Part of the debate – Senedd Cymru am 6:13 pm ar 24 Mehefin 2020.
Yn ystod y misoedd diwethaf hyn, mae'r ymdrechion wedi bod yn canolbwyntio'n briodol ar effeithiau'r pandemig ar iechyd, ond rydym mewn sefyllfa bellach lle mae hefyd yn briodol fod ffocws manwl, arweiniad clir a chymorth cyllidol yn cael eu rhoi i ysgogi economi Cymru. Wrth inni geisio llacio rhai o'r agweddau mwy caeth ar y cyfyngiadau, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru nid yn unig yn darparu cymorth effeithiol i danio ein heconomi, ond ei bod hefyd yn adolygu ein cynllun economaidd ac yn ymrwymo i ddiogelu Cymru ar gyfer y dyfodol o safbwynt datblygu'r sector diwydiant. Felly, hoffwn ganolbwyntio yn fy nghyfraniad ar ddau sector sy'n hanfodol i sicrhau ffyniant fy etholaeth a rhannau cyfagos o dde-orllewin Cymru, heddiw ac yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sôn am bwysigrwydd adeiladu economi werdd newydd, a fydd yn canolbwyntio ar ynni adnewyddadwy, busnesau cynaliadwy, ac adeiladu ar y gostyngiad mewn allyriadau carbon, sydd wedi bod yn un o'r ychydig ganlyniadau sydd i'w croesawu yn sgil y cyfyngiadau. Mae angen mwy na siarad. Mae datblygu economi werdd yn hanfodol i'n planed, yn hanfodol ar gyfer ein ffyniant cyffredin a dylai adeiladu ar ddealltwriaeth a derbyniad ehangach i'r agenda hon gan y rhan fwyaf o bobl. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn dweud hyn ers i mi gael fy ethol gyntaf. Rwy'n cofio Jane Davidson a'i hadroddiad ar swyddi gwyrdd, a ysgrifennwyd gan was sifil unig yn rhywle yn Cathays. Mae angen inni weld ymrwymiad i adeiladu economi werdd ac mae gorllewin Cymru mewn sefyllfa unigryw i fanteisio ar y cyfle hwn.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi siarad â nifer o fusnesau sy'n ceisio datblygu technoleg newydd ac sy'n gweithio law yn llaw â rhai o'r busnesau ynni cynaliadwy mwy sefydledig sydd wedi'u lleoli ar hyd Dyfrffordd y Ddau Gleddau. Busnesau fel Seawind, cwmni sy'n datblygu tyrbin gwynt dau lafn unigryw y gellir ei leoli ymhell allan yn y môr, tyrbin gwynt a gaiff ei gynhyrchu a'i gydosod yng Nghymru gobeithio. Byddai Seawind yn ymuno â chwmnïau arloesol eraill, fel Bombora, Tidal Energy Ltd, Marine Power Systems—ac mae llawer o rai eraill—sy'n awyddus i ddatblygu cysyniadau a phrosiectau peilot yn ardal arddangos tonnau de Sir Benfro. Fodd bynnag, Weinidog, mewn maes sy'n cystadlu, gyda'r galw am gymorth busnes ar y lefelau uchaf erioed, rwy'n poeni na fydd y cwmnïau hyn yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i weithgynhyrchu nac yn cael eu cefnogi gyda'u gwaith ymchwil a datblygu.
Rydych wedi dweud eich bod yn dymuno creu economi fwy gwyrdd, ond os ydych am gadw eich gair, pan ddaw'n fater o greu economi fwy gwyrdd, bydd angen i chi wneud penderfyniadau anodd, mentro'n ofalus wrth gefnogi busnesau sy'n cychwyn, buddsoddi mewn technolegau newydd a darparu'r adnoddau a'r mynediad at y cymorth y bydd y cwmnïau hynny eu hangen. A fyddech yn barod i fynychu digwyddiad bwrdd crwn gyda chwmnïau ynni adnewyddadwy yn fy etholaeth, cwmnïau newydd a rhai sefydledig, i drafod pa gymorth sydd ei angen arnynt i brif ffrydio eu cynnyrch a'i ymgorffori yn economi Cymru?
Ac os mai gwyrdd yw'r dyfodol, Weinidog, y diwydiannau lletygarwch yw'r presennol, a chyda chefnogaeth, byddant yn cadarnhau enw da Cymru am farchnata cyrchfannau yn y dyfodol. Dyma ddiwydiant a gafodd ergyd arbennig o galed gan y pandemig hwn ac un sydd wedi teimlo effaith uniongyrchol diffyg gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru o ran llacio cyfyngiadau symud i ganiatáu i fusnesau ailagor. Gan fod misoedd yr haf yn allweddol i ddiwydiant tymhorol fel twristiaeth, mae perygl y bydd diffyg sicrwydd ynghylch ailagor a chau ffiniau Cymru, i bob pwrpas, i ymwelwyr o wledydd eraill ac ymwelwyr o Gymru yn cael effaith ddinistriol ar dwristiaeth, yn enwedig yn y sector microdwristiaeth llai sy'n ymgorffori profiadau marchnata cyrchfannau llwyddiannus. Gall llawer ohonynt lynu at reolau cadw pellter cymdeithasol a darparu dihangfa fawr ei hangen i ymwelwyr yng Nghymru.
Fodd bynnag, mae'r gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr o ran cyflymdra agor yn gorfodi cwsmeriaid i droi at fannau eraill. Mae 80 y cant o'r gwesteion blynyddol a ddaw i Gymru wedi bod yma o'r blaen. Bydd agor yn hwyrach na chyrchfannau eraill yn cymell ymwelwyr i gynefinoedd newydd—arferion, nid cynefinoedd, ond mae hefyd yn gynefin, mae'n debyg—yn eu gorfodi i roi cynnig ar gyrchfannau newydd na fyddent fel arall yn eu hystyried. Felly mae colli gwesteion am un tymor yn debygol iawn o droi'n golli gwesteion ffyddlon, a arferai ddod i Gymru, yn barhaol i gyrchfannau eraill, gan effeithio ymhellach ar lwybr tuag at adferiad sydd eisoes yn heriol i'r sector.
Mae gweithredwyr twristiaeth o bob maint wedi bod yn pryderu hefyd am y cyngor roeddent yn ei gael gan Croeso Cymru. Clywais am y ffordd y câi busnesau eu hannog i beidio â hyrwyddo'u hunain ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y cyfyngiadau, gan y gallai hynny annog ymwelwyr i fod eisiau torri'r rheolau ac ymweld â'r ardal. Weinidog, dyma'r gangen o Lywodraeth Cymru sydd â'r gwaith o hyrwyddo Cymru a chefnogi'r sector twristiaeth a lletygarwch. Mae rhoi cyngor i beidio â pharhau i ymgysylltu a datblygu perthynas ag ymwelwyr yn safiad anhygoel. Dylai Cymru fod wedi bod yn dweud, 'Gohiriwch eich ymweliad', nid 'Peidiwch â dod yma'.
Bydd effaith arafwch Llywodraeth Cymru i weithredu yn effeithio ar fwy na'r diwydiant twristiaeth, bydd hefyd yn effeithio ar hyfywedd y cymunedau lleol a'r busnesau manwerthu cyfagos. Gyda llawer o bobl yn osgoi teithio rhyngwladol eleni, nid ydym erioed wedi cael cyfle gwell i annog pobl i gael gwyliau yn y wlad hon, i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ac i hyrwyddo'r agwedd ecogyfeillgar ar wyliau yng Nghymru.
Weinidog, rydym am weithio gyda'n gilydd i helpu Cymru i ddod allan o'r argyfwng yn gryfach. Rydym yn cydnabod gwerth twristiaeth cefn gwlad Cymru i economi Cymru ac mae'n rhaid inni sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Mae gennym fusnesau gwych yng Nghymru—mae llwyth ohonynt yn fy etholaeth i—ac mae gennym botensial i ddatblygu mwy ar draws pob sector. Rwy'n eich annog i gefnogi ein cynnig heddiw ac i ddangos i bobl Cymru y gallwn ffynnu fel cenedl yn y blynyddoedd i ddod drwy weithio gyda'n gilydd.