Part of the debate – Senedd Cymru am 6:28 pm ar 24 Mehefin 2020.
Agorodd Paul Davies i ni drwy bwysleisio bod y pandemig coronafeirws yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac yn argyfwng economaidd, gyda niferoedd uchel o weithwyr ar ffyrlo yng Nghymru, y bygythiad i swyddi a'r angen i ddeall yr heriau sy'n wynebu busnesau, yn enwedig busnesau bach a chanolig. Soniodd am yr anghydraddoldebau strwythurol yng Nghymru nad yw Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael â hwy dros gyfnod o fwy na dau ddegawd. Soniodd am y diffyg eglurder o ran y gefnogaeth i'r sector twristiaeth a galwodd am gytuno ar gynllun adfer gyda'r sector twristiaeth a chyda darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus.
Dywedodd Helen Mary Jones nad yw Plaid Cymru yn gwrthwynebu ein galwad am gronfa adfer cymunedol COVID ac yna dywedodd ei fod yn ymwneud â mwy na mynd yn ôl i ble roeddem o'r blaen, ac rydym yn cytuno, ac felly, gobeithio y gallwch gefnogi ein cynnig. Hefyd, gwaetha'r modd, fe ddangosodd pam na ddylem gymryd unrhyw wersi ar yr economi gan Blaid Cymru.
Soniodd Janet Finch-Saunders fod y niferoedd sy'n hawlio budd-dal diweithdra wedi dyblu yn ystod yr argyfwng hwn. Conwy sydd â'r ganran uchaf o swyddi mewn perygl yng Nghymru. Roedd yn ddiolchgar i Lywodraeth y DU am y cymorth ariannol y mae'n ei roi i fusnesau Cymru a dywedodd fod angen galluogi draig economaidd Cymru i ruo eto.
Soniodd Jenny Rathbone nad dyma'r amser i fynd i ddatod y cysylltiadau â Llywodraeth y DU, am yr angen i ddod â phobl yn ôl i ganol trefi a diogelu busnesau sy'n agored i niwed a chyfleusterau celfyddydol a diwylliannol. Siaradodd Russell George am y difrod a achoswyd gan ymagwedd ranedig Llywodraeth Cymru tuag at lacio'r cyfyngiadau, o werthwyr tai i Laura Ashley. Dywedodd na all Cymru fforddio syrthio'n bellach ar ôl gweddill y DU, a daeth i'r casgliad bod dyfodol Cymru yn eiddo i'r dewrion. Soniodd David Rowlands am y bygythiad i drefi'r Cymoedd, Angela Burns am yr angen am ffocws ac arweiniad clir wrth inni symud ymlaen, a'r angen am weithredu go iawn gan Lywodraeth Cymru ar adeiladu economi werdd yn lle'r blynyddoedd o rethreg, a dywedodd, os mai gwyrdd yw'r dyfodol, mai busnesau lletygarwch yw'r presennol. Tynnodd Gweinidog yr economi, Ken Skates, sylw at y ffaith nad yw'r argyfwng iechyd cyhoeddus ar ben eto—heb amheuaeth. Croesawodd gynlluniau cymorth Llywodraeth y DU, ond soniodd am yr angen iddynt osgoi dyblygu cynlluniau Llywodraeth Cymru, er mai Llywodraeth Cymru a ddylai osgoi dyblygu cynlluniau'r DU mewn gwirionedd. Yna rhoddodd y rhestr hir arferol i ni o gynlluniau Llywodraeth Cymru yn y gorffennol, y presennol ac o bosibl yn y dyfodol.
Mae'r oedi gan Lywodraeth Cymru cyn ailagor yr economi wedi bod yn niweidiol i economi fregus Cymru. Cymerwch drafnidiaeth teithwyr, lle cyflwynodd y diwydiant gynnig i Lywodraeth Cymru ar 15 Mai a fyddai'n galluogi gweithredwyr i wella gwasanaethau bws, cynnig wedi'i gostio'n llawn, ond maent yn dal i ddisgwyl am ymateb swyddogol ystyriol ac erbyn hyn Cymru yw'r unig wlad yn y DU sydd heb gytuno ar gyllid i weithredwyr trafnidiaeth i ddechrau gwella gwasanaethau er mwyn gallu talu am wasanaethau ychwanegol.
Cymerwch ein sector gwely a brecwast: yn Lloegr a'r Alban, mae grantiau ar gael i weithredwyr gwely a brecwast nad oeddent yn gymwys ar gyfer unrhyw gynlluniau cymorth grantiau COVID-19 eraill. Yng Nghymru, fodd bynnag, nid yw busnesau gwely a brecwast cyfreithlon yn gymwys i gael grantiau cyfatebol. Fel y gofynnodd un busnes yr effeithiwyd arno i mi heddiw: 'Dyma oedd ein prif incwm a'n hunig incwm. A wnewch chi ddweud wrth Ken Skates, Mark Drakeford a Gweinidogion eraill yn Llywodraeth Lafur Cymru ein bod bellach wedi cyrraedd pen ein tennyn, yn gorfforol, yn feddyliol ac yn emosiynol?' Mae hyn yn warthus.
Cymerwch ein marchnad dai hanfodol: mae Llywodraeth Cymru wedi methu agor y farchnad dai yng Nghymru ar y cyd â gweddill y DU, lle mae gweddill y DU yn rhoi rhagofalon synhwyrol ar waith i ddiogelu pawb. Cymerwch ymarferwyr deintyddol: yn Lloegr, maent wedi ailagor gyda rheolau caeth, ond yng Nghymru, maent wedi dweud wrthyf mai'r unig air i ddisgrifio ymateb ysgrifenedig y Gweinidog iechyd i mi yr wythnos diwethaf yw sbin, a bod y rhan fwyaf o ddatganiadau Llywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf wedi'u dadwneud yn gyflym dros y penwythnos drwy ddatganiadau pellach yn camu nôl o'r datganiadau gwreiddiol ac yn newid y broses.
Cymerwch fusnesau sy'n gosod tai gwyliau: mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y gallai busnesau hunanarlwyo ailagor ar 13 Gorffennaf, cyn belled â'u bod yn cadw at ganllawiau'r Llywodraeth. Bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynglŷn â hyn ar 9 Gorffennaf, a dywedodd Gweinidog yr economi, Ken Skates, wrth y cyfryngau yng ngogledd Cymru fod canllawiau cynhwysfawr wedi cael eu rhoi ar waith ar gyfer y sector twristiaeth a lletygarwch er mwyn sicrhau bod modd ailagor y sector mewn ffordd ddiogel. Ond mae busnesau hunanarlwyo yn dweud wrthyf, 'Rwyf newydd siarad â'n cyngor ac nid yw'r canllawiau ganddynt,' ac yn gofyn, 'Beth yw'r canllawiau a ble y gallaf ddod o hyd iddynt?'
Ac yn olaf, cymerwch ganol trefi. Canfu'r Centre for Towns mai Cymru yw'r rhan sy'n perfformio waethaf yn y DU o ran ei lles economaidd, ac y bydd cymunedau penodol, yn cynnwys hen drefi diwydiannol mewn rhannau o Gymru, angen mecanwaith cymorth effeithiol ar lefel leol i gynorthwyo busnesau i gynllunio eu strategaethau adfer, gan adleisio gwaith Ymddiriedolaeth Carnegie.
O ystyried hyn i gyd gyda'i gilydd, rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn ac yn annog pawb i'w gefnogi, gan gydnabod bod y pandemig hwn yn argyfwng iechyd cyhoeddus ac yn argyfwng economaidd. Diolch yn fawr.