1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 24 Mehefin 2020.
1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r proffesiwn deintyddol yng Nghymru yn ystod y pandemig coronafeirws? OQ55332
Lywydd, diolch i Caroline Jones am ei chwestiwn. Rydym yn cefnogi'r proffesiwn drwy ailagor gwasanaethau deintyddol yn ddiogel, fesul cam, ac yn seiliedig ar risg. Mae'r holl gamau a gymerwn i leihau'r risg o drosglwyddiad cymunedol hefyd yn helpu i amddiffyn timau deintyddol a chleifion rhag coronafeirws yng Nghymru.
Diolch, Brif Weinidog. Mae'r proffesiwn deintyddol, fel pob sector yn economi Cymru, yn dioddef yn ddifrifol o ganlyniad i’r cyfyngiadau symud. Er y bydd dod allan o lefel y rhybudd coch yn rhywfaint o ryddhad, ni fydd yn ddigon i gefnogi llawer o bractisau, ac ni allwn fforddio colli unrhyw bractis deintyddol yng Nghymru. Mae nifer o bractisau wedi cysylltu â mi, unig berchnogion yn aml, sy'n poeni y bydd colli busnes yn golygu y bydd eu busnesau’n mynd i’r wal ac y byddant hyd yn oed yn colli eu cartrefi. Brif Weinidog, pa gymorth ariannol, y tu hwnt i dalu 90 y cant o werth y contractau blynyddol, rydych yn ei gynnig i ddeintyddion yng Nghymru i sicrhau nad ydym yn colli unrhyw bractisau? Diolch.
Lywydd, rydym yn cefnogi practisau deintyddol yng Nghymru mewn nifer o wahanol ffyrdd. Credaf ei bod yn bwysig crybwyll y gair 'amynedd' wrth siarad am bractisau deintyddol, gan fod yn rhaid i ddiogelwch cleifion a staff barhau i fod ar frig ein hagenda. Mae risg gynhenid ynghlwm wrth nifer o bractisau deintyddol o ran coronafeirws, gan fod technegau aerosol, sy'n anochel ac yn angenrheidiol mewn deintyddiaeth, yn peri risgiau penodol.
Rydym yn cefnogi deintyddion y GIG drwy sicrhau bod 80 y cant o gontractau'r GIG wedi cael eu talu rhwng mis Ebrill a mis Mehefin. Byddwn yn talu 90 y cant o'r contractau hynny o fis Gorffennaf ymlaen. Rydym yn cefnogi'r contractau hynny a'r contractwyr hynny gyda chyfarpar diogelu personol. Felly, mewn ystod eang o ffyrdd, rydym yn cefnogi'r proffesiwn. Y brif ffordd y gallwn eu cefnogi yw drwy sicrhau bod gennym ddull fesul cam sy'n ailgychwyn gweithgaredd deintyddol cyn gynted ac mor ddiogel ag sy'n bosibl, a dyna'r llwybr y byddwn yn parhau i'w ddilyn yng Nghymru, ochr yn ochr â'r proffesiwn.
Bore da, Brif Weinidog. Fe sonioch chi am y triniaethau sy'n cynhyrchu aerosol. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Llywodraeth Cymru, wrth symud ymlaen, yn hyrwyddo bwlch o awr rhwng y triniaethau hynny i ganiatáu i’r aer gyfnewid mewn practisau, ond ychydig iawn o wyddoniaeth sydd y tu ôl i hyn. Edrychodd Ewrop ar 15 munud rhwng triniaethau sy'n cynhyrchu aerosol, ond maent wedi diystyru hynny bellach gan nad oes digon o wyddoniaeth yn bodoli ar y broses benodol honno. Ar ddiwrnod fel heddiw, pan fo'n llonydd iawn, yn boeth ac yn fyglyd, sut rydych yn—? Yn gyntaf oll, ble mae'r wyddoniaeth ar hynny, Brif Weinidog? Ble y gallaf weld honno? Ac yn ail, sut rydych yn awgrymu y gall deintyddion sicrhau bod yr aer hwnnw'n cyfnewid am awr? Oherwydd ni fyddai agor y ffenestri ar ddiwrnod fel heddiw yn ddigon.
Wel, Lywydd, nid yw’r Aelod na minnau’n arbenigwyr ar y wyddoniaeth y tu ôl i ymarfer deintyddol diogel. Am hynny, mae'n rhaid inni ddibynnu ar y bobl sy'n arbenigwyr, a dyna pam fod gennym brif swyddog deintyddol yng Nghymru. Siaradais â Dr Colette Bridgman ddoe ynglŷn â’r cyngor y mae'n ei ddarparu i'r proffesiwn a sut y mae'r cyngor hwnnw'n deillio o drafodaethau ag aelodau blaenllaw o'r proffesiwn. Mae'n rhaid inni ddibynnu ar y bobl sy'n cael eu cyflogi fel y bobl uchaf yn eu maes i roi cyngor i ni. Maent yn adolygu’r cyngor hwnnw’n rheolaidd. Os byddant yn teimlo ei bod yn ddiogel caniatáu mwy o weithgarwch, byddant yn gwneud hynny. Cymerwyd camau gan Dr Bridgman ddydd Gwener diwethaf, ochr yn ochr â'r newidiadau eraill a gyhoeddwyd gennym. Cododd y categori coch ar gyfer deintyddiaeth yng Nghymru er mwyn caniatáu i fwy o driniaethau gael eu darparu'n gynt. Ond ni allwn fwrw ymlaen heb ddibynnu ar gyngor y bobl hynny, sydd mewn sefyllfa well o lawer na mi, a chyda phob parch, mewn sefyllfa well o lawer na'r Aelod, i ddeall y wyddoniaeth ac i roi'r cyngor hwnnw, a dyna fyddwn yn parhau i'w wneud.
Brif Weinidog, mae prif swyddog deintyddol Cymru, Dr Colette Bridgman, wedi nodi y bydd ailagor gwasanaethau deintyddol arferol llawn yng Nghymru yn digwydd fesul cam, a nododd ei bod yn gwbl ymwybodol o’r pryderon ynghylch cyfnod hir o ddiffyg gwasanaethau ar gyfer hylendid y geg. Yn wir, mae prif swyddog deintyddol Cymru wedi dweud ar goedd y byddai Llywodraeth Cymru yn adolygu’r amserlenni'n gyson. Felly, Brif Weinidog, gyda llwyddiant Cymru ar draws gwledydd y DU o ran cadw rhif atgynhyrchu a chyfradd twf lledaeniad COVID-19 yn isel, pa gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod gan bractisau deintyddol ledled Cymru yr hylif diheintio dwylo, y masgiau, y menyg, y cyfarpar diogelu personol, a'r adnoddau rheoli ac atal heintiau angenrheidiol fel y gallant barhau i ailagor pan fydd amgylchiadau'n caniatáu i hynny ddigwydd yn ddiogel?
Ac a wnaiff y Prif Weinidog roi ymrwymiad hefyd i fy etholwyr yn Islwyn y bydd gofal deintyddol yn cael ei ystyried yn faes ffocws blaenoriaethol gan Lywodraeth Cymru fel rhan hanfodol o wasanaeth iechyd gwladol Cymru, gan iddi roi Aneurin Bevan i Lafur Cymru?
Lywydd, diolch i Rhianon Passmore am hynny, a diolch iddi am dynnu sylw at y ffordd y mae pethau wedi cael eu gwneud yng Nghymru. Yn wahanol i Loegr neu'r Alban, mae practisau deintyddol yng Nghymru wedi gallu aros ar agor drwy'r pandemig i roi gofal brys wyneb yn wyneb, a hynny'n ychwanegol at y canolfannau deintyddol brys sydd wedi bod ar agor gennym. Ac wrth gwrs, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r cydweithwyr sy'n gontractwyr yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Mae’r deintyddion sy'n dewis gweithio yn y gwasanaeth iechyd gwladol yn elwa o'r holl fanteision hynny, ac mae hynny'n cynnwys darparu'r mathau o adnoddau a nododd Rhianon Passmore yn ei chwestiwn.
Mae llawer o bractisau deintyddol yn dewis peidio â bod yn rhan o'r gwasanaeth cyhoeddus yma yng Nghymru ac ni allant ddisgwyl gallu dewis peidio â bod yn rhan o'r gwasanaeth ac elwa wedyn o'r holl fanteision a geir o fod yn rhan o'r gwasanaeth. Os ydych yn ymarferydd preifat mewn busnes preifat, mae gennych gyfrifoldeb i sicrhau eich cyflenwadau eich hun o lawer o'r pethau sydd eu hangen arnoch er mwyn gallu bodloni'r safonau rheoleiddiol y bydd yn rhaid i chi barhau i gydymffurfio â hwy.
Ac rwy'n fwy na pharod i roi ymrwymiad i etholwyr yr Aelod yn Islwyn a ledled Cymru fod deintyddiaeth yn wasanaeth blaenoriaethol i ni. Mae deintyddiaeth y GIG yn flaenoriaeth i ni. Cyhoeddodd y Gweinidog iechyd ddatganiad ysgrifenedig ddoe yn egluro sut y byddwn yn ailagor deintyddiaeth mewn ffordd sy'n ddiogel i staff ac yn ddiogel i gleifion, a dyna'r llwybr y byddwn yn parhau i’w ddilyn yng Nghymru.