydd sydyn sy'n peri pryder mawr mewn llefydd fel Florida a'r Almaen yr wythnos hon, ac wrth gwrs, y prynhawn yma, cyhoeddodd Efrog Newydd y bydd yn cyflwyno cwarantin i bobl o rannau o'r Unol Daleithiau lle mae problem sylweddol o hyd gyda coronafeirws.
Felly, fel rwyf wedi dweud droeon, Ddirprwy Lywydd, roeddem yn croesawu'n gryf y cynlluniau cymorth y mae Llywodraeth y DU wedi'u cyflwyno yn ystod yr argyfwng hwn. Mae Cymru'n rhan o'r Deyrnas Unedig, ac mae'n briodol ein bod yn cael cyfran deg o gymorth ar gyfer y mater hwn sydd heb ei ddatganoli. Ac fe wnaethom geisio gweithio'n agos iawn gyda Thrysorlys y DU a chyda'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yn ogystal â chyda'r Alban a Gogledd Iwerddon, drwy gydol yr argyfwng economaidd hwn i elwa ar gryfderau bod yn rhan o'r cyfan cyfunol hwnnw. Ond rhaid i Lywodraeth y DU—rhaid iddi—osgoi ymyl clogwyn wrth ddod â'r cynllun ffyrlo a'r cynllun i'r hunangyflogedig i ben, a chredaf ein bod i gyd yn derbyn na fydd yr effaith lawn i'w gweld tan yr hydref, pan fwriedir dirwyn y rhain i ben.
Nawr, rydym yn gwneud popeth a allwn i liniaru'r effeithiau, ac mae ein pecyn cymorth £1.7 biliwn yn golygu bod busnesau yng Nghymru yn gallu manteisio ar y cymorth mwyaf hael a helaeth i fusnesau yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Yn ogystal â'r sectorau hynny a'r mathau o fusnesau sydd wedi cael cymorth hyd yma, byddwn yn lansio bwrsari dechrau busnes yn fuan. Hyd yma, mae dros 60,000 o grantiau eisoes wedi'u talu i fusnesau yng Nghymru, ac mae cyfleuster benthyca Banc Datblygu Cymru, a grëwyd i helpu i ymdrin ag effaith y feirws, eisoes wedi dyrannu bron £100 miliwn i fwy na 1,200 o fusnesau. Hefyd, Ddirprwy Lywydd, mae ail gam ein cronfa cadernid economaidd ar gyfer Cymru'n unig yn agor i geisiadau ddydd Llun. Dylwn nodi hefyd, yma yng Nghymru, fod busnesau bach sydd â safleoedd â gwerth ardrethol o lai na £12,000 eisoes yn cael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. Maent wedi bod yn achubiaeth hanfodol sydd wedi diogelu miloedd o swyddi.
Ond wedi dweud hynny, mae angen inni ychwanegu at ein pecyn cymorth i fusnesau drwy ddarparu cymorth hanfodol i bobl a allai fod wedi colli eu swyddi neu gyfleoedd hyfforddi oherwydd y pandemig. Mae hyn yn arbennig o berthnasol heddiw, o gofio'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddais ynglŷn â Laura Ashley yng nghanolbarth Cymru, ac wrth gwrs, byddwn yn cynnig pob cymorth sydd ar gael i'r gweithlu yr effeithiwyd arno yno.
Nawr, fel y cyhoeddais yr wythnos diwethaf, rydym wedi cymryd camau i helpu pobl sy'n wynebu colli swyddi drwy gynnig pecyn cynhwysfawr o gymorth a fydd yn caniatáu i bobl uwchsgilio a dod o hyd i waith newydd, fel y gallwn ddiogelu cenhedlaeth, ac yn arbennig y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, rhag creithiau posibl diweithdra, a byddwn yn defnyddio £40 miliwn o'n cronfa cadernid economaidd i gyflawni hyn. Ond mae angen inni sicrhau hefyd, Ddirprwy Lywydd, fod y pecyn hwn yn cydweddu ag unrhyw fentrau y gallai Llywodraeth y DU eu cyflwyno, ac mae angen i ni osgoi unrhyw ddyblygu, os oes modd.
Felly, mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraeth y DU hefyd yn darparu cymorth bellach i bobl sydd ar ffyrlo ar hyn o bryd a'r rhai sydd mewn perygl o golli eu swyddi. A byddwn yn gwylio'n ofalus iawn pan fydd Canghellor y Trysorlys yn cyflwyno ei ddatganiad disgwyliedig cyn i'r Senedd orffen y mis nesaf.
Nawr, mae ein capasiti a'n gallu i gael arian i'r rheng flaen wedi cael ei gyfyngu gan y rheolau ariannol anhyblyg a osodwyd gan Lywodraeth y DU, fel y nododd Helen Mary Jones. Ceir cyfyngiadau llym ar faint o arian y gallwn ei gario ymlaen o un flwyddyn i'r llall, ac mae gennym uchafswm o arian wrth gefn o £350 miliwn yn unig. At hynny, daw tua £700 miliwn i Gymru o'r UE yn awr, ac er bod Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrwydd tymor byr ynghylch agweddau arno, mae angen inni warchod ein buddiannau yn y penderfyniadau cyllido tymor hwy, yn enwedig mewn perthynas â chronfa ffyniant gyffredin bosibl a chyllid amaethyddol a datblygu gwledig yn y dyfodol. Yn wir, mae mwy na £0.25 biliwn o'r cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd wedi cael ei ailgyfeirio i ariannu ymyriadau argyfwng iechyd yn ystod y pandemig hwn.
Nawr, mae'r risg y bydd y DU yn gadael y cyfnod pontio heb gytundeb ar ein perthynas â'r UE yn y dyfodol yn real iawn. Mae pob tystiolaeth gredadwy yn awgrymu y bydd yna ganlyniadau economaidd andwyol sylweddol yn sgil newid sydyn ac eithafol o'r fath i'n perthynas fasnachu â'r UE. Felly, byddwn yn dal Llywodraeth y DU at addewidion a wnaed na fydd Cymru geiniog yn waeth ei byd o ganlyniad i adael yr UE ac y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gyfrifol am drefnu'r cronfeydd hyn yng Nghymru.
Nawr, wrth inni ddal i aros i glywed am y cyllid penodol hwnnw, mae ein hagenda trawsnewid trefi yn symud ymlaen ar gyflymder llawn ac yn gynharach eleni, gwnaethom nodi pecyn pellach o gymorth i ganol trefi a oedd yn werth bron i £90 miliwn. Credaf fod y cymorth hwn yn bwysicach nag erioed o'r blaen. Y mis diwethaf, addawsom gymorth i ardaloedd gwella busnes yng Nghymru hefyd i gynnal eu costau rhedeg yn ystod y pandemig coronafeirws.
Ac yng nghyd-destun ailagor canol trefi ar ôl COVID, mae arian trawsnewid trefi eisoes yn darparu cynlluniau seilwaith gwyrdd. Byddant yn werth tua £9 miliwn i gyd ar draws Cymru pan fyddant wedi'u cwblhau. Mae'r cyllid hefyd yn cefnogi ein cymunedau arfordirol drwy rownd ddiweddaraf y gronfa cymunedau arfordirol, a agorwyd yr wythnos diwethaf. Mae'r gronfa honno'n darparu arbenigedd sy'n arwain y diwydiant a chyllid i awdurdodau lleol fynd i'r afael â phroblem yr eiddo gwag neu eiddo wedi'i esgeuluso sy'n difetha ein strydoedd mawr. Y penwythnos diwethaf, cyhoeddwyd ein bod yn rhoi £15.4 miliwn ychwanegol tuag at deithio diogel rhag COVID, gan ei gwneud yn fwy diogel ac yn haws i bobl symud o amgylch eu trefi lleol.
Mae trefi ledled Cymru—ym mhob rhan o Gymru—yn elwa o'r amrywiaeth o raglenni trawsnewid trefi, gan gynnwys arfordir gogledd Cymru, rhaid i mi ddweud. Mae Bae Colwyn yn elwa o dros £3 miliwn o fuddsoddiad adfywio, mae'r Rhyl yn gweld buddsoddiad enfawr o tua £20 miliwn ac yng Nghaergybi, mae prosiect gwerth mwy na £4 miliwn wedi trawsnewid y neuadd farchnad hanesyddol. Yn ogystal, yng Nghymoedd de Cymru, mae'r tasglu a gadeirir gan y Dirprwy Weinidog wedi cyfarfod yn rheolaidd ers dechrau argyfwng COVID-19, ac mae'n adolygu blaenoriaethau ar hyn o bryd yng ngoleuni'r pandemig hwn.
Bydd rhaglenni fel y cynllun grant cartrefi gwag a chronfa her yr economi sylfaenol yn chwarae rhan allweddol yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod a byddwn yn dysgu o'r prosiectau hyn i lywio meddylfryd polisi yn y dyfodol a hefyd i fwydo i mewn i flaenoriaethau adfer.
Nawr, mae effaith coronafeirws yn enfawr ac yn bellgyrhaeddol, ond gallai fod yn foment ar gyfer newid sylfaenol yn ein heconomi fel y gallwn, fel y dywedais ar sawl achlysur, adeiladu nôl yn well er mwyn sicrhau bod ein dyfodol yn fwy teg, yn fwy cynhwysol ac yn fwy cynaliadwy.